Ewch i’r prif gynnwys

Pennaeth Ysgol y Gymraeg yn rhoi’r gorau i’w swydd

26 Gorffennaf 2017

Professor Sioned Davies and Dr Dylan Foster Evans

Ar ôl bod yn Bennaeth Ysgol y Gymraeg am dros 20 mlynedd, mae’r Athro Sioned Davies yn camu i lawr a chychwyn ar flwyddyn sabothol, cyn dychwelyd i ddarlithio yn Medi 2018.

Yr Athro Davies oedd y fenyw gyntaf erioed i ymgymryd â rôl Athro coleg ym mhwnc y Gymraeg. Mae wedi chwarae rôl hanfodol bwysig yn natblygiad y ddisgyblaeth yn ogystal â chyfrannu mewn ffyrdd arwyddocaol ym meysydd gwleidyddol, llenyddol a chymdeithasol yng Nghymru.

O dan ei harweinyddiaeth, mae Ysgol y Gymraeg wedi datblygu o ran ei maint a’i hansawdd. Caiff yr Ysgol ei chydnabod erbyn hyn am ei harbenigedd blaenllaw ar draws y ddisgyblaeth ym meysydd astudiaethau canoloesol, caffael, polisïau a chynllunio ieithyddol.

Trawsnewidiol

Yn 2007, cafodd cyfieithiad yr Athro Davies o’r Mabinogi, oedd yn cynnwys nodiadau, ei gydnabod am ei gyfraniad trawsnewidiol yn Saesneg o safbwynt ysgrifennu creadigol, rheoli treftadaeth a thwristiaeth, ac adrodd straeon yn yr oes ohoni.

Mae ei thriniaeth o'r testun, sydd wedi’i ganmol yn fawr, wedi galluogi cynulleidfaoedd modern i ddeall sut byddai gwrandawyr canoloesol wedi ei ddeall ac, yn bwysicach oll, sut byddai wedi cael ei berfformio. Mae casgliad cyfoethog o nodiadau esboniadol a mynegeion o gymorth hefyd er mwyn gwella dealltwriaeth y darllenwr o’r testunau canoloesol hyn.

Mabinogion book cover

Trawsnewid y Mabinogion

Cynyddu’r deall sydd ar fythau a chwedlau Cymreig o’r Mabinogion.

“Mae llawer o ddatblygiadau cyffrous ar y gorwel – rhaglenni gradd, prosiectau ymchwil a phartneriaethau newydd. Rydw i’n gwybod y bydd yr Ysgol yn mynd o nerth ac edrychaf ymlaen, ar ôl treulio blwyddyn o waith ymchwil, at gyfrannu ymhellach at lwyddiant y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.”

“Mae llawer o ddatblygiadau cyffrous ar y gorwel – rhaglenni gradd, prosiectau ymchwil a phartneriaethau newydd. Rydw i’n gwybod y bydd yr Ysgol yn mynd o nerth ac edrychaf ymlaen, ar ôl treulio blwyddyn o waith ymchwil, at gyfrannu ymhellach at lwyddiant y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.”

Yr Athro Sioned Davies Athro Emerita

Un iaith i bawb

Yn ogystal â’i llwyddiannau ym maes ymchwil, mae’r Athro Davies wedi cael cryn ddylanwad ar ddatblygiad y Gymraeg yng Nghymru.

Yn 2012, fe gadeiriodd dasglu fu’n gyfrifol am adolygu sut yr addysgir Cymraeg fel ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4, gan edrych yn benodol ar sut i fynd i’r afael â safonau a chyrhaeddiad isel. Erbyn hyn, mae gan yr argymhellion yn yr adroddiad a ddeilliodd o’r adolygiad, ‘Un iaith i bawb: adolygiad o Gymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4’ (2013), rôl bwysig wrth aildrefnu addysg yn ysgolion Cymru.

Mae’r Athro Davies wedi arwain nifer o gynlluniau arloesol hefyd sydd wedi ennill eu plwyf yn rhan o ddarpariaeth yr Ysgol a’r Brifysgol erbyn hyn. Mae'r rhain yn cynnwys rhaglen Cymraeg i Bawb sydd wedi galluogi cannoedd o fyfyrwyr o’r DU a thu hwnt i ddysgu Cymraeg yn ystod eu cyfnod yng Nghaerdydd. Hi hefyd a arweiniodd y Cynllun Sabothol Cenedlaethol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cynllun hwn wedi trawsnewid gallu cannoedd o ymarferwyr addysg i addysgu yn Gymraeg.

Dyma farn Dr Dylan Foster Evans fydd yn olynu'r Athro Davies yn Bennaeth yr Ysgol ar 1 Awst 2017: “Nid oes modd gorbwysleisio effaith a dylanwad Sioned ar yr Ysgol ac ym meysydd iaith a llenyddiaeth y Gymraeg...”

“Mae wedi arwain yr Ysgol gydag urddas, dycnwch a theyrngarwch diwyro ers dros dau ddegawd ac rwy’n gwybod yr hoffai’r rhai sydd wedi gweithio gyda hi, neu sydd wedi’i haddysgu ganddi, ddiolch iddi am ei harbenigedd, ei hamynedd, ei phroffesiynoldeb a’i chyfeillgarwch hael.”

Dr Dylan Foster Evans Pennaeth yr Ysgol

Rhannu’r stori hon

Mae ein gwaith ymchwil yn cael effaith uniongyrchol ar gymdeithas, iaith, diwylliant a pholisi yn y Gymru gyfoes.