Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant Ysgoloriaethau i Fyfyrwyr

8 Awst 2018

Silhouette of person with fist in the air

Mae Ysgol Fusnes Caerdydd yn edrych ymlaen at groesawu llu o fyfyrwyr PhD eithriadol ar ôl blwyddyn lwyddiannus arall o geisiadau am ysgoloriaeth.

Llwyddodd Thi Hoang, myfyriwr o Fietnam, i sicrhau un o Ysgoloriaethau’r Is-ganghellor am Ragoriaeth Ymchwil.

Bydd ei gwaith ymchwil - ar y teitl ‘Ydy cenedligrwydd yn bwysig?’ - yn edrych ar ddylanwad diwylliannau unigol o ran adborth ar i fyny o dan oruchwyliaeth yr Athro Emmanuel Ogbonna, Dr Maki Umemura, a Dr Leanne Chung.

Cyflwynwyd cais Thi ar gyfer y dyfarniad, sy’n darparu cyllid i fyfyriwr o wlad sy'n datblygu, ochr yn ochr â dau gyd-ymgeisydd o Ysgol Fusnes Caerdydd.

Yr ymgeiswyr gorau

Cafwyd llwyddiant pellach yn sgîl Ysgoloriaethau Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol y Cyngor Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd.

Dyfernir yr arian hwn i’r ymgeiswyr neu’r prosiectau gorau ar draws sefydliadau’r llwybr Economeg a Busnes a Rheolaeth, a hynny ym Mhrifysgol Caerdydd, Abertawe a Bangor.

Ar y llwybr cydweithredol, sy'n gofyn am bartneriaeth rhwng y byd academaidd a diwydiant, gwnaed dyfarniadau i John Pierce, John Poole, Eugene Finnegan ac Alexander Jones. Mae eu prosiectau’n cwmpasu Diwydiant Dŵr y Deyrnas Unedig, Anabledd a Llesiant, rhagfynegi ac Amaethyddiaeth Gydweithredol, a byddant yn cael eu goruchwylio gan yr Athro Kent Matthews, yr Athro Melanie Jones, Dr Jonathan Gosling a Dr Yingli Wang.

Cafwyd dau dyfarniad arall ar y llwybr cyffredinol, sef ysgoloriaeth pedair blynedd, a hynny i Katherine Parsons a Tracey Roselll. Mae eu prosiectau yn defnyddio cryfderau ymchwil yr Ysgol ym meysydd ymgysylltu â chyflogeion ac arweinyddiaeth sector cyhoeddus.

Blwyddyn ragorol

Dywedodd yr Athro Helen Walker, Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig yn Ysgol Fusnes Caerdydd: “Bu'n wir yn flwyddyn ragorol ar gyfer ysgoloriaethau PhD yn yr Ysgol...”

“Hoffwn longyfarch ein myfyrwyr PhD newydd sydd wedi sicrhau cyllid a’r staff a fydd yn goruchwylio eu prosiectau cyffrous.”

Yr Athro Helen Walker Professor of Operations and Supply Management, Director of Postgraduate Research Studies

Ochr yn ochr â llwyddiant yr Ysgol yn sicrhau cyllid allanol mae Julian Hodge wedi darparu bwrsariaethau, ac mae Ysgol Fusnes Caerdydd ei hun wedi darparu dwy ysgoloriaeth i fyfyrwyr.

Y rhai a dderbyniodd yr olaf yw Diego Bermudez Bemejo, a fu gynt yn astudio ym Mhrifysgol Cornell a Kerry Hudson sydd ar fin cwblhau MBA Caerdydd gyda rhagoriaeth eleni.

Ychwanegodd yr Athro Walker: “Hoffwn hefyd gyfeirio’n arbennig at fy nghydweithwyr sydd wedi gwneud y gwaith tu ôl i’r llenni i sicrhau bod proses deg yn cael ei dilyn wrth ddyfarnu’r ysgoloriaethau hyn - Swyddfa Ymchwil yr Ysgol, arweinwyr llwybrau ESRC a dirprwy benaethiaid ymchwil yr adrannau.”

Rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Fel myfyriwr PhD byddwch yn cael eich integreiddio'n llawn i gymuned ymchwil ac academaidd yr Ysgol.