Ewch i’r prif gynnwys

Gwarchod rhywogaethau mewn perygl

26 Medi 2018

Mangrove clearing

Mae Adran Bywyd Gwyllt Sabah (SWD) a Chanolfan Maes Danau Girang (DGFC) Prifysgol Caerdydd wedi lansio cynlluniau gweithredu gwladol newydd er mwyn gwarchod rhywogaethau sy’n agored i niwed neu mewn perygl yn Sabah, Borneo.

Ar sail ymchwil ecolegol a biolegol dros sawl blwyddyn, nod y cynlluniau gweithredu deng mlynedd yw gwneud yn siŵr bod poblogaethau hyfyw llewpart cymylog Swnda (Neofelis diardi), y mwnci trwynog (Nasalis larvatus) a banteng Borneo (Bos javanicus Iowi) yn parhau.

Eglurodd Cyfarwyddwr a Darllenydd y DGFC, Dr Benoit Goossens, fod y tair rhywogaeth yn cael eu bygwth gan gyfuniad o golli a darnio cynefin, potsian ac adeiladu ffyrdd.

“Gellir priodoli prinhau poblogaethau’r mwnci trwynog yn uniongyrchol i gynnydd prosiectau dyframaethu mewn ardaloedd mangrofau a throi cynefinoedd torlannol yn dir amaethyddol ac yn anheddau dynol,” meddai.

“Yn bennaf, mae llewpartiaid cymylog Swnda yn dioddef oherwydd dwysedd poblogaeth isel. Mae bantengiaid Borneo yn prinhau oherwydd potsian dwys, maglu a darnio cynefin.

Pwysleisiodd Dr Goossens mai un o’r camau pwysicaf yw cynyddu gwaith gorfodi a gwarchod yn y maes wrth sefydlu patrolau sy’n defnyddio’r Offeryn Monitro Gofodol ac Adrodd (SMART).

“Ond yn fwy penodol, o ran bantengiaid Borneo, bydd sefydlu rhaglen bridio mewn caethiwed yn hollbwysig,” meddai. “Ar ben hynny, bydd yn rhaid i unrhyw ardal sydd â bantengiaid gael ei rheoli’n gynaliadwy drwy ddatblygu a chynnal porfeydd mewn ardaloedd cynefin y buchesau presennol.

“O ran y mwnci trwynog, bydd cynyddu ardaloedd mangrofau a choedwigoedd torlannol yn ogystal â chysylltedd rhwng darnau o gynefin yn hollbwysig er mwyn i’r rhywogaeth oroesi.

Ar ôl lansiad meddal y cynlluniau gweithredu gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros Dwristiaeth, Diwylliant a’r Amgylchedd, YB Christina Liew, caiff papur cabinet ei baratoi a’i gyflwyno yn y Cynulliad Gwladol nesaf yn gynnar ym Mis Tachwedd.

Mae Augustine Tugga, Cyfarwyddwr Adran Bywyd Gwyllt Sabah, yn llawn gobaith bod y cynlluniau gweithredu ar fin cael eu rhoi ar droed.

“Rydyn ni’n gobeithio y caiff y cynlluniau eu cymeradwyo gan y Cabinet a bydd y Prif Weinidog yn eu lansio’n swyddogol cyn diwedd y flwyddyn. Mae ei gefnogaeth i’r cynlluniau hyn yn hybu’r gwaith o warchod y tair rhywogaeth hyn sydd mewn perygl,” meddai.

Mae Yayasan Sime Darby (YSD) wedi cefnogi datblygiad y cynlluniau gweithredu hyn gyda nawdd o RM 3.96 miliwn. Mae hyn yn cynnwys gweithdai ymgynghori a chynadleddau rhyngwladol gydag amrywiaeth o randdeiliaid. Bydd yr argymelliadau o’r rhain yn sail i gynnwys y cynlluniau.

Rhannu’r stori hon

Edrychwch ar y dewisiadau astudio gan gynnwys cyrsiau maes, cyrsiau ôl-raddedig neu flwyddyn hyfforddiant proffesiynol.