Ewch i’r prif gynnwys

CSC yn cau pen y mwdwl ar brosiect VCSEL blaengar

25 Ionawr 2019

Working at CSC

Mae consortiwm a arweinir gan y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC) wedi cau pen y mwdwl ar brosiect a ariennir gan Innovate UK ar gyfer cynhyrchu dyfeisiau rhatach a chyflymach fydd yn sbarduno technolegau synhwyro’r dyfodol.

Mae CSC, partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd ac IQE plc, wedi bod yn gweithio gyda SPTS Technologies Ltd - un o gwmnïau Orbotech - ynghyd â gwyddonwyr o Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe er mwyn datblygu Laserau Ceudod-Fertigol Allyrru-Arwynebol (VCSELs) a ddefnyddir mewn ffonau clyfar sy’n adnabod wynebau, delweddu 3D a mesur pellterau â laserau.

Mae VCSELS yn ysglodion laser lled-ddargludol sy’n allyrru golau laser o arwyneb uchaf yr ysglodyn, yn hytrach na’r ymyl. Mae hyn yn gadael i ddegau o laserau bach iawn gael eu creu ar un waffer o ddeunydd lled-ddargludol mewn proses fwy syml. Gellir eu profi ar y waffer yn ystod y broses gynhyrchu. O ganlyniad bydd costau cynhyrchu’n is o’u cymharu â thechnolegau laser eraill.

Mae prosiect CSC - ‘Gweithgynhyrchu Laserau Allyrru Arwynebol Ceudod Fertigol yn Effeithlon Iawn (VCSELs)’ - wedi cyflwyno modiwlau prosesu allweddol fydd yn galluogi’r diwydiant i newid o brosesau gweithgynhyrchu diamedr bach, a ddefnyddir ar gyfer VCSELs ar hyn o bryd, i lwyfan waffer lled-ddargludol 150mm (chwe modfedd) hynod unffurf.

Meddai Dr Wyn Meredith, Cyfarwyddwr CSC: “Mae prosiect HEMAN wedi chwarae rôl hanfodol wrth adael i ni fachu ar fanteision cynhyrchedd uwchraddio.

“Mae prosesu un waffer 150mm (chwe modfedd) yn creu llawer mwy o ddyfeisiau na waffer 75mm (tair modfedd).

Bydd hyn yn hybu’r broses i lefel uwch o ran lleihau costau ar gyfer VCSELs, a’u defnydd at ddibenion masmarchnata, megis delweddu 3D, synhwyro agosrwydd, canfod pellterau a chanfod golau a phellterau (LiDAR), a ddefnyddir mewn cerbydau annibynnol.

Dr Wyn Meredith

Mae gwaith CSC yn cynnwys comisiynu offeryn ocsideiddio 150mm addasedig yn y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a ariennir gan yr ERDF. Fe ddefnyddir yr offeryn ar gam hynod heriol o ocsideiddio haenau llawn alwminiwm yn strwythur haenau’r VCSEL yn ddewisol.

Bydd capasiti prototeipio’r VCSEL 150mm, wedi’i hybu gan y consortiwm, yn cyfuno optimeiddio â dilysu deunyddiau epitacsiol VCSEL ar raddfa’r dyfeisiau er mwyn ffurfio cymhwysedd ymchwil a gweithgynhyrchu creiddiol yng nghlwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd CSConnected yn ne Cymru.

Ceir y stori lawn ar yr wefan Compound Semi Conductor Centre yma.

Ac mae CSC wedi ennill cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect drwy gynllun SMARTCymru drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF).

Bydd yr arian yn cefnogi astudiaeth o ddichonoldeb technegol a masnachol prosiect CSC ar gyfer datblygu’r gallu i weithgynhyrchu teclyn Galiwm Nitrid fertigol yn y DU.

Mae dadansoddwyr diwydiannol yn darogan y bydd marchnad pŵer GaN yn cynyddu’n gyflym dros y pum mlynedd nesaf, gan greu cyfleoedd ardderchog i gynhyrchion newydd fachu ar y potensial am dwf.

Mae GaN fertigol wedi cael ei nodi’n dechnoleg addas ar gyfer defnyddiau ynghylch cerbydau modur pŵer is, gan gynnwys cyfleusterau gwefru batrïau o fewn cerbydau hybrid a thrydanol.

Ceir y stori lawn ar y wefan Compound Semi Conductor Centre yma.

https://www.youtube.com/watch?v=y6mhj9Ghydg

Rhannu’r stori hon

The institute provides cutting-edge facilities to help researchers and industry work together.