Ewch i’r prif gynnwys

Llygaid rhyngwladol ar Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol

15 Tachwedd 2017

AESIS Conference

Mae tîm o arbenigwyr o un o brifysgolion blaenllaw Estonia’n ymweld â Chaerdydd i ddysgu mwy am gynlluniau ar gyfer Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf y byd.

Bydd y parc, sydd wedi’i glustnodi ar gyfer Campws Arloesedd Prifysgol Caerdydd, yn dwyn arbenigwyr ynghyd er mwyn dod o hyd i atebion byd go iawn i broblemau cymdeithasol byd-eang, o seiberddiogelwch i roi’r gorau i ysmygu. Ers 2013, mae’r tenantiaid newydd wedi denu dros £45m.

Mae’r ymweliad gan ddirprwyon o Brifysgol Tallin ar 15 Tachwedd yn amlygu’r twf yn enw da’r parc yn rhyngwladol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae arbenigwyr o'r Unol Daleithiau, Twrci, yr Iseldiroedd a Gwlad y Basg wedi cyfarfod ag uwch-academyddion o Brifysgol Caerdydd i drafod model y parc. Disgrifiodd David Sweeney – Darpar Gadeirydd Gweithredol Research England – y weledigaeth fel bod yn “gwbl ardderchog”, gan roi’r sylw bod y “Brifysgol yn dangos gweledigaeth real wrth leoli’r parc ochr yn ochr â buddsoddiadau mewn ymchwil lled-ddargludyddion a disgyblaethau gwyddonol eraill.”

Yn ôl Arweinydd Academaidd y parc, yr Athro Rick Delbridge: “Mae'r gwyddorau cymdeithasol yn croesi disgyblaethau academaidd a ffiniau cenedlaethol. Os ydym i ddwyn y meddyliau gorau gorau ynghyd i ddatrys problemau cymdeithas, mae cydweithio rhyngwladol yn hanfodol. Mae model y parc yn dwyn ynghyd gwyddoniaeth gymdeithasol gymhwysol a grwpiau ymchwil rhyngddisgyblaethol o’r sectorau cyhoeddus a preifat, yn ogystal â’r trydydd sector, er mwyn llunio gwybodaeth newydd. Rydym yn awyddus i rannu ein syniadau ar draws y byd.”

Prifysgol Tallinn yw prifysgol dyniaethau fwyaf Tallinn a’r drydedd brifysgol gyhoeddus fwyaf yn Estonia. Ei nod yw datblygu ymchwil o gwmpas ‘ffordd ddeallus o fyw’ a dod o hyd i ffyrdd yn seiliedig ar dystiolaeth o wella cymdeithas Estonia. Mae’n gweithio ar draws pum maes rhyngddisgyblaethol gan gynnwys arloesedd addysgol, a ffyrdd iach a chynaliadwy o fyw. Mae Prifysgol Tallinn yn gartref i Academi Agored sy'n cynnig cyfleoedd i uwchraddio’n broffesiynol a datblygu eich hun.

"Mae'r gwyddorau cymdeithasol yn croesi disgyblaethau academaidd a ffiniau cenedlaethol. Os ydym i ddwyn y meddyliau gorau gorau ynghyd i ddatrys problemau cymdeithas, mae cydweithio rhyngwladol yn hanfodol."

Yr Athro Rick Delbridge Professor of Organizational Analysis

Yn ôl yr Athro Katrin Niglas, Is-Reithor Ymchwil ym Mhrifysgol Tallinn: “Mae ein tîm rheoli yn awyddus iawn i ddysgu am y parc a’r Campws Arloesedd, a sut y mae Prifysgol Caerdydd yn integreiddio rhaglenni astudiaeth gyda gweithgareddau ymchwil a datblygu. Rydym yn awyddus i fanteisio ar arbenigedd Caerdydd gan ein bod wrthi'n dylunio’r model gorau posibl ar gyfer Prifysgol Tallinn.”

Mae SPARK yn rhan o ddatblygiad £300m Campws Arloesedd Prifysgol Caerdydd. Bydd yn gartref i ‘Y Lab’, y labordy arloesedd gwasanaethau cyhoeddus sy’n cynnal Cronfa Arloesedd Digidol £250,000 Llywodraeth Cymru. Mae’r Sefydliad Cydweithredu a Datblygiad Economaidd (OECD) wedi canmol Estonia am ei harloesedd digidol yn y sector cyhoeddus.

Ychwanegodd Dr Andres Jõesaar, Is-brifathro Gweithgareddau Creadigol a Chydweithio: “Mae’r tebygrwydd rhwng Cymru ac Estonia yn gwneud SPARK yn fodel atyniadol. Mae ein maint a'n harbenigedd yn golygu bod gan y ddau ohonom y clystyrau busnes, academia a llywodraethol sydd eu hangen ar gyfer arloesedd yn y sector cyhoeddus.”

Mae Times Higher Education wedi rhoi’r Brifysgol ymhlith y 100 uchaf ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol, addysg, busnes, ac economeg.

Rhannu’r stori hon

Mae SPARK yn diweddaru’r model parc gwyddorau, sy’n caniatáu ymchwilwyr i weithio’n greadigol gyda phartneriaid ar heriau’r gymdeithas.