Ewch i’r prif gynnwys

Alun Cairns yn ymweld â Sefydliad Ymchwil Dementia y DU ym Mhrifysgol Caerdydd

3 Mai 2019

Alun Cairns at the DRI

Ar ddydd Iau 2 Mai ymwelodd y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns ag Ymchwil Dementia’r DU (UK DRI) ym Mhrifysgol Caerdydd: canolfan £20 miliwn gyda'r nod o ddod o hyd i driniaethau effeithiol ar gyfer dementia.

Yn ystod ei ymweliad aeth yr Ysgrifennydd Gwladol ar daith o gwmpas y labordai a chwrdd â nifer o ymchwilwyr dementia.

Mae canolfan Caerdydd yn un o’r chwe sefydliad sy’n ffurfio UK DRI: yn fuddsoddiad ar y cyd gwerth £290 miliwn rhwng y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) y Gymdeithas Alzheimer ac Ymchwil Alzheimer y DU.

Lansiwyd yr UK DRI yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2018. Mae’n manteisio ar gryfderau ymchwil ynghylch: geneteg dementia; imiwnoleg; dadansoddeg gyfrifiadurol; modelu celloedd a chyfundrefnau; lluniau niwrolegol i nodi mecanweithiau afiechyd a therapïau amryw fathau o ddryswch henaint megis Clefyd Alzheimer.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mwy na 40 o enynnau sy'n cyfrannu at y risg o glefyd Alzheimer wedi cael eu darganfod ac mae’r tîm yng Nghaerdydd yn defnyddio'r wybodaeth hon i weithio ar ddamcaniaethau a darganfyddiadau newydd.

Alun Cairns and Julie Williams with DRI researcher

Ag yntau’n eiriolwr brwd dros bobl â dementia, ar 29 Ebrill rhedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Farathon Llundain Virgin Money 2019 ar gyfer ei Elusen y Flwyddyn, Dementia Revolution.

Mae'r ymgyrch blwyddyn o hyd hon yn dwyn ynghyd Cymdeithas Alzheimer ac Ymchwil Alzheimer y DU i yrru ymchwil dementia arloesol ac arwain yr ymdrechion i ddod o hyd i ffordd o'i wella. Cododd yr Ysgrifennydd Gwladol gyfanswm o £6,000 a fydd yn cael ei wario ar ymchwil dementia.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns: “Ar ôl rhedeg Marathon Llundain i gefnogi Dementia Revolution yr wythnos diwethaf, mae'n wych gweld bod Prifysgol Caerdydd yn cynnal ymchwil arloesol i drin ac atal Dementia. Mae'r Ganolfan Ymchwil Dementia newydd gwerth £20 miliwn ym Mhrifysgol Caerdydd yn dangos cryfder cynyddol ymchwil wyddonol arloesol yng Nghymru ac yn cadarnhau enw da Prifysgol Caerdydd am ragoriaeth academaidd.

With over 45,000 people living with Dementia in Wales, Cardiff University’s revolutionary research is helping to change the outlook of thousands of people across Wales living with the disease today and in the future.

Alun Cairns

Meddai’r Athro Julie Williams, Cyfarwyddwr UK DRI ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’n bleser gennym groesawu'r Ysgrifennydd Gwladol i UK DRI ym Mhrifysgol Caerdydd ac rydym yn awyddus i ddangos iddo'r math o ymchwil arloesol sy'n bosibl o ganlyniad i’r arian y mae wedi'i godi wrth redeg Marathon Llundain.

“Mae buddsoddiad parhaus mewn ymchwil dementia yn hanfodol os ydym am ddarganfod ffyrdd newydd o drin ac atal y math yma o glefydau dinistriol a thrawsnewid y rhagolygon ar gyfer pobl sy'n byw gyda’r rhain nawr ac yn y dyfodol.”

Dementia yw'r bygythiad iechyd mwyaf sy'n wynebu ein cymdeithas heddiw ac ar hyn o bryd nid oes unrhyw driniaethau effeithiol i'w arafu, atal neu wella. Heddiw mae bron i filiwn o bobl yn y DU yn byw gyda rhyw fath o ddementia, a'r mwyaf cyffredin yw clefyd Alzheimer. Yn anffodus, bydd rhyw fath o ddementia yn effeithio ar dreian ohonom.

Rhannu’r stori hon

Mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar draws disgyblaethau i fynd i’r afael â heriau pwysig sy’n wynebu cymdeithas, yr economi a’n hamgylchedd.