Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabod cyfraniad a rhagoriaeth oes

3 Rhagfyr 2018

Llun o'r Athro Sioned Davies yn derbyn Gwobr Arbennig gan yr Athro Karen Holford
Yr Athro Sioned Davies yn derbyn Gwobr Arbennig gan yr Athro Karen Holford

Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd 2018 yn anrhydeddu’r Athro Sioned Davies gyda Gwobr Arbennig am Gyfraniad Oes.

Ar nos Fercher 21 Tachwedd mewn seremoni wobrwyo yn y Neuadd Fawr, Undeb y Myfyrwyr, enillodd Sioned glod a chydnabyddiaeth am bron 40 mlynedd o ddysgu ac ymchwilio fel academydd yn Ysgol y Gymraeg, gan gynnwys 20 mlynedd yn bennaeth.

Sioned oedd y fenyw gyntaf erioed i ymgymryd â swydd athro prifysgol ym maes y Gymraeg. Mae wedi chwarae rôl hanfodol bwysig yn natblygiad y ddisgyblaeth ac wedi cyfrannu mewn nifer o ffyrdd arwyddocaol i ffyniant astudiaethau iaith, llenyddiaeth ac addysg yng Nghymru.

O dan ei harweiniad, mae Ysgol y Gymraeg wedi datblygu’n sylweddol o ran ei maint a’i hansawdd. Bu Sioned yn allweddol i nifer o ddatblygiadau cyffrous, gan gynnwys sefydlu  rhaglenni arloesol megis Cymraeg i Bawb a’r Cynllun Sabothol Cenedlaethol.

Mae Sioned yn arbenigwraig mewn llenyddiaeth ganoloesol a’r Mabinogion yn benodol. Yn 2007, derbyniodd ei chyfieithiad Saesneg o’r chwedlau hynny sylw rhyngwladol ac ers hynny mae’r gyfrol, sydd newydd ei hailgyhoeddi, wedi gwerthu dros 50,000 o gopïau ac wedi cyflwyno’r chwedlau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Sioned: “Anrhydedd o’r mwyaf yw derbyn y wobr hon. Rwyf wedi bod yn ffodus dros ben i gael treulio bron i ddeugain mlynedd yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd, ac wedi cael pob math o gyfleoedd yn ystod fy ngyrfa. Pleser pur yw cydweithio â staff ymroddgar ac egnïol Ysgol y Gymraeg.”

Ychwanegodd Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: “Ar ran cymuned yr Ysgol — staff, myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr — hoffwn longyfarch Sioned ar yr anrhydedd hwn. Mae’n gwbl haeddiannol. Heb os, mae cyfraniad Sioned i ddisgyblaeth y Gymraeg, a Chymru gyfan, yn rhywbeth i’w ddathlu ac mae pawb sydd wedi gweithio â hi yn ddiolchgar iddi am ei hegni, ei harbenigedd a’i chefnogaeth dros y blynyddoedd.”

Mae Sioned yn dal yn aelod gweithgar o staff yr Ysgol ac eleni mae’n gweithio ar brosiect newydd ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.