Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect ASTUTE yn cyrraedd rhestr fer un o wobrau’r UE

16 Gorffennaf 2018

2018 Regio Stars Cat 1 Logo

Mae ASTUTE yn un o ddau brosiect Cymreig sydd ar restr fer Gwobr RegioStars yr Undeb Ewropeaidd.

Cynghrair hyfyw rhwng wyth prifysgol yng Nghymru yw ASTUTE (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch 2010-2015), a ffurfiwyd yn benodol i ysgogi twf economaidd rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae’r prosiect, a ariannir gan yr UE, yn hybu cydweithio rhwng prifysgolion a’r diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru, gan gyfuno’r datblygiadau arloesol diweddaraf, arbenigedd penodol a’r cyfleusterau mwyaf modern er mwyn i weithgynhyrchwyr yng Nghymru gael cyfle i gydweithio ag academyddion o fri ac arbenigwyr o fyd diwydiant.

Mae dros 250 o gwmnïau wedi ymgysylltu ag ASTUTE, gan greu gwerth dros £200m o effaith economaidd, 383 o gynnyrch newydd, 174 o swyddi a 10 menter newydd – sydd wedi ychwanegu’n sylweddol at economi Cymru.

Mae cyflawniadau prosiect ASTUTE wedi sbarduno’r rhaglen ddilynol, ASTUTE 2020, sy’n ceisio galluogi lefelau uwch o arloesedd busnes ym maes gweithgynhyrchu i’r dyfodol.

Meddai’r Athro Mohamed Naim (Arweinydd ASTUTE Caerdydd) a’r Athro Rossi Setchi (Arweinydd ASTUTE 2020 Caerdydd): “Rydym wrth ein bodd bod prosiect ASTUTE ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr yr Undeb Ewropeaidd am gefnogi camau pontio deallus ym myd diwydiant.

“Mae tîm ASTUTE Caerdydd yn falch iawn o gael y cyfle i gynnig arbenigedd profedig o’r radd flaenaf i gwmnïau gweithgynhyrchu o Gymru, a chyfleusterau mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys roboteg a systemau awtonomaidd, cynhyrchu digidol, gweithgynhyrchu ychwanegion, rhagoriaeth weithredol, cadwyn gyflenwi gadarn a systemau gweithgynhyrchu yn y dyfodol. Mae ein cysylltiad agos â diwydiant yn sicrhau bod ein ymchwil yn berthnasol ac yn ystyrlon.

“Mae’r pwyslais hwn ar ymchwil gymwysedig yn ein galluogi i weithio gyda rhai o gwmnïau mwyaf adnabyddus y byd, a chyfrannu ar yr un pryd at anghenion y rhanbarth lleol drwy gydweithio â Busnesau Bach a Chanolig.”

Cystadleuaeth flynyddol yw’r Gwobrau RegioStars, a drefnir gan Gyfarwyddiaeth Gyffredinol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Polisi Rhanbarthol a Threfol, gyda’r nod o ganfod arfer da ym maes datblygu rhanbarthol ac amlygu prosiectau gwreiddiol, arloesol sy’n ddeniadol ac yn rhoi ysbrydoliaeth i ranbarthau eraill.

Bydd Seremoni Wobrwyo RegioStars yn cael ei gynnal ym Mrwsel ar Hydref 9. Mae pleidleisio ar gyfer y wobr dewis gyhoeddus yn agor ar 3 Gorffennaf a gallwch bleidleisio yma.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cynyddu effaith ein hymchwil drwy weithio gyda sefydliadau o bob maint. O gwmnïau newydd bychan i gorfforaethau byd-eang a sefydliadau cyhoeddus a nid-er-elw.