Ewch i’r prif gynnwys

Enillydd Cystadleuaeth Gyfansoddi i Gynfyfyrwyr

7 Tachwedd 2018

Gareth Olubunmi Hughes
© Eisteddfod Genedlaethol Cymru/National Eisteddfod of Wales

Gareth Olubunmi Hughes (PhD Cerddoriaeth, 2016) yw enillydd y Cystadleuaeth Gyfansoddi gyntaf i Gynfyfyrwyr yn yr Ysgol Cerddoriaeth.

Dewiswyd y darn buddugol, Anial Llwyd, gan y panel beirniadu am ei 'liw ac egni angerddol'.

Pan ysgrifennodd Gareth y darn yn nechrau 2017, ei fwriad gwreiddiol oedd cyfansoddi trac sain posibl i ddrama ditectif modern, cyn ei ddatblygu yn ddarn cerddorfaol gyfoes ar gyfer neuadd gyngerdd.

Ganwyd y cyfansoddwr yng Nghaerdydd a chwblhaodd ei PhD mewn Cyfansoddi Cyfoes yn yr Ysgol Cerddoriaeth yn 2016. Enillodd Fedal y Cyfansoddwr ddwywaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2016 a 2012.

Wrth siarad am y gystadleuaeth, dywedodd: "Dewisais gystadlu gan fy mod wedi cyfansoddi darn cerddorfaol newydd dan ddylanwad jazz yn ddiweddar, ac roeddwn i'n teimlo y byddai'n addas ar gyfer perfformiad gan gerddorfa prifysgol. Rwy'n gobeithio y byddant yn cael hwyl yn perfformio'r darnau jazz hefyd!

"Mae'r ffaith fy mod wedi ennill yn deimlad gwych. Fe wnes i fwynhau f’amser yn astudio ac ymchwilio ym Mhrifysgol Caerdydd a byddaf nawr yn cael cyfle i ddychwelyd i'r Ysgol Cerddoriaeth a bod yn rhan ganolog o'u gweithgareddau unwaith eto!"

Dywedodd Dr Arlene Sierra, trefnydd y gystadleuaeth: "Cawsom ymateb gwych i'r gystadleuaeth, gyda thua ugain o sgorau gan gynfyfyrwyr o wahanol oedrannau a chenhedloedd yn arddangos amrywiaeth rhyfeddol o fynegiant a diddordebau cerddorol.

"Roedd dewis un sgôr yn unig yn her i ni ar y panel (yr arweinydd Mark Eager, Dr Nicholas Jones aelod o staff academaidd a minnau). Rydym yn falch iawn ein bod wedi dewis Anial Llwyd gan Gareth Olubunmi Hughes yn enillydd eleni. Dyma’r darn mwyaf addas ar gyfer rhaglen mis Mawrth.

"Rydym yn gobeithio perfformio rhai o’r sgorau eraill yn nes ymlaen hefyd. Diolch i bawb am anfon eu cerddoriaeth atom a gwneud y gystadleuaeth newydd hon yn gymaint o lwyddiant, ac rydym yn edrych ymlaen at y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf."

Bydd cyfansoddiad buddugol Gareth yn cael ei berfformio gan Gerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd mewn cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant ar 31 Mawrth 2019.

Rhannu’r stori hon

Yr Ysgol Cerddoriaeth yn cyflwyno ei chyfres o gyngherddau sydd ar y gweill.