Ewch i’r prif gynnwys

Gallai dinasoedd chwarae rhan allweddol yng nghadwraeth pryfed peillio

15 Ionawr 2019

White tailed bumblebee
Credit: Graham Stone

O ystyried y pwysau sy'n wynebu pryfed peillio mewn tir amaethyddol, gallai dinasoedd chwarae rôl bwysig yng nghadwraeth pryfed peillio, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae'r ymchwil newydd, sy'n cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, wedi datgelu bod gerddi a rhandiroedd yn dda ar gyfer pryfed peillio a bod tafod yr ych a lafant yn blanhigion gardd pwysig y mae pryfed peillio'n eu defnyddio fel ffynonellau o fwyd.

Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn Nature Ecology and Evolution, ac asesodd pob defnydd y mae pryfed peillio'n ei wneud o dir trefol.  Er bod rhai astudiaethau ar raddfa fach wedi'u cynnal ar bryfed peillio mewn ambell ddefnydd o dir trefol, dyma'r tro cyntaf i wyddonwyr ystyried dinasoedd yn eu cyfanrwydd.

Canfu'r tîm fod gerddi preswyl a rhandiroedd yn arbennig o dda ar gyfer pryfed peillio, a bod lafant, tafod yr ych, dant y llew, ysgall, mieri a blodau menyn yn rhywogaethau pwysig o blanhigion ar gyfer pryfed peillo mewn ardaloedd trefol.  

At hynny, dyluniodd y tîm fodd newydd o fesur llwyddiant rheoli, ar sail cadernid cymunedol, sy'n ystyried sefydlogrwydd cymunedau cyfan o bryfed peillio, ac nid rhywogaethau unigol yn unig.  Mae cadernid yn fesur o'r modd y mae cymuned yn ymateb i golli rhywogaethau; gall cymunedau cadarn oresgyn diflaniad rhai rhywogaethau, ond mae colli rhywogaethau mewn cymunedau bregus yn arwain at effaith ddomino o golli rhywogaethau eraill.

Dyma brif argymhellion yr astudiaeth:

  • Dylid rheoli mannau gwyrdd cyhoeddus fel eu bod o fudd i bryfed peillio. Mae parciau, ymylon ffyrdd a mannau gwyrdd cyhoeddus eraill yn ffurfio tua threian o ddinasoedd, ond mae llai o bryfed peillio'n ymweld â nhw, ac mae ganddynt lai o adnoddau ar gyfer pryfed peillio na defnyddiau eraill o dir. Mae'r ymchwil yn dangos y gall cynyddu niferoedd y blodau, er enghraifft drwy dorri'r gwair yn llai aml, helpu pryfed peillio trefol.
  • Mae gerddi'n ffurfio hyd at chwarter i dreian o arwynebedd dinasoedd y DU, ac mae rheoli gerddi'n well mewn datblygiadau newydd a gerddi sy'n bodoli eisoes yn debygol o fod o fudd i gadwraeth pryfed peillio.
  • Dylai cynllunwyr dinasoedd a chynghorau lleol gynyddu nifer y rhandiroedd mewn trefi a dinasoedd. Mae rhandiroedd yn dda ar gyfer pryfed peillio yn ogystal â phobl a gallai cynyddu eu maint gan hyd yn oed ychydig bach gael effaith gadarnhaol iawn ar bryfed peillio.

Cynhaliwyd y gwaith ymchwil gan wyddonwyr ym Mhrifysgolion Bryste, Caeredin, Leeds a Reading mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd a'r Ganolfan Synthesis Cymdeithasol-amgylcheddol Genedlaethol (SESYNC). Buont yn gweithio ar y cyd â chynghorau lleol ac Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, gan gynnwys: Cyngor Dinas Bryste; Cyngor Dinas Caeredin; Cyngor Dinas Leeds; Cyngor Bwrdeistref Reading; Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Avon; Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Efrog; Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Berkshire, Swydd Buckingham ac Oxon ac Amgueddfa Cymru.

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol enw da ar lefel ryngwladol am ei haddysgu a’i hymchwil, ac mae’n cynnig rhai o’r cwricwla biowyddorau gorau yn y DU sy’n cael ei arwain gan ymchwil