Ewch i’r prif gynnwys

Prawf gwaed pigiad ar gyfer Covid-19

27 Gorffennaf 2020

Person having a blood spot test carried out

Mae prawf gwaed cyfleus a rhad ar gyfer Covid-19 wedi'i ddatblygu gan wyddonwyr yng Nghymru.

Mae samplau smotiau gwaed sych (DBS) yn cael eu defnyddio ers yr 1960au i brofi a oes gan babis newydd-anedig glefydau wedi'u hetifeddu.

Mae'r prawf gwrthgorff yn rhoi un diferyn o waed o bigiad i'r croen ar gardiau hidlo arbenigol y mae modd eu hanfon i ffwrdd i'w profi mewn labordy.

Mae arbenigwyr o Ysbyty Athrofaol Cymru (Sgrinio Babanod Newydd-Anedig, Imiwnoleg, Profion pwynt gofal, Uned Gofal Dwys a Haematoleg), Prifysgol Caerdydd (Imiwnoleg ac Arloesedd Clinigol) a Gwasanaeth Gwaed Cymru bellach wedi datblygu dulliau DBS er mwyn profi am wrthgyrff Covid-19 mewn oedolion.

Pan fydd y DBS yn cyrraedd y labordy, mae disg o'r cerdyn yn cael ei dorri allan a'r gwrthgyrff yn cael eu rhyddhau gan ddefnyddio hylif arbenigol. Yna, mae'r sampl yn cael ei brofi.

Addasodd gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd y dull DBS ar gyfer Covid-19 drwy ddatblygu prawf gwrthgorff ELISA (Enzyme Linked Immunosorbent Assay). Mae wedi'i fireinio ar gyfer samplau DBS a'i drosi i blatfform awtomatig y GIG yn Adran Imiwnoleg Ysbyty Athrofaol Cymru, gan alluogi i gannoedd o samplau DBS gael eu profi ar yr un pryd.

Dywedodd yr Athro Ian Weeks OBE, Deon Cyswllt ar gyfer Arloesedd Clinigol yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd Prifysgol Caerdydd: “Gallai'r dull hwn fod yn bwysig wrth daclo pandemig Covid-19. Dim ond sampl o waed o bigiad sydd ei angen ar y prawf, yn debyg i glaf â diabetes yn gwirio lefelau'r siwgr yn eu gwaed.

Does dim angen i weithwyr gofal iechyd megis gwaedwyr, nyrsys na doctoriaid fod yno i gymryd y sampl gwaed, gan leihau'r risg bosibl o drosglwyddo haint Covid-19 i'r gweithwyr gofal iechyd neu ganddynt, ac mae'n hawdd mynd â'r sampl adref gyda chi.

Yr Athro Ian Weeks Dean of Clinical Innovation

Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: "Does dim angen poteli na chwistrellau gwaed ar y dull, ac mae'r smotyn gwaed sych ar y cerdyn yn sefydlog ac yn fflat, gan olygu bod modd ei anfon drwy'r post. Bydd yn galluogi profion pan fo pellter yn her, a phan does dim llawer o adnoddau samplo gwaed.

"Os oes angen, gall pobl sy'n gwarchod ei ddefnyddio yn rhan o'r cynllun profi, tracio ac olrhain, ac ar raddfa fawr hefyd. Mae'r dull anfon i mewn yn cysylltu'r profion â phlatfformau labordy canolog awtomatig, sy'n anfon y canlyniadau'n uniongyrchol i systemau patholeg presennol y GIG.”

Dywedodd Len Richards, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae'r prawf DBS yn enghraifft ardderchog o arloesedd clinigol - sy’n addasu technegau a thechnolegau presennol i fynd i'r afael â heriau i'r dyfodol. Mae'n fuddiol iawn mewn sefyllfaoedd pan fo angen llawer o samplau - er enghraifft, wrth brofi poblogaethau penodol megis athrawon, preswylwyr cartrefi nyrsio neu grwpiau o weithwyr gofal iechyd."

Mae'r dull ei hun yn cael ei werthuso ymhellach ar hyn o bryd ar niferoedd mwy o samplau, ac ar hyn o bryd maent yn ceisio cyllid sydd ei angen i alluogi i'r dull gael ei ehangu a'i ddefnyddio'n rheolaidd.