Ewch i’r prif gynnwys

Rhagoriaeth, rygbi a’r Royal Albert Hall

25 Ebrill 2018

Bydd myfyriwr y drydedd flwyddyn yn wynebu sgwad Prifysgol Abertawe yn Stadiwm y Liberty ar gyfer gêm rygbi’r Farsiti 2018 heddiw (25 Ebrill).

Mae Rhydian Jenkins, sydd yn astudio BA y Gymraeg ac yn graddio yn ystod yr haf, wedi’i enwi fel aelod o garfan rygbi cyntaf Prifysgol Caerdydd ar gyfer y frwydr flynyddol a gychwynnodd ym 1996.

Llynedd, cipiodd Caerdydd y cwpan rygbi er mai Abertawe a hawliodd darian y Farsiti, sydd yn cynnwys dros 30 o chwaraeon amrywiol. Bydd Rhydian a’i gyd chwaraewyr yn gobeithio am fuddugoliaeth ar y cae rygbi i goroni diwrnod o lwyddiant i dimau Prifysgol Caerdydd.

Cychwynnodd Rhydian ar ei astudiaethau yn Ysgol y Gymraeg ym mis Medi 2015. Roedd yn un o ddeiliaid cyntaf Ysgoloriaethau Meddyliau Creadigol yr Ysgol ac ers hynny mae wedi llwyddo i gydbwyso rhagoriaeth academaidd ac addysgol gyda phrofiadau allgyrsiol.

Yn ogystal â chwarae rygbi dros y Brifysgol, mae Rhydian yn ganwr o fri, ac yn gystadleuydd brwd yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol ac aelod o gôr Aelwyd y Waun Ddyfal yma yn y brifddinas. Yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn 2015, enillodd bedair medal aur yng nghystadlaethau yr unawd bechgyn, yr unawd alaw werin, yr unawd cerdd dant a’r ddeuawd cerdd dant. Cafodd lwyddiant ysgubol yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ogystal.

Yn dilyn y gêm rygbi fawr, a’i arholiadau terfynol, bydd Rhydian yn camu ar lwyfan gwahanol pan fydd yn canu yn y Royal Albert Hall, Llundain wedi iddo ennill ysgoloriaeth ganu yn ystod yr haf.

Wrth drafod brwdfrydedd, gweithgarwch ac ymroddiad Rhydian, dywedodd Dr Angharad Naylor sy’n diwtor personol iddo: “Mae wedi bod yn fraint cael gweld Rhydian yn datblygu fel myfyriwr yn ystod y tair blynedd diwethaf yn ogystal â chael rhannu ei lwyddiannau ar y maes rygbi ac ar wahanol lwyfannau canu.

“Yn sicr, mae Rhydian wedi manteisio ar y cyfleoedd eang y mae’r Brifysgol a phrifddinas Caerdydd yn eu cynnig. Mae wedi ymroi’n llawn i’w astudiaethau ynghyd â mwynhau cyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth er mwyn cyfoethogi ei brofiadau a hybu ei ddatblygiad personol a phroffesiynol. Rwy’n sicr bod gan Rhydian ddyfodol disglair iawn, a heb os, fe fydd ei brofiadau addysgol ac allgyrsiol o fudd iddo wrth ddilyn y cwrs TAR y flwyddyn nesaf.”

Dr Angharad Naylor Uwch-ddarlithydd

Meddai Rhydian: “Dwi’n edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Abertawe ac yn gobeithio’n fawr am fuddugoliaeth. Byddai hynny’n ffordd wych o orffen tair blynedd arbennig fel aelod o’r tîm rygbi a myfyriwr Prifysgol Caerdydd.

“Mae llawer o bethau cyffrous ar y gweill, gyda'r cyngerdd yn Llundain, y seremoni raddio a chychwyn ar fy astudiaethau TAR ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Dwi’n ddiolchgar iawn am yr holl brofiadau dwi wedi eu cael yn ystod fy astudiaethau israddedig ac am y cymorth a’r cyfeillgarwch yn Ysgol y Gymraeg. Byddwn yn annog pawb sydd yn cychwyn yn y brifysgol ym mis Medi i fanteisio ar bob cyfle sydd ganddyn nhw i ymgymryd â gweithgareddau chwaraeon, diwylliannol a chymdeithasol er mwyn cyfoethogi eu profiadau, cwrdd â ffrindiau newydd a mwynhau.”

Derbyniodd Rhydian Ysgoloriaeth Meddyliau Creadigol, gwerth £3,000, pan gychwynnodd yn Ysgol y Gymraeg. Yn ystod ei astudiaethau israddedig dilynodd ystod eang o fodiwlau arloesol sydd yn cyfuno sgiliau academaidd ac ymchwil gyda sgiliau proffesiynol a galwedigaethol. Eleni, astudiodd fodiwl Yr Ystafell Ddosbarth. Mae’r modiwl hwn yn gyflwyniad cyffredinol i faes addysg a dysgu’r Gymraeg ac yn cynnig cyfle i fyfyrwyr edrych ar addysgeg, dulliau caffael iaith ynghyd â threulio cyfnod ar leoliad mewn ysgol cyfrwng Cymraeg neu ar gyrsiau’r Cynllun Sabothol a chyrsiau Cymraeg i Oedolion yn ardal Caerdydd.

Mae’r Ysgol yn dymuno lwc dda i Rhydian ac i holl fyfyrwyr yr Ysgol yn ystod yr wythnosau nesaf.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.