Ewch i’r prif gynnwys

Blas ar fywyd academaidd

24 Hydref 2018

Student sharing feedback with peers

Mae myfyrwyr ar draws Prifysgol Caerdydd wedi cael blas ar fywyd academaidd fel rhan o un o fentrau ymchwil israddedig mwyaf y Deyrnas Unedig.

Mae Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil Israddedig Caerdydd  (CUROP) yn gyfle unigryw i fyfyrwyr a staff weithio ar y cyd ar brosiect ymchwil yn ystod gwyliau’r haf.

Eleni, llwyddodd ymchwilwyr o Ysgol Fusnes Caerdydd i sicrhau cyllid ar gyfer y nifer mwyaf o leoliadau myfyrwyr o’r Ysgol hyd yma.

Roedd y prosiectau’n amrywio o droseddau nad adroddwyd amdanynt i effaith a gwaddol cynnal gwyliau, a thrwy’r rhaglen cafodd myfyrwyr israddedig gyfle i samplo ymchwil fyw, gwella’u sgiliau academaidd a throsglwyddadwy, a gwneud penderfyniad mwy gwybodus ynghylch datblygu eu hymchwil ar lefel ôl-raddedig.

Gwneud pob ymdrech

Dywedodd Jennifer Evans, a fu gynt yn Rheolwr y Swyddfa Ymchwil yn Ysgol Fusnes Caerdydd: “Dyma ein carfan fwyaf erioed...”

“Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i sicrhau bod hwn yn brofiad gwell fyth ar gyfer ein myfyrwyr, gyda sesiynau hyfforddi a digwyddiadau cymdeithasol i ddathlu eu gwaith ar draws yr Ysgol.”

Mae’r 19 a fu’n cymryd rhan yn CUROP eleni, oedd yn dod o Ysgol Fusnes Caerdydd a’r Ysgolion Daearyddiaeth a Chynllunio, Meddygaeth, Biowyddorau, Ffiseg a Seryddiaeth a  Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, wedi elwa o fwy o ymgysylltu, gyda phosteri’n hyrwyddo prosiectau ymchwil unigol, hyfforddiant ystadegol cyfrifiadurol ar ‘R’ a digwyddiadau cymdeithasol gyda myfyrwyr PhD a goruchwylwyr presennol.

Nid dim ond y myfyrwyr sy’n elwa o CUROP.  Yn achos staff academaidd, gall CUROP gyfrannu’n sylweddol at gynnydd prosiectau ymchwil a chynnig staff ychwanegol gwerthfawr yn ystod yr haf.

Dywedodd Yan Chun Derek Li, myfyriwr ail flwyddyn BSc Daearyddiaeth (Ddynol) a Chynllunio o Hong Kong: “Mae’r cyfle i wneud gwaith ymchwil i’r brifysgol yn rhywbeth newydd a gwerthfawr i fi...”

“Mae fy ngoruchwylwyr yn gefnogol ac yn fy nghadw ar y llwybr cywir fel mod i’n gallu canolbwyntio ar ddarganfod pethau newydd.”

Yan Chun Derek Li Myfyriwr ail flwyddyn BSc Daearyddiaeth (Ddynol) a Chynllunio

Llywio profiad y myfyrwyr

Large group of PG students walking outside

Yn ogystal â’r 19 myfyriwr CUROP yn Ysgol Fusnes Caerdydd, mae pedwar Prosiect Arloesedd Addysg Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd  (CUSEIP) ar waith hefyd.

Mae prosiectau CUSEIP yn galluogi myfyrwyr i weithio ar brosiectau gwella dysgu ac addysgu a fydd yn helpu i lywio profiad y myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn ôl Dr Jane Lynch, Cyfarwyddwr Profiad y Myfyriwr ac Uwch-ddarlithydd mewn Rheoli Cyflenwyr yn Ysgol Fusnes Caerdydd:  “Mae hwn yn gyfle unigryw i fyfyrwyr leisio barn a gweithio ar y cyd i wella’u profiadau eu hunain a rhai eu cymheiriaid yn y brifysgol...”

“Bydd y sgiliau maen nhw’n eu datblygu yn ystod eu lleoliadau gyda staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol yn cyflymu eu cynnydd academaidd ac, yn hanfodol, yn helpu i’w paratoi ar gyfer y gweithle.”

Yr Athro Jane Lynch Professor of Procurement

Ddiwedd yr haf, bydd myfyrwyr CUROP a CUSEIP o’r holl ysgolion academaidd yn dod ynghyd am ddiwrnod i arddangos posteri am eu gwaith ymchwil, gan rannu profiadau a lledaenu canfyddiadau i gynulleidfa ehangach Prifysgol Caerdydd.

Eleni cynhelir yr arddangosfa yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ddydd Mercher 24 Hydref o 12:30 – 15:00.

Dywedodd yr Athro Malcolm Beynon, Deon Cyswllt Technoleg a Data yn Ysgol Fusnes Caerdydd: “Bob blwyddyn bydda i’n cymryd rhan yn y prosiectau hyn ac yn rhyfeddu at frwdfrydedd y myfyrwyr a’u hawydd i weithio’n galed...”

“Mae’r digwyddiad dathlu i gyflwyno posteri yn gyfle iddyn nhw gael cydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad am y gwaith cefndir anodd oedd yn ofynnol i gyflawni’r canlyniadau maen nhw’n eu harddangos.”

Yr Athro Malcolm Beynon Professor of Uncertain Reasoning

Mae dros 600 o fyfyrwyr wedi cyflawni lleoliadau ymchwil ers i’r cynllun gychwyn yn 2008.

Mae rhagor o wybodaeth am gyfleoedd CUROP a CUSEIP ar fewnrwyd y staff a’r myfyrwyr, yn enwedig os oes diddordeb mewn bod yn rhan o’r gwaith cyffrous hwn, yn fyfyrwyr a staff fel ei gilydd.

Rhannu’r stori hon

Find out more about the ways in which your organisation can work with our students, including placements and live projects.