Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun ‘mabwysiadu cwch gwenyn’ i ysgolion

7 Mai 2019

Pharmabees - pupil holding bee

Bydd y cwmni technoleg dysgu mwyaf blaenllaw yng Nghymru, Aspire2Bee, yn cydweithio â Phrifysgol Caerdydd i annog disgyblion ysgol i ddysgu am bwysigrwydd gwenyn a sut i’w cadw.

Drwy weithio gyda’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol a Coleg Penybont, mae’r cwmni o Abertawe wedi creu is-gwmni, Aspire2Bee, i helpu ysgolion yng Nghymru i fabwysiadu cychod gwenyn mêl a gofalu amdanynt.

Nod y cwmni yw annog ysgolion, busnesau ac unigolion i fabwysiadu eu cwch gwenyn (a’u gwenynwr) eu hunain wrth iddynt dyfu a dysgu sut i greu dyfodol naturiol a chynaliadwy.

Meddai Simon Pridham, Partner Addysg a Pherfformiad yn Aspire2bee: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd yn uniongyrchol.

“Fel y cwmni technoleg dysgu mwyaf blaenllaw yng Nghymru, mae A2B yn ymfalchïo mewn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru ac yn fyd-eang. Rydym yn eu helpu i ddefnyddio technoleg er mwyn manteisio’n llawn ar gyfleoedd dysgu ac addysgu ac er mwyn creu cyffro yn yr ystafell ddosbarth.

“Mae Aspire2Bee wedi nodi ei amcanion yn glir ar gyfer y cwmni. Trwy gydweithio â Phrifysgol Caerdydd, rydym yn cynnig darpariaeth hynod gyffrous i ysgolion mewn cysylltiad ag ymchwil. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm newydd, yn enwedig yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad (AOLE’s) sy’n ymwneud â Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a’r ddarpariaeth dechnolegol drwy raglen benodedig ar y we.

“Gyda’n gilydd, ein nod yw annog ysgolion a busnesau lleol i fabwysiadu eu cychod gwenyn eu hunain a dysgu gyda’n gilydd am bwysigrwydd gwenyn a chynyddu ein hymwybyddiaeth ohonynt.”

Meddai Les Baillie, sy’n Athro Microbioleg yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd: “Yn union fel y mae gwenyn mêl yn creu bywyd newydd drwy gludo paill rhwng planhigion, mae’r Brifysgol yn awyddus i blannu syniadau newydd ymysg pobl ifanc fydd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr yng Nghymru.”

Bydd y pwyslais cychwynnol ar ysgolion yn ‘mabwysiadu’ cychod gwenyn mêl. Bydd yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn cael cynnwys digidol cyfoethog a chynlluniau gwersi sy’n cyd-fynd ag adroddiad Donaldson a’r cwricwlwm newydd yng Nghymru.

Meddai Dr Scott Morgan, Arweinydd Digidol, Coleg Pen-y-Bont ar Ogwr: “Mae gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd ar y prosiect hwn yn ein cyffroi’n fawr. Mae’n cyfuno sgiliau rhaglennu a dealltwriaeth fiolegol o wenyn. Rydym yn edrych ymlaen yn arbennig at weithio ar raglen sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm newydd sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru ac yn galluogi dysgwyr ar draws y sector addysg i gydweithio.”

Ychwanegodd Mark Douglas, Datblygwr Partneriaid, Brandiau a Chleientiaid, Aspire2Bee: “O dan oruchwyliaeth ofalus yr Athro Baillie, rydym hefyd yn datblygu technoleg ‘o fewn cychod gwenyn’ fydd yn galluogi disgyblion i ddefnyddio eu dyfeisiau yn yr ysgol i ‘weld a gwrando’ o fewn eu cychod gwenyn. Caiff hyn ei gyflwyno drwy Ap Gwenyn yr Ysgolion sydd ar y gweill.”

Mae’r Athro Baillie a’i dîm @pharmabees yn hen law ar arloesi ac maent wedi datblygu amrywiaeth o fentrau gyda chwmnïau preifat gan gynnwys Celtic Wellbeing o Gonwy, Welsh Brew Tea o Abertawe, a Bang-On Brewery o Ben-y-bont ar Ogwr.

Rhannu’r stori hon

Yr Ysgol yw un o ysgolion fferylliaeth gorau'r DU ac mae gennym enw da yn rhyngwladol am ansawdd ein hymchwil.