Ewch i’r prif gynnwys

Astudio

Mae Danau Girang yn lleoliad delfrydol i astudio bywyd gwyllt ac effeithiau newid cynefin athropogenig ar fioamrywiaeth.

Myfyrwyr o Goleg Cernyw yn dal baner croeso yn y ganolfan maes
Ymweliad Coleg Cernyw â'r ganolfan maes

Mae ein cyrsiau'n cyfrannu at yr ymdrechion monitro a wneir yng Ngwarchodfa Bywyd Gwyllt Kinabatangan Isaf ac yn elwa ohonynt.

Gall myfyrwyr ddysgu am asesu a monitro bioamrywiaeth ac ar yr un pryd gyfrannu at y data tymor hir sy'n bwysig er mwyn deall dynameg a sefydlogrwydd coedwigoedd darniog yn y rhanbarth hwn.

Mae hyfforddiant mewn dulliau asesu bioamrywiaeth ar gyfer coed, infertebratau, ymlusgiaid ac amffibiaid, adar a mamaliaid ar gael drwy drefniant.