Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd YN FYW - Pen-blwydd yn 25 oed

8 Mawrth 2019

LIVE banner

Ers 1995, mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi croesawu disgyblion chweched dosbarth ar draws Cymru, gyda'r nod o ymgysylltu, cyffroi ac ysbrydoli disgyblion cenedlaethau'r dyfodol am y wyddoniaeth sy'n sail i reolaeth glinigol o'r clefyd, ac ymchwil meddygol.

Nodwedd allweddol o'r digwyddiad hwn yw dangos y modd y gall chwilfrydedd gwyddonol weithiau arwain at ddatblygiadau mawr ym maes meddygaeth.  Un glasur o enghraifft yw'r modd y gwnaeth astudiaeth o sglefrod môr llewyrchol arwain ymchwilwyr yn yr Ysgol Meddygaeth at ddatblygu technoleg sydd bellach yn cael ei defnyddio mewn sawl can miliwn o brofion clinigol y flwyddyn ledled y byd.

Eleni, mae'r digwyddiad yn 25 oed a bydd disgyblion yn cael eu gwahodd eto i fod yn rhan o deithiau tywys o amgylch labordai, i gael ymdeimlad o gyffro a heriau ymchwil biofeddygol; ymweld ag ystod eang o arddangosfeydd rhyngweithiol, gwrando ar gyfres o sgyrsiau am bynciau llosg amrywiol ym maes gwyddoniaeth biofeddygol yn ogystal â chwrdd â myfyrwyr a chlinigwyr ar draws sbectrwm cyfan gyrfaoedd ym meysydd gwyddoniaeth a gofal iechyd a gofyn cwestiynau iddynt.

Dros y blynyddoedd, mae wedi dod i’r amlwg fod Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd YN FYW, ochr yn ochr â mentrau eraill Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd, yn cael effaith gadarnhaol ar ddylanwadu ar ddewisiadau o ran gyrfaoedd, a chefnogi disgyblion i wireddu'r dewisiadau hynny o gael mynediad i'r Brifysgol.

Yn ôl Thomas Grother, myfyriwr Meddygaeth pedwaredd flwyddyn wnaeth gynnwys addysg feddygol yn rhan o'i radd ymsang y llynedd: "Fe es i ddigwyddiad Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Fyw pan oeddwn yn fyfyriwr chweched dosbarth. Rhoddodd y cyfle i mi edrych ar sawl cwrs gwyddoniaeth gwahanol sydd ar gynnig yn y Brifysgol. Roeddwn eisoes wedi ystyried Meddygaeth, ac roedd yn wych cael y cyfle i gael profiad uniongyrchol a gofyn cwestiynau i staff a myfyrwyr drwy gydol y dydd. Fe es ymlaen i wneud cais i astudio Meddygaeth, a chefais gynnig lle yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Os ydych yn credu yr hoffech astudio cwrs Meddygaeth yn y Brifysgol, dylech yn sicr alw draw yn nigwyddiad Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn FYW!"

Aeth Lisa Jeffers, myfyriwr israddedig 5ed flwyddyn, i ddigwyddiad Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd YN FYW yn 2012. Dywedodd: "Mae fy amser yn yr Ysgol Meddygaeth – sy'n tynnu at ei derfyn nawr, gwaetha’r modd – wedi'i ffurfio er gwell, diolch i Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd. Rwy'n eithriadol o ddiolchgar i'r digwyddiad a'r unigolion sydd ynghlwm wrth ei gynnal. Mae academia a gwaith ymchwil wedi bod yn rhan fawr o'm cwrs gradd, ac rwyf o'r farn bod y diddordeb hwn wedi'i sbarduno nôl yn 2012, gyda'r digwyddiad hwn. Rwyf wedi cael cyfleoedd diddiwedd, gan gynnwys gradd ymsang yng Ngholeg Imperial Llundain, cyhoeddiadau a chyfle ar gyfer lleoliad dewisol gyda Phrifysgol Toronto. Mae'r ffrindiau a wnes nôl yn 2012 bellach yn ffrindiau gydol oes. Diolch, Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd!"

Mae Nicholas Alford, Dirprwy Gyfarwyddwr Adran y Gwyddorau, Ysgol St Cyres, wedi bod yn mynd â disgyblion blwyddyn 12 i ddigwyddiadau Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd YN FYW ers dros 10 mlynedd. Meddai: "Rwy'n edrych ymlaen at fynd â'n myfyrwyr i'r digwyddiad.  Cânt weld hyd a lled ardderchog y cyfleoedd sydd yno ar gyfer gyrfaoedd yn y proffesiynau Meddygaeth.  Mae'r teithiau tywys o amgylch y labordai yn uchafbwynt i'r diwrnod; maent yn dangos pa mor amrywiol yw'r technegau a ddefnyddir o ran diagnosis a thriniaeth fodern.  Mae'r gweithgareddau ymarferol yn gymaint o hwyl ac yn gyfle delfrydol i fyfyrwyr ac athrawon rwydweithio.  Mae'n wych gweld esblygiad y digwyddiad yn ystod yr amser rwyf wedi bod yn mynd â myfyrwyr iddo.  Mae'r tîm Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn ysbrydoli pawb; mae eu hangerdd dros eu gwaith yn amlwg yn eu brwdfrydedd ynghylch y digwyddiad.  Rwy'n awgrymu Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd YN FYW i unrhyw athro neu athrawes Wyddoniaeth. Dyma'r daith Safon Uwch gyson orau y byddwn yn mynd â'n disgyblion arni."

Aeth Dr Matt Morgan, Ymgynghorydd Meddygaeth Gofal Dwys ac Uwch-gymrawd Ymchwil Anrhydeddus, i ddigwyddiad Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd YN FYW pan oedd yn ddisgybl blwyddyn 12. Dywedodd Matt:  "Prin y byddwn wedi credu y byddai mynd i'r dyddiad hwn dros 20 mlynedd yn ôl wedi bod mor bwysig ar gyfer fy nyfodol. Nid wyf yn siŵr a fyddwn yn dal i fod wedi bod yn feddyg, ymchwilydd, awdur ac athro hebddo. Diolch.”

Science demonstration

Fe wnaeth yr Athro Syr Leszek Borysiewicz wedi annog a chefnogi'r digwyddiad Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd YN FYW cyntaf ym 1995. Ddydd Mercher 13eg March, bydd yn cynnal y sgwrs i bawb, 'Gofal Iechyd – 25 mlynedd o gynnydd ond rhagor i ddod?’.

Mae'r Athro Borysiewicz yn imiwnolegydd Cymreig ac ef oedd 345ain Is-ganghellor Prifysgol Caergrawnt.  Roedd hefyd yn Brif Weithredwr y Cyngor Ymchwil Feddygol rhwng 2007 a 2010, ac ef yw Cadeirydd Ymchwil Canser y DU, ar hyn o bryd.   Wrth ddychwelyd i Gaerdydd u fynd i'r 25ain digwyddiad Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Fyw, dywedodd: "Y 25 mlynedd diwethaf fu'r rhai mwyaf cyffrous o ran creu dealltwriaeth a chanfyddiadau newydd.  Go debyg y bydd y 25 nesaf hyd yn oed yn fwy cyffrous.  Mae'r cyfarfod hwn yn gyfle gwych i edrych ymlaen ac ymgysylltu â'r rheini fydd yn ddigon ffodus i gymryd y camau nesaf yn natblygiad dynolryw.

Bydd yr Athro Anthony Campbell – sy'n Gadeirydd y grŵp Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd ers tro – yn cynnal y sgwrs gyffredinol ddydd Iau 14eg Mawrth o'r enw "25 mlynedd sydd wedi chwyldroi Meddygaeth". Ychwanegodd: "Mae'r fenter Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd YN FYW, a alwyd yn wreiddiol yn PUSH (Public Understanding of Science in Health), wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi, cannoedd o staff a miloedd o ddisgyblion ac athrawon, ers i ni ddechrau arni 25 mlynedd yn ôl. Mae cyfraniad pobl ar lawr gwlad wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y fenter a'i chynaliadwyedd. Mae wedi bod yn arloesol wrth ymgysylltu ag ysgolion a'r cyhoedd, nid dim ond yng Nghymru ond ledled y DU ac yn rhyngwladol. Wrth galon ein cenhadaeth roedd cyffroi darpar wyddonwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol ifanc ynghylch yr hyn a wnawn â Gwyddoniaeth mewn ysgol meddygaeth, a'r modd y gall hynny gael effaith ar ofal cleifion, technoleg a'r economi. Hir oes i hynny!"

Dywedodd Dr James Matthews o'r Ysgol Meddygaeth, cadeirydd presennol y grŵp Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd sydd wedi bod i bob un o'r 25 digwyddiad Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd YN FYW: "Mae cryn ymdrech y tu cefn i ddylunio'r teithiau tywys unigol, y sgyrsiau, paneli, cwisiau ac arddangosfeydd ar gyfer y digwyddiad, ond mae'n dra chlir bod yr ymdrech hwnnw'n talu ffordd wrth ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a chlinigwyr.

"Eleni, rydym yn cyflwyno sesiwn DPP ar gyfer athrawon, a'n gobaith yw y bydd hynny'n ddefnyddiol ac yn rhan ddatblygiadol o'r hyn y bydd Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd YN FYW yn ei gynnig yn y dyfodol."

Ychwanegodd yr Athro Gary Baxter, Rhag Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae hwn yn gyflawniad enfawr i Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd YN FYW, a llongyfarchiadau i'r holl staff academaidd a gweinyddol ar bob lefel, Ôl-raddedig i Athrawon, fu'n cynrychioli'r Ysgolion Meddygaeth, Ffarmacoleg, Gofal Iechyd, Deintyddiaeth ac Optometreg o fewn y Coleg, sy’n cyflwyno’r digwyddiad hwn yn llwyddiannus. Mae ein dyled yn enfawr iddynt am eu gwaith caled.

“Mae'n amlwg yn cael effaith ar ddarpar wyddonwyr a gweithwyr gofal iechyd wrth gam hanfodol o ran dod i benderfyniad yn eu bywydau.  Mae'r cyswllt cyntaf hwn ag Ysgolion y Brifysgol ar draws y Coleg wedi ysgogi sawl llwybr gyrfa ysbrydoledig, ac yn dangos y rôl bwysig sydd gan y Brifysgol i'w chwarae wrth gynnal digwyddiadau ysbrydoledig fel Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd YN FYW."

Gall disgyblion sydd wedi'u hargyhoeddi gan yr hyn a ddaw i'w rhan yn ystod y digwyddiad wneud cais ar gyfer cynllun profiad gwaith wythnos o hyd, 'Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd', yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.  Cewch ragor o fanylion yn: https://www.caerdydd.ac.uk/cy/medicine/about-us/engagement/science-in-health

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.