Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnod Cymunedol

6 Mehefin 2018

Gwnaeth staff, myfyrwyr, teulu a ffrindiau fwynhau diwrnod llawn hwyl yn y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion i ddathlu diwrnod cymunedol cyntaf Ysgol Busnes Caerdydd ar ddydd Llun, 7 Mai 2018.

Roedd y digwyddiad, yn rhan o gyfres yn nodi pen-blwydd yr ysgol yn 30, yn gyfle i’r rheiny sy’n gysylltiedig â’r ysgol fwynhau rhaglen lawn hwyl yn yr haul chwilboeth dros ŵyl y banc.

Trefnwyd y digwyddiad gan Dr Carolyn Strong, Angela Guarno, Gareth Hubback, Andrew Glanfield, Linda Hellard a Melanie Poyser, a sbardunwyd y syniad gan Fwrdd Rheoli Cysgodol yr Ysgol a oedd yn dymuno rhoi’r cyfle i staff a myfyrwyr rannu eu gweithle gyda theulu a ffrindiau ar achlysur cymdeithasol.

Dywedodd Dr Strong, uwch-ddarlithydd mewn marchnata yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Wrth reswm, roedd pobl yn amheus i gychwyn ynghylch dod i’r gwaith dros ŵyl y banc. Ond roedd yn rhyfeddol sut daeth y digwyddiad cyfan ynghyd...”

“Gwnaeth pawb gymryd rhan a chynnig rhywbeth i’r cam cynllunio, ac o ganlyniad bu i’r digwyddiad dyfu a thyfu yn rhywbeth arbennig iawn. Rhywbeth, rwy’n credu, y gwnaeth pawb ei rannu a’i fwynhau.”

Yr Athro Carolyn Strong Senior Lecturer in Marketing and Strategy

Darparwyd llu o weithgareddau i fynychwyr, o gemau gan gynnwys ‘Play Your Cards Right’ ac ali caniau tin, i gelf a chrefft gyda chyfle i baentio wynebau, cael tatŵs henna, a chystadleuaeth creu cerdyn pen-blwydd 30 oed.

Gwnaeth Christine Henderson, partner Dr Dylan Henderson, hefyd gynnal sesiwn ioga i oedolion a phlant, tra oedd perfformiadau meic agored gan Phil Davies a Christopher Mercer yn cynnig cerddoriaeth i’r diwrnod.

“Roedd yn wych dod â’r teulu i’r gwaith, ac yn bleser gweld cymaint o deuluoedd cydweithwyr, ac wrth gwrs, eu cŵn.”

Yr Athro Eleri Rosier Senior Lecturer in Marketing and Strategy

“Cafodd y plant hyd yn oed gyfle i gwrdd â Dylan y Ddraig ac eistedd mewn injan dân!”

Yn ogystal â thaith o gwmpas cerbyd y gwasanaeth tân ac achub lleol, bu i blant ac oedolion fwynhau arddangosiad gan Heddlu De Cymru a oedd wedi dod â dau gi gwasanaeth ac un o’u cerbydau ymateb gyda nhw.

Dywedodd Yr Athro a Deon Martin Kitchener, a ddaeth gyda’i deulu: “Mae perthnasau cynnes ar draws ein cymuned eang o ffrindiau, teulu a phartneriaid yn nodwedd sy’n diffinio ein hethos fel ysgol busnes gwerth cyhoeddus gyntaf y byd...”

“Ein hethos a’n cymuned sy’n ein gosod ar wahân i eraill, ac rwy’n falch iawn bod cynifer wedi ymuno â ni heddiw i ddathlu pen-blwydd ein hysgol yn 30.”

Yr Athro Martin Kitchener Athro Rheolaeth a Pholisi’r Sector Cyhoeddus

Roedd y sioe gŵn gymunedol yn gyfle i’r staff gyflwyno eu ffrindiau blewog i bawb.

Roedd Eleri Williams, merch Rachel Williams a myfyriwr milfeddygaeth ym Mhrifysgol Bryste, yno i feirniadu’r cŵn mewn amryw o gategorïau – gan gynnwys ‘y ci y mae’r beirniaid eisiau mynd ag ef adref,’ ‘y ci sy’n edrych fwyaf fel tedi’ a’r ‘ci sydd â’r nifer mwyaf o heriau’.

Daeth y digwyddiad i ben yn dilyn cyhoeddiad hir-ddisgwyliedig am gystadleuaeth ‘Bake-Off.’ Cafwyd ceisiadau hynod drawiadol gan bobyddion talentog iawn, a gwelwyd Dr Deborah Hann yn cipio’r wobr am y ‘Pobydd Hŷn Gorau’ gyda’i chacen â haenau o feringue mefus, a Sophie ac Alex Pervis yn cipio’r wobr i blant ar gyfer eu cacennau bach banana a siocled gwyn.

Ychwanegodd Dr Strong: “Hoffwn ddiolch i bawb am sicrhau bod ein diwrnod cymunedol cyntaf yn llwyddiant mawr. Rydym yn dîm arbennig, ac adlewyrchwyd hyn yn y digwyddiad gwych hwn. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at Ddigwyddiad Cymunedol 2019 a thu hwnt!”

Caiff holl elw’r digwyddiad ei roi i Llamau, elusen y flwyddyn yr ysgol. Cenhadaeth Llamau yw dileu digartrefedd ymysg pobl ifanc a menywod sy’n agored i niwed yng Nghymru.

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.