Ewch i’r prif gynnwys

Undeb neu Annibyniaeth?

6 March 2020

The Senedd

Her enfawr fydd cau bwlch cyllidol Cymru, ni waeth beth fo dyfodol cyfansoddiadol y wlad, yn ôl ymchwil newydd.

Mae’r adroddiad, gan academyddion yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, yn asesu sefyllfa gyllidol bresennol Cymru yn rhan o’r DU, ac yn ystyried rhai o’r goblygiadau cyllidol pe bai Cymru’n annibynnol.

Mae’n dod i’r casgliad y bydd cau’r bwlch – neu gyflawni dyheadau ‘lefelu fyny’ llywodraeth y DG – yn anodd dros ben, ni waeth beth fo trefniadau cyfansoddiadol Cymru yn y pen draw.

Dywedodd yr ymchwilydd Guto Ifan: “Ar hyn o bryd, mae bwlch o tua £4,300 y person rhwng gwariant Cymru a’i refeniw ar y cyfan, sy’n sylweddol o fwy na chyfartaledd y DG, sef £620.

“Nid yw Cymru’n unigryw o bell ffordd: gwladwriaeth hynod anghytbwys yw’r DG, lle mae gan 9 o’r 12 cenedl a rhanbarth ddiffyg cyllidol a ariennir gan ‘drosglwyddiadau cyllidol’ gan y tri rhanbarth arall.

“Ni waeth beth fo rhethreg llywodraeth y DG am hybu rhanbarthau’r DG sy’n tanberfformio, bydd newid hynt economaidd Cymru tra’n rhan o’r DG yn golygu newidiadau sylfaenol.

‘Mae trosglwyddiadau cyllidol gan weddill y DG yn cyllido diffyg ariannol Cymru, ond nid yw’r trosglwyddiadau hyn yn canolbwyntio ar fuddsoddiadau – fel cysylltiadau rheilffyrdd cyflymder uchel neu waith ymchwil a datblygu a ariennir gan y llywodraeth – a fyddai’n galluogi economi Cymru i wrth-droi ei berfformiad cymharol a’n sefyllfa gyllidol.

Ar yr un pryd, er bod annibyniaeth i Gymru’n agor posibilrwydd o adeiladu economi mwy cynaliadwy, cyfartal ac – yn y pen draw efallai – cyfoethog, byddai angen newidiadau helaeth a brys i bolisïau cyfredol ynghylch trethi, gwario a’r economi.

Guto IfanResearch Associate

"Yn y byrdymor yn arbennig, byddai pontio i Gymru annibynnol yn dod am gost sylweddol.”

Mae canfyddiadau’r adroddiad yn codi her i gefnogwyr yr Undeb ac Annibyniaeth fel ei gilydd.

I’r rheiny sydd am weld Cymru’n parhau’n rhan o’r DG, mae’r adroddiad yn cwestiynu a fydd problemau economaidd, cyllidol a chymdeithasol dwfn Cymru’n gwella o dan drefniadau llywodraethol economaidd presennol.

I’r rheiny sydd o blaid annibyniaeth, mae’r adroddiad yn dadlau bod angen cymedroli dyheadau yn ôl y tebygolrwydd y byddai angen cynyddu trethi neu leihau cyllidebau’n sylweddol ar Gymru annibynnol, a lefelau is o dreulio nwyddau a gwasanaethau yn yr economi, yn y tymor byr i ganolig o leiaf.

Mae’r adroddiad hefyd yn ystyried nifer o gynigion y mae cefnogwyr annibyniaeth wedi’u codi ers i Ganolfan Llywodraethiant Cymru gyhoeddi Gwariant a Refeniw Llywodraethol Cymru yn 2016 a 2019, gan gynnwys gwariant ar amddiffyn cenedlaethol, dyled y llywodraeth, pensiynau a pholisïau ariannol a chyllidol posibl Cymru annibynnol.

Hyd yn oed o dan dybiaethau hael iawn ynghylch trefniadau ôl-annibyniaeth, mae bwlch cyllidol Cymru’n sylweddol o hyd.

Ychwanegodd Guto Ifan: “Rwy’n gobeithio bydd yr adroddiad hwn yn sbarduno trafodaeth wybodus ac estynedig am y math o economi a chymdeithas yr ydym am eu gweld yng Nghymru a’r ffordd orau o’u cyflawni.”

Share this story

We undertake innovative research into all aspects of the law, politics, government and political economy of Wales, as well the wider UK and European contexts of territorial governance.