Ewch i’r prif gynnwys

Cynorthwyydd Bywyd Preswyl y Flwyddyn

31 Mai 2019

Portrait of young woman

Mae ymgeisydd PhD o Ysgol Busnes Caerdydd wedi derbyn cydnabyddiaeth am gefnogi myfyrwyr sy'n byw ym Mhreswylfeydd y Brifysgol yn y Gwobrau Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr cyntaf.

Enillodd Violina Sarma, sy'n cwblhau astudiaethau doethurol yn adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau Ysgol Busnes Caerdydd, wobr Cynorthwyydd Bywyd Preswyl y Flwyddyn yn y seremoni yn Adeilad Julian Hodge ar 11 Ebrill 2019.

Mae'r wobr, a gyflwynwyd gan Simon Wright, Cofrestrydd Academaidd Prifysgol Caerdydd, yn dathlu rôl Violina yn cyfoethogi profiad myfyrwyr gan helpu i greu cymuned yn y preswylfeydd lle gall myfyrwyr brofi ymdeimlad o berthyn a chynhwysiad.

Nodau a dyheadau personol

Mae cydlynwyr a chynorthwywyr o blith myfyrwyr yn rhan o Dîm Bywyd Preswyl y Brifysgol, gan weithio mewn partneriaeth gyda Chefnogaeth a Lles Myfyrwyr, Rheolwyr y Preswylfeydd ac Undeb y Myfyrwyr.

Dywedodd Violina: “Rwyf i'n ei theimlo'n anrhydedd, ac yn ddiolchgar iawn i dderbyn y wobr…”

“Mae'r Tîm Bywyd Preswyl wedi fy helpu i dyfu'n broffesiynol ac yn bersonol yn fy mywyd. Rwyf i'n falch i fod yn rhan o dîm mor wych sy'n gweithio i wella profiadau myfyrwyr.”

1266085

Mae’r Tîm yn annog myfyrwyr i rannu eu profiadau ac i gael mynediad at wasanaethau cefnogaeth o safon a fydd yn eu helpu i wneud y mwyaf o’u bywyd fel myfyriwr a chyflawni eu nodau a’u dyheadau personol.

Certificate and trophy on table

Ymhlith pethau eraill, mae hyn yn cynnwys:

  • cynnig croeso cynnes ac annog proses ddiffwdan o bontio i'r Brifysgol
  • creu diwylliant gyda chymuned yn ganolog
  • dod â myfyrwyr at ei gilydd drwy ddigwyddiadau

Dywedodd Luigi De Luca, Deon Cyswllt ar gyfer Astudiaethau Doethurol yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae'r wobr hon yn haeddiannol ac yn gydnabyddiaeth o ymrwymiad Violina y tu hwnt i'w hastudiaethau PhD…”

“Gobeithio y bydd yn annog ein cymuned o fyfyrwyr, ymchwilwyr ôl-raddedig a chyd-academyddion i barhau i’w cefnogi ei gilydd yn broffesiynol ac yn bersonol bob dydd.”

Yr Athro Luigi De Luca Professor of Marketing and Innovation

Roedd yr Athro Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd ar gyfer Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd hefyd yn bresennol.

Daeth â'r achlysur i ben drwy bwysleisio cyfraniad hanfodol yr holl enillwyr yn cyfoethogi profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhagor am y Tîm Bywyd Preswyl.

Rhannu’r stori hon

Find out more about the ways in which your organisation can work with our students, including placements and live projects.