Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilydd o Gaerdydd yn ennill proffesoriaeth fyd-eang

31 Hydref 2019

Prof Dion UK DRI

Gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd yw'r cyntaf yng Nghymru i gael proffesoriaeth o fri gan yr Academi Ymchwil Feddygol.

Mae'r Athro Vincent Dion, o Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU (UK DRI), yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o gywiro'r mwtaniad genetig sy'n achosi Clefyd Huntington.

Anhwylder etifeddol yw Clefyd Huntington sy'n difrodi celloedd nerfau yn yr ymennydd.

Mae'n gyflwr dirywiol ac mae'n gallu effeithio ar symudiad, cof ac ymddygiad.

“Rydym ni'n defnyddio dull golygu genynnau i gywiro mwtaniad yn gorfforol neu i'w atal rhag cael ei fynegi yn y lle cyntaf,” meddai'r Athro Dion.

“Y nod – os yw hyn yn gweithio – yw symud tuag at y clinig, yn ofalus.”

Lansiwyd y broffesoriaeth eleni i gynnig cymorth i ymchwilwyr meddygol sydd wedi symud i'r DU.

Bydd yr Athro Dion, sy'n dod o Ganada yn wreiddiol, yn cael cyllid ymchwil o £500,000 dros dair blynedd, ynghyd â chyfleoedd cefnogi a rhwydweithio.

Roedd wedi bod yn gweithio ym Mhrifysgol Lausanne yn y Swistir ond nawr mae'n parhau â'i waith yn UK DRI.

Gallai'r ymchwil, os yw'n llwyddiannus, gael ei gymhwyso i 12 o anhwylderau niwrolegol eraill, gan gynnwys dystroffi myotonig, anhwylder genetig sy'n effeithio ar swyddogaeth yr ymennydd a'r cyhyrau.

Er bod ymchwil yr Athro Dion ar y cam cyn-glinigol – gweithio ar gelloedd yn y labordy – y nod tymor hir yw cael gwared ar y clefyd yn llwyr drwy ddileu’r achos sylfaenol.

Meddai'r Athro Julie Williams, cyfarwyddwr UK DRI: “Rwyf wrth fy modd bod Vincent wedi ymuno â Sefydliad Ymchwil Dementia y DU ac rwy'n meddwl y gallai ei ymchwil newid bywydau yn y dyfodol.”

Mae canolfan ymchwil Caerdydd yn un o’r chwe sefydliad sy’n ffurfio UK DRI: yn fuddsoddiad ar y cyd gwerth £290m rhwng y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) y Gymdeithas Alzheimer ac Ymchwil Alzheimer y DU.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.