Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu Rhagoriaeth

20 Rhagfyr 2018

Group of people holding awwards
Yr Athro Kumar a Dr Bartlett yn ymuno ag enillwyr eraill y noswaith am lun o'r grŵp i ddathlu

Mae Athro Gweithrediadau Gwasanaeth a Darllenydd mewn Cyfrifeg a Chyllid wedi'u cydnabod am eu cyfraniadau rhagorol i addysgu a gwella profiad staff yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd 2018.

Derbyniodd yr Athro Maneesh Kumar a Dr Sue Bartlett, o Ysgol Busnes Caerdydd, y gwobrau mewn achlysur dathlu ar 21 Tachwedd yn y Neuadd Fawr, Undeb y Myfyrwyr.

Mae’r Gwobrau’n dathlu staff Prifysgol Caerdydd sy’n mynd yr ail filltir ar draws amrywiaeth o gategorïau.

Eleni, cafodd 188 o aelodau staff unigol a grwpiau o staff eu henwebu ar draws 15 o gategorïau.

Yn ogystal â'r ddau enillydd, gosodwyd Dr Bahman Rostami-Tabar, Darlithydd mewn Gwyddor Rheoli a'r Athro Helen Williams, Deon Cyswllt ar gyfer Dysgu ac Addysgu, ar y rhestr fer ac roedden nhw'n bresennol i ddathlu llwyddiant eu cydweithwyr ar y noson.

Man and woman hold award
Yr Athro Kumar a'i wraig yn dathlu ennill y wobr

Dywedodd yr Athro Maneesh Kumar, deiliad Cadair Gweithrediadau Gwasanaeth Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae'n anrhydedd cael y gydnabyddiaeth hon a hoffwn ddiolch i'r Athro Peter Wells am fy enwebu ac am ei neges hyfryd i gefnogi fy achos. Diolch hefyd i Sarah Lethbridge am gefnogi fy nghais.

“Bu'n bleser addysgu ar yr MBA Gweithredol dros y saith mlynedd ddiwethaf ac arbrofi gyda fy arddull addysgu a dull cyflwyno...”

“Rwy'n credu mewn ymagwedd arbrofol at addysgu a dysgu gan ei fod yn helpu i wreiddio'r dysgu yn y myfyrwyr er mwyn iddynt gymhwyso'r canlyniadau i gyd-destun eu cwmni. Mae'n foddhad enfawr i fi allu ymgysylltu a chynhyrfu a dod o hyd i hwyl mewn pwnc rwyf i wrth fy modd yn ei ddysgu ac ymchwilio iddo.”

Yr Athro Maneesh Kumar Reader in Service Operations, Program Director Executive MBA

Gweld, clywed, gwerthfawrogi

Two women holding award
Dr Bartlett yn derbyn gwobr gan y Rhag Is-Ganghellor yr Athro Holford

Dywedodd Dr Sue Bartlett, Darllenydd mewn Cyfrifeg a Chyllid yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Roedd yn sioc i gael fy enwebu, ac yn fwy fyth o sioc i ennill, ac roedd yr holl negeseuon caredig o gefnogaeth a ddaeth gan fy nghydweithwyr yn adran Cyfrifeg a Chyllid yr Ysgol y diwrnod canlynol yn syfrdanol. Roedd cael fy enwebu gan fy nghydweithwyr yn gwneud i mi deimlo'n ostyngedig...”

“Dwyf i wir ddim yn meddwl fy mod i'n gwneud dim byd arbennig, nac anarferol, ond mae'n bwysig i fi fod staff yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a'u gwerthfawrogi, a'n bod ni i gyd yn cael ein trin yn deg, beth bynnag ein swydd a'n statws.”

Yr Athro Sue Bartlett Head of Accounting and Finance, Reader in Accounting and Finance

“Roedd yn braf darganfod bod pobl yn sylwi ar y gwerthoedd craidd hyn.”

Arweiniwyd y digwyddiad gan yr Athro Karen Holford, Rhag Is-Ganghellor, a'r Athro Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad y Myfyriwr a Safonau Academaidd.

Lle arbennig iawn i weithio ac astudio

Dywedodd Rhag Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Karen Holford: “Pleser o’r mwyaf oedd cyd-gyflwyno’r gwobrau i ddathlu ein pobl ragorol. Roedd yn noson wirioneddol hyfryd a hoffwn ddiolch i bawb a enwebodd gydweithiwr, y rhai a enwebwyd a’r enillwyr am eu brwdfrydedd a’u rhagoriaeth eithriadol...”

“Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl bobl ar draws y Brifysgol sydd yn ei gwneud yn lle arbennig iawn i weithio ac astudio ynddo.”

Yr Athro Karen Holford Professor

Yn ogystal â'r 15 gwobr, rhoddwyd cydnabyddiaeth arbennig i'r Athro Sioned Davies o Ysgol y Gymraeg a dderbyniodd Wobr Cyflawniad Oes, a Julia Leath, Ystadau a Chyfleusterau Campws a dderbyniodd Gwobr yr Is-Ganghellor am Gyfraniad Rhagorol i'r Brifysgol.

Dyma restr yr holl enillwyr a chyfle i wylio ffilmiau byr am y rhai a enwebwyd ym mhob categori.

Rhannu’r stori hon

Newyddion a safbwyntiau ein myfyrwyr, staff a phartneriaid ynghylch popeth sy’n gysylltiedig â byd busnes.