Ewch i’r prif gynnwys

Only Breath: cerddoriaeth gorawl newydd o Gymru

14 Rhagfyr 2018

Only Breath album cover by Cardiff University Contemporary Music Group

Mae’r Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes wedi recordio a rhyddhau eu halbwm cyntaf, sy’n cynnwys gwaith 13 o gyfansoddwyr byw o Gymru.

Rhyddhawyd Only Breath gan Tŷ Cerdd Records a’i lansio yn yr Ysgol Cerddoriaeth ar 4 Rhagfyr. Mae’n rhoi cipolwg ar ehangder gweithgaredd cerddoriaeth greadigol yng Nghymru heddiw.

Mae’r albwm, sy’n gasgliad o gerddoriaeth gorawl newydd gan gyfansoddwyr sy’n dod o Gymru neu’n byw yn y wlad, yn cynnwys darnau gan nifer o gynfyfyrwyr yr Ysgol Cerddoriaeth gan gynnwys Max Charles Davies, Sarah Lianne Lewis, Gareth Churchill ac Eloise Gynn.

Recordiwyd yr albwm yn Eglwys St Augustine, Penarth yn ystod yr haf, gyda myfyrwyr yn treulio wythnos yn ymarfer a pherfformio yn yr eglwys, gan arwain at berfformiad cyhoeddus ddydd Sadwrn 23 Mehefin.

Wrth drafod y recordiad, dywedodd Dr Robert Fokkens, cyfarwyddwr y Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes:

“Mae’r Grŵp Cerddoriaeth Cyfoes ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i berfformio cerddoriaeth gan gyfansoddwyr byw, ac wedi bod yn astudio darnau gan gyfansoddwyr o Gymru ers nifer o flynyddoedd. Ceir cyfoeth o dalent cyfansoddi yng Nghymru, ac rydym yn gweld y talent hwn yn cael ei gefnogi a’i feithrin fwyfwy - rwy’n gobeithio bod y prosiect hwn yn cyfrannu at godi proffil cerddoriaeth gyfoes yng Nghymru.

“Mae’n hanfodol bod cerddorion ifanc fel y myfyrwyr yn y Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes yn cael cyfle i archwilio cerddoriaeth gan gyfansoddwyr sy’n cyfansoddi ar hyn o bryd ac yn gallu dod i ymarferion ac ymgysylltu â nhw. Mae hyn yn cynnig modelau rôl cryf i’r genhedlaeth nesaf ac yn adeiladu ar yr ymdeimlad o gymuned sydd mor hanfodol i ddyfodol unrhyw waith creadigol.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.