Ewch i’r prif gynnwys

Gwaith yn dechrau ar Gampws Arloesedd Caerdydd

14 Awst 2018

Maindy Road

Mae'r gwaith i adeiladu Campws Arloesedd modern Prifysgol Caerdydd yn dechrau'r mis nesaf.

Bydd Bouygues UK yn trawsnewid hen iard rheilffordd segur yn ganolbwynt arloesedd. Disgwylir i Gampws Arloesedd Caerdydd agor yn 2021, ac mae ganddo ganolfannau newydd cyffrous fydd yn denu ymchwil a buddsoddiadau.

Bydd y Campws ar Heol Maendy yn datblygu partneriaethau ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus a'r trydydd sector i fanteisio ar syniadau newydd.

Bydd Campws Arloesedd Caerdydd, sy'n gartref i ddau sefydliad ymchwil blaenllaw – y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Sefydliad Catalysis Caerdydd – hefyd yn cynnwys SPARK, parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd, a Chanolfan Arloesedd – man creadigol ar gyfer busnesau newydd, cwmnïau deillio, a phartneriaethau.

Dywedodd Nick Toulson, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol yn Bouygues UK: "Wrth gyflawni'r datblygiad sylweddol hwn i Brifysgol Caerdydd, byddwn yn sicrhau bod y prosiect hwn yn cyfrannu at gynyddu sgiliau lleol, datblygiad a chyflogaeth yng Nghymru. Byddwn yn darparu o leiaf 30 o leoliadau gwaith, yn creu dros 35 o swyddi newydd a phrentisiaethau, ac yn cyflawni dros 1685 o wythnosau hyfforddiant. Byddwn hefyd yn hwyluso lleoliadau ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio pensaernïaeth a sicrhau ein bod yn gweithio'n agos gyda'r gymuned leol drwy gydol cyfnod y cynllun.

Cam cyntaf y broses yw cynnal prynhawn Galw Heibio am Wybodaeth i'r Gymuned lle byddwn yn gwahodd trigolion lleol a busnesau a'r gymuned ehangach i ymuno â ni i drafod y rhaglen adeiladu, gweld cynlluniau'r penseiri, modelau cyfrifiadurol, a mynd ar daith rithwir o gwmpas y Ganolfan Arloesedd."

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Bydd ail gam Canolfan Arloesedd Caerdydd yn troi hen safle tir llwyd yn gyfleusterau cyhoeddus, caffis a mannau cymdeithasol ar Heol Maendy. Bydd y rhaglen adeiladu'n para tair blynedd, a bydd y prosiect yn dod â ffyniant cymdeithasol ac economaidd drwy greu 'Cartref Arloesedd' sy'n rhoi grym ymchwil ar waith.

Mae Prifysgol Caerdydd yn trawsnewid ei hystâd ar gyfer yr 21ain ganrif - y gwaith mwyaf i uwchraddio'r campws ers cenhedlaeth. Bydd y campws yn creu swyddi, yn darddle ar gyfer syniadau, ac yn caniatáu cenedlaethau o fyfyrwyr yn y dyfodol sydd â syniadau gwych i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau enbyd byd-eang."

Bydd Prifysgol Caerdydd a Bouygues UK yn cynnal digwyddiad galw heibio agored i drigolion a chynghorwyr lleol yng Nghanolfan Gymunedol Cathays ar Heol Maendy, rhwng 4pm a 7pm ddydd Mawrth 21 Awst 2018. Bydd Arbenigwyr o Bouygues UK a Phrifysgol Caerdydd wrth law i drafod y prosiect adeiladu a'r wyddoniaeth y tu ôl i'r adeiladau newydd.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn datblygu’r campws ar hyn o bryd yn rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf ar y campws ers cenhedlaeth - buddsoddiad o £600m yn ein dyfodol.