Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau Caerdydd yn dathlu syniadau arloesol sy'n ffurfio cymdeithas

1 Mehefin 2015

Innovation awards on table

Gwobrau Arloesedd ac Effaith 2015

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cydnabod pum prosiect ymchwil arloesol sydd wedi trawsnewid polisïau ac ymarfer mewn busnes, gofal iechyd a chymdeithas.

Dewiswyd y prosiectau buddugol ar gyfer Seremoni Gwobrau Arloesedd ac Effaith y Brifysgol a gynhelir yn flynyddol.

Bydd academyddion blaenllaw sydd wedi arwain pob un o'r mentrau yn ymgynnull ar gyfer cinio mawreddog ymhen pythefnos (17 Mehefin) lle cyhoeddir enillydd gwobr 'Dewis y Bobl'.

Noddir Gwobrau Arloesedd ac Effaith 2015 gan gwmni cyfreithiol Geldards ac IP Group. Bydd Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol GIG Cymru, ymhlith y gwesteion, a bydd hefyd yn cyflwyno un o'r tlysau.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig cyfle i bawb bleidleisio ar gyfer Gwobr 'Dewis y Bobl'. Bydd yr ymgeisydd buddugol yn ennill iPad Mini. Pecyn Cynchwynnol Raspberry Pi B+ gyda meddalwedd NOOB yw'r ail wobr, yn ogystal â dau docyn i gyd-gynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru / Opera Cenedlaethol Cymru o 'Sweeney Todd' yng Nghanolfan y Mileniwm ar 8 Hydref 2015. Pecyn Cychwynnol Raspberry Pi B+ gyda meddalwedd NOOB yw'r drydedd wobr.

Bydd yr enillydd yn cael y cyfle i gwrdd â'r tîm buddugol o arloeswyr ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd, a'u gweld wrth eu gwaith. 11 o'r gloch, fore Llun 15 Mehefin yw'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. I bleidleisio ar gyfer un o'r prosiectau yn y rownd derfynol, darllenwch y crynodebau isod:

Gwobr Arloesedd mewn Gofal Iechyd

Mae Mathemateg yn Arbed Bywydau! Ymgorffori modelu mathemategol yn GIG Cymru. Cliciwch yma i ddarllen mwy a phleidleisio ar gyfer y prosiect hwn (#CUII1).

Gwobr Arloesedd Busnes

Gwella cynhyrchion ac adnoddau Ymchwil a Datblygu GAMA Healthcare.  Cliciwch yma i ddarllen mwy a phleidleisio i (#CUII2).

Gwobr Polisi Arloesedd

Anaf difrifol i'r ymennydd: cefnogi teuluoedd, gwella'r broses o wneud penderfyniadau, a gweddnewid polisïau.  Cliciwch yma i ddarllen mwy a phleidleisio i (#CUII3).

Gwobr Arloesedd Cymdeithasol

Cefnogi pobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan ddigartrefedd. Cliciwch yma i ddarllen mwy a phleidleisio i (#CUII4).

Gwobr Arloesedd mewn Cynaliadwyedd

Dull sy'n seiliedig ar systemau ynni mewn cartref fforddiadwy sydd newydd ei adeiladu er mwyn bod mor hunangynhaliol â phosibl o ran ynni. Cliciwch yma i ddarllen mwy a phleidleisio i (#CUII5).

Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae'r prosiectau sydd ar y rhestr fer eleni yn amlygu effaith ymchwil ar ofal iechyd a diwydiant, yn ogystal ag ar y gymdeithas ehangach. Mae pob un ohonynt yn enghreifftiau ardderchog o pam mae ein gwaith ymchwil rhagorol yn bwysig o ran gyrru'r economi a ffurfio'r gymdeithas ehangach yng Nghymru a thu hwnt."

Mae cwmni cyfreithiol blaenllaw Geldards LLP wedi noddi Gwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd ers iddynt ddechrau 17 mlynedd yn ôl. Meddai Prif Weithredwr y cwmni, Jeff Pearson: "Mae Geldards yn gwerthfawrogi ei berthynas tymor hir gyda Phrifysgol Caerdydd ac mae'n bleser gennym allu helpu i gydnabod yr ymchwil flaengar ac arloesol sy'n parhau i lywio ein penderfyniadau bob dydd a datblygu ein dealltwriaeth o'r byd o'n cwmpas."

Dywedodd Alan Aubrey, Prif Swyddog Gweithredol, IP Group Plc, sydd hefyd yn noddi'r gwobrau: "Mae'n bleser gan IP Group noddi'r gwobrau hyn am yr wythfed flwyddyn yn olynol. Rydym yn edrych ymlaen at helpu i greu busnesau newydd cyffrous sy'n tarddu o eiddo deallusol rhagorol Prifysgol Caerdydd am flynyddoedd lawer i ddod."

Trefnir Cystadleuaeth y Gwobrau Arlsoedd ac Effaith o dan nawdd Rhwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, sef rhwydwaith busnes/ prifysgol a sefydlwyd bron 20 mlynedd yn ôl. Mae'r Gwobrau'n gyfle i staff academaidd Prifysgol Caerdydd ddangos eu prosiectau arloesol cydweithredol gyda busnesau a sefydliadau anacademaidd eraill. Maent yn dangos yr effaith gadarnhaol y gall prifysgolion ei chael ar yr economi a chymdeithas.

Rheolau Cystadleuaeth Cyfryngau Cymdeithasol Gwobrau Arloesedd ac Effaith 2015

1. Prifysgol Caerdydd, elusen gofrestredig Rhif 1136855, yw'r hyrwyddwr. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal gan Adran Cyfathrebu Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Tŷ Deri, 2 - 4 Llwyn y Parc, Caerdydd, CF10 3BN.

2. Mae'r gystadleuaeth yn agored i'r cyhoedd. Dylai'r cystadleuwyr fod o leiaf 16 oed.

3. Mae myfyrwyr a gweithwyr Prifysgol Caerdydd yn cael cystadlu. Fodd bynnag, nid yw gweithwyr a'r rhai sy'n gweithio i asiantaethau allanol sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth, neu sy'n helpu i hyrwyddo'r gystadleuaeth, yn cael cystadlu.

4. Ni chodir tâl am gystadlu ac nid oes angen prynu unrhyw beth i allu cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.

6. 11 o'r gloch ar 15 Mehefin 2015 yw'r dyddiad cau. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau ar ôl y dyddiad hwn.

7. Ni ellir derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau na chafodd eu derbyn am ba reswm bynnag.

8. Bydd y gystadleuaeth yn cynnig tair gwobr. Bydd yr ymgeisydd buddugol yn ennill iPad Mini. Pecyn Cynchwynnol Raspberry Pi B+ gyda meddalwedd NOOB yw'r ail wobr, yn ogystal â dau docyn i gyd-gynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru / Opera Cenedlaethol Cymru o 'Sweeney Todd' yng Nghanolfan y Mileniwm ar 8 Hydref 2015. Pecyn Cychwynnol Raspberry Pi B+ gyda meddalwedd NOOB yw'r drydedd wobr.

9. Mae'r hyrwyddwr yn cadw'r hawl i ganslo neu newid y gystadleuaeth a'r telerau a'r amodau hyn heb rybudd os bydd unrhyw ddigwyddiad sydd y tu hwnt i reolaeth yr hyrwyddwr.

10. Ni chynigir unrhyw arian parod yn lle'r gwobrau. Ni ellir trosglwyddo'r gwobrau.

11. Bydd y tri enillydd yn cael eu hysbysu drwy'r gyfrwng a ddefnyddiwyd ganddynt i bleidleisio (Facebook, Twitter, ac ati) erbyn 17:00 ddydd Gwener 19 Mehefin.

12. Os na ellir cysylltu â'r enillwyr, neu os nad ydynt yn hawlio eu gwobrau erbyn 17:00 ar 22 Mehefin, rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r wobr yn ôl a dewis enillydd arall.

13. Bydd yr hyrwyddwr yn hysbysu'r enillydd am y wobr gyntaf (iPad Mini) a phryd a ble y gall ei chasglu. Mae'r hyrwyddwr yn cadw'r hawl i ofyn i enillydd y wobr gyntaf i gwrdd â'r tîm arloesedd buddugol, a chynrychiolydd o'r noddwyr Geldards, er mwyn cael tynnu llun o'r wobr yn cael ei chyflwyno ac at ddibenion cysylltiadau cyhoeddus fel rhag-amod o gasglu'r wobr.

14. Bydd penderfyniad yr hyrwyddwr ynglŷn â phopeth sy'n ymwneud â'r gystadleuaeth yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth am y mater.

15. Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, mae'r ymgeisydd yn datgan ei fod yn cadw at y telerau a'r amodau hyn.

16. Mae'r enillydd yn cytuno i ddefnyddio ei enw a'i ddelwedd mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd. Bydd unrhyw ddata personol am yr enillydd neu unrhyw ymgeisydd arall yn cael ei ddefnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data cyfredol y DU yn unig, ac ni chaiff ei ddatgelu i rywun allanol heb gael caniatâd yr ymgeisydd ymlaen llaw.

17. Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ystyrir eich bod yn derbyn y telerau a'r amodau hyn.

18. Nid yw'r hyrwyddiad hwn yn cael ei noddi, ei gymeradwyo na'i weinyddu mewn unrhyw ffordd gan Facebook, Twitter neu unrhyw rwydwaith cymdeithasol eraill, ac nid yw'r gystadleuaeth yn gysylltiedig â nhw ychwaith. Rydych yn rhoi gwybodaeth i Brifysgol Caerdydd ac nid i unrhyw un arall. Caiff y wybodaeth a ddarperir ei defnyddio mewn cysylltiad â'r polisi preifatrwydd canlynol sydd i'w weld yn: http://www.caerdydd.ac.uk/govrn/cocom/accinf/dataprotection/