Gallai byffrau coedwigoedd y glannau gynyddu cynhyrchiant planhigfeydd olew palmwydd
23 Awst 2018
Gallai gwarchod byffrau coedwigoedd trofannol ar hyd glannau afonydd mawr wella hyfywedd hirdymor planhigfeydd olew palmwydd, tra'n cynnal manteision cadwraeth. Dyma'r hyn a ganfuwyd mewn astudiaeth newydd gan Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd, Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Maes Danau Girang yn Sabah, Malaysia.
Mae afonydd troellog trofannol a'u gorlifoedd yn gynefinoedd ar gyfer llawer o rywogaethau'r blaned sydd o dan fygythiad enbyd, ond maent wedi'u bygwth, erbyn hyn, gan gyfraddau datgoedwigo sydd wedi dwysau'n ddiweddar, a ysgogwyd gan y galw byd-eang am fwyd a biodanwyddau.
Gan ddefnyddio modelu rhifyddol, canfu'r tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Chanolfan Maes Danau Girang y gallai gwarchod byffrau fforestydd am ddegau o fetrau ar hyd ffiniau afonydd troellog gynyddu hyfywedd planhigfeydd gorlifdir, a chynnal buddiannau cadwraeth drwy gyfyngu ardal y tir a gollir o ganlyniad i erydiad y glannau.
Er bod manteision y dull hwn ar gyfer planhigfeydd olew palmwydd yn fwyaf amlwg yng nghyd-destun rhagamcanion economaidd tymor hir, maent yn wir hefyd ar gyfer graddfeydd amser byrrach.
"Drwy leihau gwariant plannu cychwynnol a diogelu palmwydd ifanc rhag cael eu colli i erydiad cyn eu bod yn cynhyrchu refeniw, gall byffrau’r glannau gynyddu proffidioldeb byrdymor planhigfeydd newydd," esbonia Dr Alexander Horton o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd.
Gallai canfyddiadau'r astudiaeth hon helpu i gysoni amcanion y diwydiant olew palmwydd â chadwraeth amgylcheddol, ac mae Dr Benoit Goossens o Ganolfan Maes Danau Girang ac Ysgol y Biowyddorau yn obeithiol y caiff y canlyniadau eu hystyried gan sefydliadau ar draws y diwydiant.
“Rydym yn awgrymu’n gryf y dylai planhigfeydd olew palmwydd ddefnyddio byffrau coedwigoedd y glannau o 100 metr o led o leiaf ar hyd afonydd mawr fel Kinabatangan, Segama, Paitan, Sugut, Kalumpang, Serudong a Silabukan; a gobeithio y bydd canlyniadau’r ymchwil hwn yn cael eu hystyried gan RSPO a chwmnïau olew palmwydd yn Sabah a gweddill y byd.”
Cafodd Can Riparian Forest Buffers Increase Yields From Oil Palm Plantations? ei gyhoeddi yn Earth’s Future.