Ewch i’r prif gynnwys

Cwrw newydd i ddathlu Graddio Caerdydd

12 Gorffennaf 2018

Graduation beer

Caiff cwrw a fragwyd gyda gwybodaeth wyddonol ei lansio i nodi Graddio Prifysgol Caerdydd 2018.

Mae hopys a phlanhigion wedi'u dewis gan arbenigwyr i greu cwrw golau ffres, blodeuog i fyfyrwyr a'u teuluoedd ei sawru fis Gorffennaf eleni.

Mae 4,500 o boteli o'r cwrw dathliadol wedi'i wneud gan Fragdy Bang-On ym Mhen-y-bont mewn partneriaeth â'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol.

Dywedodd Les Baillie, sy'n Athro mewn Microbioleg: "Yn wreiddiol fe weithion ni gyda Bragdy Bang-On i gynhyrchu cwrw, Mêl, yn defnyddio mêl o'n prosiect Gwenyn Fferyllol @Pharmabees yn Sioe Good Food y BBC fis Rhagfyr y llynedd.

"Mae'r cwrw graddio'n estyniad naturiol o'r prosiect hwnnw. Mae'n cyd-fynd a'n hymgyrch i osod cychod Gwenyn Fferyllol ar draws Caerdydd er mwyn ceisio canfod mêl therapiwtig i gystadlu a mêl enwog Manuka o Seland Newydd.

"Rydym ni'n ceisio canfod cyffuriau sy'n deillio o blanhigion a allai drin pathogenau ysbyty sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau. Mae'r cwrw newydd yn rhan o'n nod i ddatblygu cynhyrchion sy'n creu incwm i gefnogi prosiectau yn y dyfodol."

Bydd cyfran o'r elw o werthiant y cwrw golau ABV 4.2% yn helpu i gefnogi gwaith bioamrywiaeth ac addysgu myfyrwyr y dyfodol am bleserau astudio gwyddoniaeth a thechnoleg.

Dywedodd Neil Randle, sefydlydd Bragdy Bang-On: "Mae'r cwrw graddio'n cynnwys rhai o'r planhigion a'r hopys mwyaf buddiol a ganfuwyd gan Les a'i dim.

"Rydym ni eisoes yn gwneud cwrw pwrpasol i fusnesau, caffis, tai bwyta a hyd yn oed cwrw personol i unigolion gyda sypiau mor fach â 12 potel.

"Felly roedden ni'n meddwl y byddai'n syniad da gwneud cwrw nodedig i helpu graddedigion a'u teuluoedd i gofio dathlu eu diwrnod mawr."

Mae nifer o rywogaethau bacteria wedi magu ymwrthedd i wrthfiotigau dros y degawdau diwethaf. Mae gwaith yr Athro Baillie'n canolbwyntio ar atal a rheoli ymwrthedd gwrth-ficrobaidd mewn ysbytai.

Derbyniodd y Gwenyn Fferyllol, prosiect campws cyfeillgar i wenyn gydnabyddiaeth genedlaethol ac enillodd wobr Cynaladwyedd yn y Guardian University Awards 2017

Bydd y cwrw graddio ar werth yn Oriel VJ, Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Plas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT yn ystod wythnos graddio (16-20 Gorffennaf), am £3.50 y botel. Bydd stoc fach o gwrw mêl hefyd ar werth am £4 y botel.

Rhannu’r stori hon