Ewch i’r prif gynnwys

Ap newydd er mwyn cadw pellter cymdeithasol ar drafnidiaeth gyhoeddus

4 Awst 2020

Stock image of woman in a mask on public transport

Mae ap sy'n caniatáu i gwmnïau optimeiddio mesurau pellter cymdeithasol ar drafnidiaeth gyhoeddus wedi cael ei greu gan grŵp o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Gall cwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus ddefnyddio'r ap, a grëwyd gan dri myfyriwr PhD mathemateg, i roi cynlluniau seddi ar waith neu gan deithwyr i ddewis sedd ddiogel i eistedd ynddi.

Adeiladwyd yr ap gan ddefnyddio algorithm a elwir yn "algorithm barus" i gyfrifo'r nifer orau o bobl a allai eistedd ar gerbyd trên, yn ogystal â'r drefn seddi orau sy’n cyd-fynd â mesurau cadw pellter cymdeithasol presennol.

Ar ben hynny, mae'r ap hefyd yn gallu cyfrifo allyriadau CO2senario benodol, gan alluogi defnyddiwr i ddod o hyd i'r cynllun seddi mwyaf eco-gyfeillgar mewn ffordd gyflym a hawdd.

“Gyda'r nifer arferol o bobl, mae trafnidiaeth gyhoeddus un fwy eco-gyfeillgar na theithio mewn car gan fod nifer y CO2 a gynhyrchir fesul teithiwr yn llawer is ar y cyfan," dywedodd Josh Moore, aelod o'r tîm.

“Fodd bynnag, o dan amodau pellter cymdeithasol a gan dybio bod unrhyw sedd wag yn cyfateb i deithiwr yn gyrru i'r gwaith yn lle hynny, mae trafnidiaeth gyhoeddus sydd wedi'i phweru gan diesel yn cynhyrchu mwy o allyriadau CO2 fesul teithiwr na char bach."

Er enghraifft, gan ddefnyddio injan trên yn y dosbarth 150 diesel sy'n boblogaidd yn ne Cymru cyfrifodd y myfyrwyr, gan ddefnyddio'r ap, y byddai angen 17 o deithwyr fesul cerbyd ar y trên i'w wneud yn fwy eco-gyfeillgar na char bach.

Fodd bynnag, o dan fesurau pellter cymdeithasol confensiynol, lle mae pobl yn eistedd fwy na 2 fetr ar wahân, byddai'r cerbyd ond yn gallu cael 16 o deithwyr yn eistedd arno.

Un o nifer o fanteision yr ap yw gall mesurau pellter cymdeithasol eraill, megis defnyddio sgriniau plastig, hefyd gael eu cynnwys yn y cyfrifiadau.

Gan ddefnyddio'r senario uchod, dangosodd y tîm y byddai'r cerbyd, wrth gynnwys y sgriniau plastig, yn gallu cael 38 o deithwyr yn eistedd arno, gan ei wneud felly yn opsiwn llawer mwy eco-gyfeillgar.

Lluniwyd yr ap gan dri myfyriwr PhD fel rhan o gystadleuaeth 'Hacathon' genedlaethol a drefnwyd gan y Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC) er mwyn dod o hyd i ddatrysiadau i broblemau cymdeithasol ar ôl Covid-19.

Enillodd y myfyrwyr y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth, gan ennill gwobr o £3,000. Cymerodd yr ap gyfanswm o 5 diwrnod i'w greu ac mae'n seiliedig ar broblem fathemategol o'r enw 'pacio sffêr'.

Dywedodd aelod o'r tîm Lucy Henley: “Mae'r cyfrifiad yn gweithio drwy ddechrau llenwi'r trên o'r cefn, gan roi'r teithiwr cyntaf yn y sedd gyntaf.

“Yna, mae'r ap yn llunio swigen o bellter cymdeithasol o amgylch y teithiwr. Ni ellir defnyddio seddi eraill sydd y tu fewn i'r swigen, felly cânt eu hanwybyddu a rhoddir y teithiwr yn y sedd nesaf sydd ar gael.

“Ailadroddir y broses hon tan fod pob sedd naill ai wedi'i llenwi neu'i dynodi fel sedd wag. Gelwir hyn yn algorithm barus – nid yw'n ystyried pob sedd ar yr un pryd, mae'n dewis y sedd nesaf sydd ar gael."

Ar hyn o bryd mae'r ap yn ffynhonnell-agored a gellir ei ymestyn i gynnwys dyluniadau a meintiau cerbyd gwahanol a hefyd caniatáu i deithwyr nodi pa seddi yn eu cerbyd sydd wedi'u cymryd, fel y gall yr ap gynghori pa sedd sydd fwyaf diogel iddynt ei dewis.

Dywedodd Timothy Ostler, aelod o'r tîm: “Wrth i fesurau'r cyfnod clo barhau i lacio, bydd mwy o bobl yn teithio ar gyfer gwaith a hamdden, gan gynyddu'r galw am drafnidiaeth gyhoeddus.

“Os bydd y gwasanaethau hyn yn cynyddu heb ychwanegu mwy o fesurau diogelwch, gallai trenau a bysiau weithredu ar golled ariannol sylweddol, gan negyddu unrhyw fanteision ar gyfer yr amgylchedd.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ymrwymedig i addysgu, ysgolheictod ac ymchwil rhagorol, ac i gefnogi ei myfyrwyr i wireddu eu potensial academaidd.