Effaith triniaethau rheoli parasitiaid ar organebau di-darged ac ecosystemau
29 Mawrth 2018
Mae gweithdy yn dwyn ynghyd arbenigwyr sy'n arwain y byd ym maes ecoleg parasit, gwyddor dyframaeth, bioleg pysgod a rhywogaethau goresgynnol i fynd i’r afael â goblygiadau mesurau rheoli parasitiaid ar fywyd dyfrol am y tro cyntaf.
Bydd y gweithdy a ariennir gan NRN-LCEE - Effaith triniaethau rheoli parasitiaid ar organebau di-darged ac ecosystemau’ , 3–6 Ebrill, yn meithrin cysylltiadau newydd ymhlith Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd a’r Sefydliad Ymchwil Dŵr, a chymunedau meddygol, milfeddygol ac ymchwil parasit ecolegol, i daflu goleuni ar y niwed posibl i organebau di-darged ac amgylcheddau sy'n deillio o'r driniaethau rheoli parasitiaid.
Yn ôl Dr Amy Ellison, Cymrawd Ymchwil, Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd: “Bu'n fwy na 50 mlynedd ers i lyfr arloesol Rachel Carson, Silent Spring, dynnu sylw at effeithiau amgylcheddol andwyol y cemegyn DDT, sydd wedi’i ddefnyddio’n rheolaidd ers Rhyfel Byd II i reoli mosgitos ac atal lledaeniad malaria.
“Er gwaethaf hyn, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn parhau i argymell DDT a bywleiddiaid sbectrwm eang eraill yn y frwydr yn erbyn parasitiaid dynol.
“At hynny, mae dwysáu amaethyddiaeth, cynhyrchu da byw a dyframaethu yn arwain at ddibyniaeth gynyddol ar driniaethau cemegol o barasitiaid yn y diwydiannau cynhyrchu bwyd.
“Fodd bynnag, mae effeithiau anuniongyrchol neu ganlyniadol cemegol o’r fath yn cyrraedd ein ecosystemau dyfrol naturiol yn parhau i gael eu hystyried yn wael.
Nod y gweithdy yw mynd i'r afael ag effeithiau rhaglenni rheoli parasitiaid ar amgylcheddau a galluogi rhwydweithiau ymchwil ar y cyd.
Bydd un o ymwelwyr y gweithdy, y parasitydd byd-enwog yr Athro Robert Poulin o Brifysgol Otago yn Seland Newydd, yn rhoi darlith gyhoeddus, “Esblygiad Cipwyr y Corff: Bywyd Cudd Parasitiaid” ar 4 Ebrill, symyd i'r tudalen digwyddiadau i gael rhagor o wybodaeth.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y gweithdy, cysylltwch â Dr Amy Ellison neu Dr Rachel Paterson.