SPARK yn dangos y ffordd i barciau y gwyddorau cymdeithasol yn Ewrop
21 Mawrth 2019
Mae Prifysgol Caerdydd yn arwain y ffordd yn Ewrop drwy greu Parc Gwyddorau Cymdeithasol (Spark) sy’n dod â manteision i’r gymuned ehangach.
Mae arbenigwyr rhyngwladol yn dweud bod buddsoddiad prifysgol mewn cyfleusterau gwyddorau cymdeithasol pwrpasol yn gallu creu prosesau a gwasanaethau sy’n cael effaith ar fywyd bob dydd.
Bu canmoliaeth i Barc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Caerdydd – sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd – gan gynadleddwyr mewn Grŵp Cyfnewid Gwybodaeth o Ddiddordeb Arbennig ym maes y Gwyddorau Cymdeithasol, y Dyniaethau a’r Celfyddydau ASTP Proton yn ddiweddar.
Mae ystod o sefydliadau academaidd Ewropeaidd wrthi’n dilyn arweiniad Caerdydd ac yn buddsoddi mewn mannau pwrpasol i dreialu a phrofi atebion gwyddorau cymdeithasol.
Bydd y ganolfan Spark newydd – sy’n cael ei hadeiladu yng Nghampws Arloesedd Caerdydd – yn cynnwys amrywiaeth o leoedd lle mae gwyddonwyr cymdeithasol yn gweithio gyda phartneriaid cyhoeddus, preifat a thrydydd sector i ganfod atebion arloesol i broblemau cymdeithasol drwy ymchwil gydweithredol.
Rhoddodd yr Athro Rick Delbridge, Deon Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu ym Mhrifysgol Caerdydd, ‘daith rithwir’ i’r cynadleddwyr o gwmpas SPARK, a fydd yn cynnwys labordai, swyddfeydd a mannau creadigol i ddod â syniadau gwych yn fyw.
“Mae ASTP Proton yn sefydliad Ewropeaidd sydd wedi ymrwymo i drosglwyddo gwybodaeth rhwng prifysgolion a diwydiant”, dywedodd yr Athro Delbridge.
“Roedd y cynadleddwyr, a oedd yn swyddogion trosglwyddo technoleg yn bennaf, yn cydnabod bod Caerdydd yn arwain y ffordd o ran creu lle pwrpasol, penodol lle gellir datblygu syniadau sy’n creu gwerth cyhoeddus ac economaidd gydag ystod o bartneriaid.”
Gall y gwyddorau cymdeithasol helpu i esbonio sut mae ein cymdeithas ein hun yn gweithio - o achosion diweithdra neu’r hyn sy’n helpu twf economaidd, hyd at sut a pham mae pobl yn pleidleisio, neu beth sy’n gwneud pobl yn hapus. Mae’n cynnig gwybodaeth hanfodol i lywodraethau a gwneuthurwyr polisi, awdurdodau lleol, sefydliadau anllywodraethol ac eraill.
Mae nifer o brifysgolion Ewrop yn datblygu canolfannau a fydd yn ategu dull gweithredu Caerdydd.
Christoph Köller yw cyd-sylfaenydd Görgen & Köller GmbH (G&K), cwmni ymgynghori gwyddonol sydd wedi’i leoli yn yr Almaen. Mae’n ymwneud â phrosiectau ar hyn o bryd sy’n canolbwyntio ar effaith y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol yn yr Almaen ac Ewrop, ac mae’n arwain grŵp Cyfnewid Gwybodaeth diddordeb arbennig SSHA.
Dywedodd Christoph: “Mae gan y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Dyniaethau botensial arloesi mawr sydd heb gael ei ddefnyddio’n systematig eto. Mae angen cartref pwrpasol gyda rhwydweithiau, rhaglenni a strwythurau addas er mwyn cefnogi’r broses o greu effaith o fewn y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau yn y ffordd orau posibl. Mae SPARK ar flaen y gad wrth greu seilwaith arloesi pwrpasol ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol. Gan ystyried profiadau SPARK, rydym wrthi’n datblygu Labordy Pwysigrwydd y Dyniaethau ym Mhrifysgol Cologne.”
Mae sefydliadau a gynrychiolwyd yn nigwyddiad ASTP Proton yn cynnwys Swyddogion Trosglwyddo Gwybodaeth o brifysgolion yng Ngwlad Belg, yr Iseldiroedd, y Weriniaeth Tsiec, a’r DU. Cynhaliwyd y gweithdy yn Labordy Dyniaethau Stiwdio Ventures Amsterdam.
Mae’r olaf o’r rhain, sy’n seiliedig ar chwe safle ar draws y ddinas, wedi creu 17 o fusnesau newydd ac yn gweithio gyda staff a myfyrwyr. Mae’n cynnig mannau gweithio a chyfarfod, hyfforddiant, rhaglenni addysgol, ac yn cysylltu myfyrwyr sy’n ddechreuwyr gydag ymchwilwyr a chwsmeriaid.
Dywedodd Jonneke Bekkenkamp, o HL AVS: “Roedd gennym ddiddordeb mawr mewn clywed am y camau y mae Caerdydd yn eu cymryd i greu llwyfan pwrpasol lle gall ymchwilwyr a phartneriaid gyd-leoli a chyd-greu gwybodaeth gyda chwmnïau, sefydliadau addysgol, buddsoddwyr, darparwyr gofal iechyd, entrepreneuriaid, cyrff llywodraethol a sefydliadau cymdeithasol. Mae’n brosiect hynod gyffrous a fydd yn helpu sefydliadau allanol i ganfod cyfleoedd ac atebion newydd i broblemau yn y gymdeithas.”
Mae disgwyl i gyfleuster Spark Caerdydd agor yn 2021. Bydd Spark yn gatalydd i feddwl y tu hwnt i’r cyffredin, mewn man cymunedol sy’n dileu unrhyw rwystrau ac yn hybu rhyngweithio wyneb yn wyneb. Caiff ei leoli yn Arloesedd Canolog (IC), gan roi mynediad i denantiaid at swyddfeydd masnachol ar gyfer busnesau deillio a busnesau newydd, labordai gwlyb/sych, labordy delweddu, mannau creadigol a darlithfa hyblyg i gynnal digwyddiadau.
Drwy hyrwyddo dull cydweithredol sy’n canolbwyntio ar broblemau, bydd yn troi gwaith ymchwil rhagorol yn atebion ar gyfer y byd go iawn.