Ewch i’r prif gynnwys

Blas ar fywyd yn y brifysgol

13 Awst 2019

Group of people in lecture theatre
School pupils from all over the UK met current undergrads and attended lectures at Cardiff Business School.

Bu myfyrwyr chweched dosbarth o bob rhan o'r DU yn mwynhau blas ar fywyd prifysgol mewn dosbarth meistr astudiaethau busnes ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Mawrth 16 Gorffennaf 2019.

Cafodd y disgyblion, o Ysgol Cas-gwent yn Sir Fynwy, Ysgol Howell’s a Choleg Dewi Sant yng Nghaerdydd, Ysgol Merched Kesteven and Grantham yn Swydd Lincoln, Ysgol Uwchradd Aylesbury yn Swydd Buckingham a Choleg Queen Mary yn Basingstoke, raglen gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau yng Nghanolfan Addysgu fodern Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd.

Yn ogystal â chael taith o gyfleusterau rhagorol yr Ysgol, bu'r disgyblion yn:

  • derbyn awgrymiadau ar sut i wneud eu cais UCAS ragori.
  • cyfarfod â myfyrwyr israddedig i glywed sut beth yw bywyd prifysgol mewn gwirionedd.
  • mynd i ddarlithoedd a gyflwynwyd gan arbenigwyr marchnata, cyfrifeg, economeg a logisteg yr Ysgol.
Young man using computer

Elfen boblogaidd bob amser yn y dyddiau blasu ac i ddeiliaid cynigion yn yr Ysgol yw'r cyfle i roi cynnig ar ystafell fasnachu fodern yr Ysgol. Dyma'r lleoliad mwyaf o'i fath yng Nghymru, gyda 56 terfynell Bloomberg i fyfyrwyr gael profi cyffro'r farchnad stoc mewn amgylchedd rheoledig.

Ac roedd hyn yn wir unwaith eto gyda'r disgyblion yn dod at ei gilydd i gystadlu mewn cyfres o ffug-gemau marchnad stoc mewn amser real.

Dywedodd Edwin, o Ysgol Cas-gwent, sy'n gobeithio astudio busnes yn y brifysgol: "Cefais gipolwg gwych ar y daith hon o fywyd prifysgol yn Ysgol Busnes Caerdydd."

Trefnwyd y digwyddiad gan Dr Carolyn Strong, Cyfarwyddwr Rhaglen BSc Rheoli Busnes, Dr Eleri Rosier, Cyfarwyddwr Recriwtio Myfyrwyr a Lowri Griffith, Rheolwr Derbyn a Recriwtio.

Student helpers lineup
The School's student representatives were on hand to give pupils the inside scoop on uni life.

Dywedodd Dr Strong: “Roedd yn bleser croesawu myfyrwyr Blwyddyn 12 i'r Ysgol i'n dosbarth meistr astudiaethau busnes. Gobeithio fod y cyfle i brofi addysgu israddedig wedi bod yn fuddiol iddyn nhw a'u bod wedi cael blas ar addysg prifysgol...”

“Bydd ganddyn nhw lawer i feddwl amdano dros y flwyddyn nesaf, wrth iddyn nhw ddechrau ar gylch ymgeisio UCAS, ond am y tro, ar ran pawb yn Ysgol Busnes Caerdydd hoffwn ddymuno haf hwyliog iddyn nhw.”

Yr Athro Carolyn Strong Senior Lecturer in Marketing and Strategy

Rhannu’r stori hon

Find out more about the ways in which we will support you career aspirations.