Ewch i’r prif gynnwys

Nifer uchaf erioed o raddedigion yr Ysgol Cerddoriaeth mewn gwaith

19 Gorffennaf 2018

Student playing saxophone

100% o raddedigion 2017 o’r Ysgol Cerddoriaeth mewn swydd gyflogedig neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio.

Yn ôl ffigurau diweddaraf yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ynghylch graddedigion 2016/17 sy’n gyflogedig a gyhoeddwyd yr wythnos hon, mae’r nifer uchaf erioed o raddedigion yr Ysgol Cerddoriaeth wedi cael swydd a/neu wedi parhau â’u hastudiaethau chwe mis ar ôl graddio.

Dyma’r ganran uchaf ers dechrau cofnodi’r ffigurau yn 2012/13 ac mae bron i 5% yn uwch o gymharu â’r llynedd (95.1%). Mae galw mawr o hyd am raddedigion yr Ysgol Cerddoriaeth ymysg cyflogwyr.

Dangosodd y ffigurau hefyd fod 100% mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach. Roedd 74% o’r rhain mewn gwaith proffesiynol neu astudiaeth bellach ar lefel raddedig.

Cafwyd sgôr cyflogadwyedd cyffredinol gwell gan Brifysgol Caerdydd yn ogystal, gan gyrraedd 95.7% a dringo i’r chweched safle ymhlith prifysgolion ymchwil-ddwys Grŵp Russell.

Mae holl fyfyrwyr yr Ysgol Cerddoriaeth yn elwa o sgyrsiau ar Yrfaoedd mewn Cerddoriaeth gan weithwyr proffesiynol yn y maes, yn ogystal â’r cyfle i astudio modiwlau Busnes Cerddoriaeth sy’n cynnig y cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith yn eu hail flwyddyn o astudiaeth.

Dywedodd Dr Charles Wilson, Cydlynydd Busnes Cerddoriaeth ac Arweinydd Cyflogadwyedd yr Ysgol Cerddoriaeth: “Yma yn yr Ysgol Cerddoriaeth, rydym yn annog ein myfyrwyr i feddwl am eu dyfodol o’r diwrnod cyntaf. Rydym yn cynnig profiad gwaith o ansawdd uchel, cyfleoedd datblygu ychwanegol trwy ddosbarthiadau meistr a gweithdai, gan ddod â hwy yn agosach at realiti y proffesiwn ym mhob ffordd.

“Mae’r ffigurau diweddaraf hyn yn dystiolaeth bellach bod ein graddedigion cerddoriaeth yn gadael Caerdydd wedi’u harfogi’n llawn, boed hynny ar gyfer y gweithle neu astudiaeth ôl-raddedig ar y lefel uchaf. Rydym yn falch o weld cynifer ohonynt yn mwynhau llwyddiant.”

Mae Dangosyddion Perfformiad HESA UK 2016/2017: Cyflogaeth pobl ifanc ar gael ar wefan HESA.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.