Caerdydd i agor canolfan newydd ar gyfer deallusrwydd artiffisial a roboteg
19 Medi 2019
Bydd canolfan ar gyfer technolegau blaengar, o robotiaid a cherbydau diyrrwr i rithrealiti, deallusrwydd artiffisial a systemau seibr-ffisegol, yn cael ei hagor ym Mhrifysgol Caerdydd o ganlyniad i fuddsoddiad mawr gan gronfa Ewropeaidd.
Bydd y ganolfan newydd sbon ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Dyn-Peiriant (IROHMS) yn amlygu Caerdydd a de Cymru fel hyb ar gyfer technolegau arloesol sydd ar gynnydd.
Bydd y ganolfan ryngddisgyblaethol yn adeiladu ar arbenigedd ymchwil sy’n rhagori ar lefel fyd-eang yn Ysgolion Peirianneg, Cyfrifiadureg a Gwybodeg a Seicoleg Prifysgol Caerdydd, ac ar brofiad sefydlog rhaglenni ymchwil graddfa-fawr yn y meysydd hyn.
Mae prosiectau ymchwil proffil-uchel blaenorol wedi cynnwys datblygu robotiaid lled-awtomatig i gefnogi hen bobl yn eu cartrefi, dyfais gludadwy ar gyfer canfod anaf trawmatig i’r ymennydd yn gynnar a’i drin, yn ogystal â rhyngweithiadau dynol a defnyddioldeb cerbydau diyrrwr.
Bydd IROHMS yn canolbwyntio ei ymchwil ar lawer o sectorau o bwysigrwydd strategol i Gymru, gan gynnwys gweithgynhyrchu digidol uchel ei werth, peiriannau ffatri di-wifr, awyrofod, cerbydau awtomatig, a’r heriau cymdeithasol sy’n wynebu gofal iechyd a byw â chymorth.
Bydd y ganolfan £3.5 miliwn, wedi’i hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yn gwneud yn siŵr mai yng Nghaerdydd y gwneir y genhedlaeth nesaf o ddarganfyddiadau ymchwil trawsnewidiol, gyda chymorth gan ryw o feddyliau mwyaf disglair yn y maes.
Bydd y cyllid hefyd yn helpu i atgyfnerthu’r màs critigol ym meysydd deallusrwydd artiffisial a roboteg sy’n bodoli ar draws de Cymru ar hyn o bryd, yn ogystal â meithrin partneriaethau newydd gydag arbenigwyr diwydiannol a hybu buddsoddiad ar draws y maes.
Y gwir amdani yw bod IROHMS wedi cael dros 40 o lythyron o gefnogaeth gan ddiwydiant, y sector cyhoeddus ac addysg uwch, gyda llawer yn mynegi diddordeb mewn ymchwilio a dylunio ar y cyd, rhwydweithio a digwyddiadau, Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, darlithoedd gwadd, adolygu gan gymheiriaid, a mentora.
Caiff cyfleusterau hynod flaengar ym Mhrifysgol Caerdydd eu gwella hefyd, gan gynnwys datblygu labordy roboteg, labordy recordio symudiadau, labordy Rhyngrwyd y Pethau, ynghyd a llawer o fuddsoddiadau eraill.
Meddai’r Athro Rossi Setchi, Prif Ymchwilydd IROHMS: “Mae’r ganolfan newydd hon yn seiliedig ar weledigaeth o fyd sy’n canolbwyntio ar bobl, yn rhyngweithiol, yn gydgysylltiedig, yn gyfoethog o ran data, yn ddwys ei gwybodaeth ac yn glyfar.
“Drwy gynnull ein harbenigedd i gyd o dan un faner, byddwn yn manteisio’n llawn ar ein harbenigedd ymchwil ac yn sbarduno arloesedd fydd yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau pwysicaf i gymdeithas.
“Ein nod yw gwneud de Cymru yn ardal o ragoriaeth ym meysydd Dealltwriaeth Artiffisial, Roboteg, a Systemau Dyn-Peiriant, sydd o fri byd-eang, a denu buddsoddiadau ymhellach a’r arbenigedd ymchwil gorau yn y byd.”
Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: “Mae’r llywodraeth am weld Cymru ar flaen y gad o ran arloesedd a yrrir gan ddata. Bydd y Ganolfan ragorol hon yn targedu cyfleoedd newydd sy’n dod i’r amlwg yn y diwydiant Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Pheiriannau Dynol gan roi hwb pellach i’n henw da yn y maes ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol.
“Mae’n bleser gennyf agor y cyfleuster newydd hwn sydd wedi cael £1.8m gan yr UE. Bydd yn galluogi rhagor o gydweithio â busnesau a sefydliadau eraill ac yn cryfhau’r effaith y mae Cymru eisoes yn ei chael yn y sector.”