Ewch i’r prif gynnwys

Ailfeddwl yr orangutan

28 Mehefin 2018

orangutans

Mae bodau dynol wedi dylanwadu ar esblygiad yr orangutan i raddau helaethach nag a dybiwyd yn flaenorol, yn ôl ymchwil newydd.

Roedd yr Athro Mike Bruford, o Brifysgol Caerdydd, yn rhan o'r tîm o wyddonwyr a fu'n taflu goleuni newydd ar ddatblygiad y rhywogaeth sydd mewn perygl enbyd. Mae'r canfyddiadau'n cynnig posibiliadau newydd ar gyfer cadwraeth yr orangutan.

Mae'r orangutan yn un o berthnasau agosaf y ddynoliaeth, ac wedi dod yn symbol o eiddilwch natur yn wyneb gweithredoedd dynol ac yn eicon o gadwraeth y coedwigoedd glaw.

Ond yn y papur ymchwil a gyhoeddir yn y cyfnodolyn Science Advances, mae'r tîm yn dadlau bod y farn hon yn anwybyddu'r ffordd y mae pobl, dros filoedd o flynyddoedd, wedi ffurfio’r orangutan fel y mae heddiw.

Dywedodd yr Athro Bruford, o'r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ac Ysgol y Biowyddorau sydd yn gydawdur y prosiect: "Mae'r ymchwil hwn yn cynnig gobaith newydd i achub yr orangutan o ddifodiant.

Y dybiaeth gyffredin oedd mai ffactorau amgylcheddol fel faint o ffrwyth oedd ar gael oedd yn bennaf gyfrifol am y rhan fwyaf o nodweddion yr orangutan modern, fel y ffaith eu bod fel arfer yn byw mewn niferoedd isel gyda dosbarthiad daearyddol cyfyngedig.

Ond mae'r astudiaeth yn nodi y gallai'r orangutan oedd yn byw cyn bodau dynol modern ac a gyrhaeddodd dde ddwyrain Asia 70,000 o flynyddoedd yn ôl fod yn wahanol iawn.

Dywedodd y prif awdur, Stephanie Spehar, athro cyswllt mewn anthropoleg ym Mhrifysgol Wisconsin Oshkosh: "Mae ein cyfuniad o dystiolaeth ffosiliau, archeolegol, genetig ac ymddygiadol yn nodi bod rhyngweithio tymor hir gyda bodau dynol wedi siapio'r orangutan mewn ffyrdd sylweddol iawn."

Roedd y creaduriaid hyn ar un adeg yn llawer mwy eang a niferus, a dannedd orangutan yw rhai o'r gweddillion anifail mwyaf cyffredin mewn dyddodiadau yn Tsieina, Gwlad Thai a Fietnam. Llwyddon nhw i oroesi llawer o newidiadau amgylcheddol ac mae'n bosibl eu bod yn byw mewn amrywiaeth ehangach o amgylcheddau na'u cymheiriaid modern.

Heddiw, dim ond ar ynysoedd Borneo a Sumatra mae'r orangutan i'w ganfod.

Mae astudiaethau o'r rhywogaethau sy'n byw mewn cynefinoedd dan effaith bodau dynol, fel planhigfeydd olew palmwydd a choedwigaeth, yn dangos bod yr epaod yn gallu addasu i oroesi mewn ardaloedd o'r fath, o leiaf yn y tymor byr.

Y dybiaeth oedd fod yr orangutan yn greadur coedol ar y cyfan, ond dangosodd maglau camera yn y goedwig eu bod hefyd yn cerdded yn helaeth ar y llawr mewn rhai ardaloedd. Mae'r tîm yn galw am gymhwyso'r canfyddiadau hyn i ymdrechion cadwraeth ar unwaith.

Ychwanegodd yr Athro Bruford: "Er bod llawer o ymdrech wedi'i wneud eisoes i ddeall yr orangutan sydd dan fygythiad, mae'r astudiaeth ddiweddaraf hon yn dangos bod llawer o waith ar ôl i'w wneud i sicrhau bod strategaethau cadwraeth mor gadarn ac eang â phosibl. Dim ond wedyn fydd gennym ni unrhyw gyfle i sicrhau na chaiff yr anifail rhyfeddol o bwysig hwn ei golli."

Cyhoeddir Orangutans venture out of the rainforest and into the Anthropocene, yn y Cyfnodolyn Science