Ewch i’r prif gynnwys

Creu cyffro wrth chwilio am gyffuriau gwrthfacteria newydd

20 Ebrill 2015

Children planting flowers

Mae plant ysgol wedi bod yn brysur yn garddio yng nghanol dinas Caerdydd i annog pryfed peillio i ffynnu ochr yn ochr ag ymchwil y Brifysgol.

Plannwyd eginblanhigion yn yr Aes gan ddisgyblion o chwech o ysgolion y ddinas, a chafodd y disgyblion hyn y cyfle i ddysgu am fathau o blanhigion sy'n annog gwenyn i beillio.

Mae hyn yn nodi dechrau rhaglen rhwng y Brifysgol, ymgynghoriaeth peillio Pollen8 Cymru a chanolfan siopa Dewi Sant a fydd yn arwain at greu ardaloedd eraill ar draws y ddinas sy'n denu gwenyn.

Mae Les Baillie, Athro Microbioleg yn yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, yn defnyddio gwenyn wrth geisio dod o hyd i gyffuriau newydd i drin heintiau mewn ysbytai oherwydd y broblem a achosir gan facteria sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau.

"Mae gan fêl a gynhyrchir gan wenyn briodweddau gwrthfacteria, felly rydym wedi bod yn gweithio gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i ddarganfod mwy," meddai.

"Fel rhan o waith ymchwil a ddechreuwyd gan un o'n myfyrwyr PhD, Jenny Hawkins, rydym wedi gallu adnabod planhigion yr oedd gwenyn yn ymweld â nhw i wneud mêl.

"Rydym bellach yn ceisio rhoi'r planhigion hyn mewn cynifer o leoedd â phosibl er mwyn i'r gwenyn fwydo arnynt a chynhyrchu mêl sydd â phriodweddau gwrthfacteria.

"Mae'n braf gweld cymaint o gefnogaeth leol, ac rwy'n hynod falch y bydd planhigion yn cael eu tyfu yng nghanol dinas Caerdydd."

Mae'r prosiect hwn yn cael ei gefnogi hefyd gan Bartneriaeth Ysgolion Prifysgol Caerdydd a ariennir gan RCUK.

Roddwyd y planhigion gan Ganolfannau Garddio Wyevale, a thrwy gydol yr haf, bydd pob disgyblion pob ysgol yn gallu ymweld â nhw wrth iddynt flodeuo'n llawn, a gweld pa fath o fywyd gwyllt sy'n eu mwynhau.

Mae'r Brifysgol eisoes wedi gweithio gyda chanolfan siopa Dewi Sant i roi cychod gwenyn ar do'r ganolfan, sydd bellach yn gartref i dros 60,000 o wenyn. 

Gan ddefnyddio'r mêl a gynhyrchir o ganlyniad i hyn, mae canolfan Dewi Sant yn cydweithio â'r Brifysgol a Pollen8 Cymru i gynnal gwaith ymchwil i gynhyrchu mêl gwrthfacteria.

Dywedodd cyfarwyddwr canolfan Dewi Sant, Steven Madeley: "Rydym yn falch o allu gwneud ein rhan wrth ddenu bywyd gwyllt i ganol y ddinas, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y planhigion yn tyfu ac yn datblygu dros fisoedd yr haf." 

Ychwanegodd Julian Rees, rheolwr prosiect Pollen8 Cymru: "O'r cychwyn cyntaf, mae'r prosiect hwn wedi ennyn brwdfrydedd aruthrol gan blant ac oedolion i ddysgu mwy am wenyn, glöynnod byw, adar a mathau eraill o fywyd gwyllt."