Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth enetig yn pwyntio at gelloedd sy'n gyfrifol am glefyd Parkinson

21 Awst 2020

MRI of the patient's head close-up. Stock image

Mae gwyddonwyr wedi dod o hyd i fewnwelediadau newydd i wreiddiau clefyd Parkinson.

Astudiodd y tîm, o Sefydliad Ymchwil Dementia y DU ym Mhrifysgol Caerdydd a Chanolfan ClefydParkinson Rhydychen, Prifysgol Rhydychen,genynnau mwy na 6,000 o gelloedd o ranbarth sy'n ddwfn yng nghanol yr ymennydd o'r enw substantia nigra, sef ble mae llawer o glefydau niwrolegol yn dechrau.

Yn benodol, roedd ganddynt ddiddordeb yn y niwronau dopaminergig yn y rhanbarth hwn, sef celloedd rydym yn gwybod sy'n chwarae rôl yn rheoleiddio symudiad a gwybyddiaeth ac mae eu colli yn arwain at glefyd Parkinson. Hyd yma, nid yw wedi bod yn glir ai celloedd imiwnedd yr ymennydd, y microglia, sy'n gyfrifol am golli'r niwronau hyn, fel y gwelir yng nghlefyd Alzheimer.

Mae canlyniadau'r astudiaeth ddiweddaraf hon yn awgrymu, yn wahanol i glefyd Alzheimer, y gellir gweld beth sy'n achosi clefyd Parkinson yn y niwronau dopaminergig yn uniongyrchol. Mae ymchwilwyr yn credu y gallai canlyniadau fod yn allweddol ar gyfer datblygu triniaethau newydd.

Dywedodd yr Athro Caleb Webber, a arweiniodd yr astudiaeth ac sy'n gweithio yn Sefydliad Ymchwil Dementia y DU ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae gan y gwaith ymchwil hwn oblygiadau mawr ar gyfer ein dealltwriaeth o glefyd Parkinson gan ei fod yn dweud wrthym ble i edrych am y broblem. Gyda'r gydnabyddiaeth sy'n tyfu o rôl y microglia a niwroadfywiad dilynol yng nghlefyd Alzheimer, mae llawer o wyddonwyr wedi bod yn gofyn a yw niwroadfywiad hefyd yn chwarae rôl fawr yn achosi clefyd Parkinson hefyd.

Fodd bynnag, mae ein canfyddiadau'n amlwg yn pwyntio i ffwrdd o'r syniad hwnnw, gan awgrymu bod angen i ni ail-ganolbwyntio ar ein hymdrechion i'r hyn sy'n mynd o'i le yn y niwronau dopaminergig yn gynnar yn ymennydd pobl sydd â chlefyd Parkinson er mwyn dod o hyd i driniaethau.

Caleb Webber Professor, Dementia Research Institute

Clefyd Parkinson yw'r ail anhwylder niwro-ddirywiol fwyaf cyffredin ar ôl clefyd Alzheimer ac mae'n arwain at rannau penodol o'r corff yn crynu'n anwirfoddol, symudiad araf a chyhyrau stiff ac anhyblyg.

Fel rhan o'i waith i fapio pob cell sy'n rhan o'r substantia nigra, edrychodd y tîm ymchwil ar y genynnau yn rhanbarthau'r DNA a oedd yn gysylltiedig â chynyddu risg person sy'n datblygu clefyd Parkinson a gofynnwyd a oedd y genynnau hyn wedi'u troi ymlaen mewn unrhyw fath penodol o gell. Yn wir, gwelwyd bod nifer fawr o'r genynnau hyn wedi'u troi ymlaen mewn niwronau dopaminergig, gan awgrymu bod y broblem yn codi'n uniongyrchol yn y celloedd hyn.

Mae gwaith ymchwil blaenorol wedi dangos bod y risg genetig ar gyfer clefyd Alzheimer yn dylanwadu fwyaf ar ficroliga, celloedd imiwnedd sy'n gallu achosi llid ar yr ymennydd.

Ychwanegodd yr Athro Webber: “Mae'r substantia nigra yn ardal o'r ymennydd nad ydym wedi astudio'n ddigonol o bell ffordd o gymharu â'r neocortecs, lle mae ymchwil wedi mapio a dosbarthu poblogaethau'r mathau o gelloedd amrywiol yn gynhwysfawr ac wedi nodi'r celloedd sy'n gysylltiedig â chlefydau penodol. Mae angen astudiaethau pellach, megis yr un hon, er mwyn darparu mewnwelediadau i'r achosion posibl ar gyfer clefydau Parkinson yn ogystal ag anhwylderau niwrolegol."

Dywedodd yr Athro Bart De Strooper, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dementia y DU: “Gyda nifer o achosion o glefyd Parkinson yn y DU yn disgwyl i ddyblu erbyn 2065, mae'r angen ar gyfer datblygiadau mewn triniaeth yn hollbwysig.

Dim ond trwy fuddsoddi mewn ymchwil darganfod fel hyn, y gallwn ddatgelu prosesau allweddol y clefyd sy'n gyfrifol am y cyflyrau sy'n achosi dementia.

Rwy'n gobeithio y bydd y gwaith arloesol hwn gan ein hymchwilwyr yng Nghaerdydd a'r tîm yng Nghanolfan Clefyd Parkinson Rhydychen, yn ein cymryd gam yn agosach at ddulliau therapiwteg a all drawsnewid bywydau a rhyddhad ar gyfer y miloedd a effeithiwyd gan y cyflwr dinistriol hwn."

Dywedodd Dr Sara Imarisio, Pennaeth Ymchwil gydag Ymchwil Clefyd Alzheimer y DU: “Mae’r astudiaeth ddiddorol hon yn tanlinellu pwysigrwydd ymchwil gydweithredol sy’n cael ei gynnal trwy nifer o fentrau strategol a ariennir gan Ymchwil Clefyd Alzheimer y DU. Mae'r dull hwn yn golygu y gallwn nodi a thargedu bylchau yn ein gwybodaeth a’r rhwystrau i symud ymlaen, gan sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â chlefydau sy'n achosi dementia yn y ffordd fwyaf effeithiol ac o bob safbwynt."

Cyhoeddir yr ymchwil, “Atlas un gell o'r substantia nigra dynol yn datgelu llwybrau cell-benodol sy'n gysylltiedig ag anhwylderau niwrolegol” yn Nature Communications.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.