Pharmabees yn ennill gwobr am gynaliadwyedd
11 Rhagfyr 2017
![Pharmabees sustainability award](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0016/1029022/Sustainable-FEHE-Winner-on-stage.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae prosiect gan Brifysgol Caerdydd sy’n canfod cyffuriau o blanhigion sy’n gallu mynd i'r afael ag ‘archfygiau’ mewn ysbytai wedi ennill un o Wobrau Cynnal Cymru - Sustain Wales.
Enillodd Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd y Wobr yng nghategori Sefydliad Addysg Bellach/Addysg Uwch Cynaliadwy am y prosiect Pharmabees.
Mae tîm Pharmabees yn astudio mêl er mwyn ymchwilio i ffytogemegelion gwrthfacterol. Daethpwyd o hyd i gyfansoddion sy’n brwydro yn erbyn MRSA mewn mêl gwenyn yng ngogledd Cymru. Dadansoddwyd y mêl gan y tîm mêl er mwyn datrys y côd DNA a lleoli planhigion y gellir eu defnyddio i ymladd pathogenau sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau fel MRSA (methicillin-resistant Staphylococcus aureus).
Dywedodd arweinydd y prosiect, yr Athro Les Baillie: "Mae tîm Pharmabees yn falch iawn o ennill y wobr hon. Mae'n dathlu ein hymdrechion parhaus i wneud Cymru yn wlad fwy cynaliadwy drwy brosiectau sy'n cynnwys ysgolion lleol, grwpiau cymunedol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol..."
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0018/115506/lesb.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
"Mae wedi bod yn flwyddyn wych i Pharmabees: yn ogystal ag ennill Gwobr Cynnal Cymru, cawsom hefyd gydnabyddiaeth ledled y DU am ein cynaliadwyedd yng Ngwobrau Prifysgolion The Guardian ym mis Mawrth."
Roedd Pharmabees yn un o’r 27 o sefydliadau, prosiectau ac unigolion oedd ar y rhestr fer yng Ngwobrau Cynnal; Cymru – Sustain Wales.
Mae Cynnal Cymru – Sustain Wales yn hyrwyddo datblygu cynaliadwy er mwyn gwneud Cymru yn 'genedl gyfiawn, iach, ffyniannus a charbon isel sy’n defnyddio adnoddau yn effeithlon'.
Yn y Senedd ym Mae Caerdydd y cynhaliwyd y seremoni wobrwyo eleni ac fe’i noddwyd gan Llŷr Gruffydd AC. Cafodd yr enillwyr eu dewis gan banel o arbenigwyr yn ogystal â thros 10,000 o bleidleisiau cyhoeddus.
Dros y degawdau diwethaf, rydym wedi gweld angen cynyddol i atal a rheoli ymlediad ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn ysbytai.