Ewch i’r prif gynnwys

‘Pharmabees’ i wneud colur o fêl

12 Ebrill 2019

Child holding bee

Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda chwmni o ogledd Cymru i greu brand newydd o golur naturiol, Celtic Wellbeing.

Bydd mêl a phlanhigion Cymreig meddyginiaethol sydd wedi cael eu darganfod gan brosiect @Pharmabees y Brifysgol yn helpu PharmaGroup yng Nghonwy i greu amrywiaeth o gynhyrchion, gan gynnwys eli gwefus o fêl.

Y bartneriaeth hon yw’r diweddaraf mewn cyfres o fentrau ar gyfer @Pharmabees, sy’n ymchwilio sut y gall astudio planhigion Cymreig cyffredin sy'n denu gwenyn arwain at ddatblygu cyffuriau i fynd i’r afael ag archfygiau ysbytai sydd ag ymwrthedd i wrthfiotigau traddodiadol.

Dywedodd yr Athro Les Baillie, o’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol: “Mae natur yn ffynhonnell gyfoethog o gynhyrchion fferyllol. Mae pobl yng Nghymru wedi defnyddio mêl a phlanhigion i drin anhwylderau ers miloedd o flynyddoedd.

“Yn wyneb cynnydd mewn ymwrthedd gwrthfiotig a gwrthfeirysol, rydym yn awyddus i ddefnyddio natur i ddarganfod cyffuriau newydd i’n helpu i ymladd y bygythiad hwn sydd ar dwf, ac mae ein prosiect @Pharmabees yn parhau i ganfod samplau mêl a phlanhigion sy’n cynnwys cyfansoddion gwrthficrobaidd sy’n gallu lladd archfygiau ysbytai.

Dywedodd Andy Burrows, Rheolwr NPD yn PharmaGroup: “Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu cynhyrchion Celtic Wellbeing. Mae’n frand ffres, o safon uchel gyda chysylltiadau cryf â threftadaeth Cymru, a bydd yn cael ei weithgynhyrchu yng Nghymru gan ddefnyddio cynhwysion o ffynonellau lleol lle bo modd. Mae gennym gynllun strategol cryf i ddysgu a datblygu ystod o golur swyddogaethol sydd nid yn unig yn gweithio ar arwyneb y croen ond yn dod â manteision iechyd parhaol cynhwysion botanegol a mêl.”

Ychwanegodd Les Baillie: “Os ydym am i botensial llawn ein hymchwil gael ei wireddu, mae angen i ni drosglwyddo ein canfyddiadau yn gynhyrchion yn y byd go iawn.  Ein cynnyrch Celtic Wellbeing cyntaf fydd yr eli gwefus. Byddwn yn cyfuno’r fformiwleiddiad presennol a ddatblygwyd gan y cwmni gyda phlanhigion gwrthficrobaidd penodol a ddarganfuwyd drwy ein gwaith ymchwil.”

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae prosiect @Pharmabees Caerdydd wedi ymuno ag ystod o gwmnïau sy’n cyfuno daioni mêl â chynhwysion botanegol. Mae cynnyrch hyd heddiw yn cynnwys cwrw mêl, Mêl, a grëwyd gan Fragdy Bang-On Pen-y-bont ar Ogwr, a gwaith ar y cyd gyda Welsh Brew Tea o Abertawe i weithgynhyrchu ystod o de sy’n deillio o fêl.

https://www.youtube.com/watch?v=pbeSHt4B3hg

Rhannu’r stori hon

Yr Ysgol yw un o ysgolion fferylliaeth gorau'r DU ac mae gennym enw da yn rhyngwladol am ansawdd ein hymchwil.