Ewch i’r prif gynnwys

Arloeswr ym maes rheoli

28 Medi 2018

Long exposure lights

Mae Athro Anrhydeddus o Ysgol Busnes Caerdydd wedi cael gwobr nodedig ar gyfer ei gwaith ymchwil arloesol ym maes rheoli a sefydliadau.

Cafodd Cynthia Hardy, ochr yn ochr â'i chydweithwyr yr Athro Cliff Oswick o Ysgol Busnes Cass a'r Athro Nelson Philipps o Goleg Imperial Llundain, wobr Joanne Martin Trailblazer Award ar gyfer eu gwaith arloesol ynghylch disgwrs trefniadol, disgwrs sefydliadol a dadansoddi disgwrs.

Mae'r wobr, a gyflwynir bob dwy flynedd, yn cydnabod ysgolheigion sy'n ehangu a datblygu'r gymuned Theori Trefnu a Rheoli drwy arloesi gyda syniadau ac ysgolheictod newydd, a hynny mewn ffordd anghonfensiynol yn aml.

Gall ymddygiad arloesol o'r fath gynnwys dechrau neu ddatblygu cyfres mewn cyfnodolyn neu gyfres ysgolheigaidd, trefnu cynhadledd neu weithdy, a dechrau neu barhau â thrafodaeth am set o syniadau yn y maes.

A hithau'n Athro Llawryfog yn Adran Rheoli a Marchnata ym Mhrifysgol Melbourne, Awstralia, mae Hardy wedi bod yn ddeiliad rôl anrhydeddus yn adran Rheoli, Cyflogaeth a Sefydliadau Caerdydd ers 2007.

Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddisgwrs, grym a newid sefydliadol.

Mae'r wobr, a gyflwynir gan yr Academi Rheoli, wedi bodoli ers 2008 a chafodd ei chyflwyno i nodi ymddeoliad yr Athro Joanne Martin.

Mae'r Athro Martin yn llais blaenllaw mewn ymchwil i ddiwylliant, a defnyddiodd ei safle ym Mhrifysgol Stanford i wneud ffeministiaeth a theori feirniadol yn boblogaidd.

Ewch i wefan OMT Division i weld rhestr o'r enillwyr blaenorol.

Rhannu’r stori hon

Mae ein hymchwil, sy’n cael ei gynnal gan gyfadran ryngwladol o ysgolheigion sy’n gweithio ar flaen y gad yn eu meysydd pwnc, o fudd i amrywiaeth eang o randdeiliaid.