Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr Caerdydd yn symud o ymchwilio i ganser i helpu i ddatblygu brechlyn rhag y Coronafeirws

3 Ebrill 2020

Dr Alan Parker
Dr Alan Parker

Mae tîm o wyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi symud o ymchwilio i ganser i waith a allai gyfrannu at frechlyn rhag y Coronafeirws.

Fel arfer, mae’r tîm yn yr Ysgol Meddygaeth yn gweithio ar ailraglennu firysau er mwyn gallu targedu canser a’i ladd - ond bellach maent yn canolbwyntio eu hymdrechion ar y frwydr yn erbyn y feirws newydd sydd wedi cydio yn y byd.

Mae Dr Alan Parker a’i dîm, y mae Ymchwil Canser y DU yn ariannu eu gwaith ar ganser, yn manteisio ar eu harbenigedd ym maes feirysau i chwilio am “adnoddau” y gellir eu defnyddio i gyflwyno brechlyn.

Mae eu gwaith dros y saith mlynedd ddiwethaf wedi canolbwyntio ar adenofeirysau wedi’u haddasu, fel feirws yr annwyd cyffredin er enghraifft, fel fectorau - neu gludyddion - sy’n chwilio am gelloedd canser ac yn eu lladd.

Erbyn hyn, mae gan Dr Parker a’i dîm gronfa helaeth o adenofeirysau, a nawr maent yn ceisio dod o hyd i’r feirysau a allai gael eu defnyddio i gyflwyno brechlyn rhag y Coronafeirws, a’u hailraglennu at y diben hwn.

Maent eisoes wedi adnabod tua hanner dwsin o fectorau firol allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer amgodio antigenau’r Coronafeirws. Antigen yw’r enw ar y rhan o’r feirws a ddefnyddir i sbarduno ymateb imiwnedd yn ddiogel ac ar ôl hyn, ni fydd modd i’r feirws go iawn heintio’r corff. Mewn geiriau eraill, ceir imiwnedd.

“Ein nod yw cynhyrchu brechlynnau posibl a mynd ati wedi hynny i basio’r rhain ymlaen i imiwnolegwyr gael eu profi a gweld a ydynt yn gallu sbarduno’r system imiwnedd i ymateb ac amddiffyn y corff rhag haint y Coronafeirws,” meddai Dr Parker.

“Fel gwyddonwyr, rydym yn ystyried sut gallwn ni i gyd gyfrannu at hyn. Mae pawb yn teimlo yr un fath. Dim ond rôl fach sydd gennym ni yn yr ymdrech enfawr sydd wedi dechrau i fynd i’r afael â’r feirws yma.”

Mae Dr Parker a’i dîm eisoes yn ôl yn y gwaith yn labordai un o adeiladau ymchwil y Brifysgol yn Ysbyty Athrofaol Cymru - gan gadw pellter cymdeithasol drwy’r amser.

“Rhyfedd iawn yw bod yn ôl yn y labordy. Mae mor wag ac yn eithaf iasol mewn gwirionedd,” dywedodd Dr Parker.

“Mae pedwar ohonom ar y tîm sydd bellach wedi cael ‘statws gweithiwr hanfodol’ ac yn amlwg rydym yn gorfod cadw pellter cymdeithasol, felly rydym yn gweithio ar wahân. Mae'n rhyfedd iawn.

“Ond yn ffodus i ni, rydym yn gwbl gyfforddus o ran ein hymchwil. Mireinio fectorau firol er lles therapiwtig yw ein harbenigedd. Rydym wedi newid cyfeiriad rywfaint - o frwydro yn erbyn canser i glefyd heintus - ond rydym yn parhau i wneud yr hyn yr ydym yn hyfedr ynddo ac yn defnyddio ein harbenigedd.

“Nid yw’n newid mewn cyfeiriad y gallwn fod wedi’i ragweld fis yn ôl ond rydym i gyd yn gobeithio mai rhywbeth dros dro yw hyn.

“Mae ymateb y gymuned wyddonol wedi bod yn annhebyg i unrhyw beth rwyf wedi’i weld erioed. Mae faint o wybodaeth ac adnoddau sy’n cael eu rhannu a chyflymder yr ymchwil wedi bod yn anhygoel.

Os gallwn weld unrhyw beth gadarnhaol yn hyn i gyd, y ffordd y mae gwyddonwyr a chlinigwyr academaidd yn dod at ei gilydd ac yn barod i rannu eu cryfderau a’u harbenigeddau fyddai hynny.

Yr Athro Alan Parker Senior Lecturer

Meddai’r Athro Stephen Riley, Pennaeth Ysgol Meddygaeth y Brifysgol: “Mae’n braf gweld sut mae’r gymuned wyddonol ar draws y byd yn codi i wynebu her argyfwng COVID-19. Arwydd o ymchwilydd ardderchog yw defnyddio dulliau cwbl flaenllaw ar draws meysydd gwahanol, er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn.

Dywedodd Iain Foulkes, cyfarwyddwr gweithredol Ymchwil Canser y DU: “Rydym yn falch o’n gwyddonwyr, rhai o’r gorau yn y byd, sy’n symud i ganolbwyntio ar COVID-19 yn ystod y pandemig byd-eang hwn. Maent yn cynnig adnoddau sydd eu dirfawr angen ar adeg o argyfwng cenedlaethol.

“Yn ogystal â Dr Parker a’i dîm, mae llawer o labordai Ymchwil Canser y DU ar draws y wlad yn cynnig adnoddau profi a sgiliau hanfodol. Fel cymuned ymchwil wyddonol, mae angen i ni drechu’r pandemig gyda’n gilydd – po gyflymaf y gwnawn ni hynny, cyflymaf bydd ein hymchwilwyr yn ôl wrthi’n trechu canser.”

Mae Prifysgol Caerdydd eisoes yn arwain sawl prosiect ymchwil a menter newydd ynghylch y Coronafeirws:

  • Mae gwyddonwyr yn olrhain lledaeniad y Coronafeirws ar draws y DU - ac yn ystyried a oes rhywogaethau gwahanol yn dod i’r amlwg - dyma wybodaeth hanfodol i helpu i fynd i’r afael â’r pandemig
  • Mae ymchwilwyr wedi lansio prosiect ymchwil i ganfod agwedd cyhoedd y DU tuag at y pandemig - a bydd y canlyniadau’n helpu i lywio ymateb gwasanaethau gofal iechyd
  • Mae staff a myfyrwyr o’r Brifysgol hefyd yn dod i’r adwy, gan roi cyflenwadau o gyfarpar amddiffynnol (PPE) hanfodol i weithwyr gofal iechyd neu gynnig hyfforddiant mewn sgiliau hanfodol

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.