Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr am waith ymchwil i newid bywydau pobl ifanc ddigartref

18 Mehefin 2015

Social innovation award
.o'r chwith i'r dde: Andrew Evans, Cwmni Cyfreithiol Geldards; Dr Katherine Shelton, yr Ysgol Seicoleg; Kate Hodgson, Gweithiwr Cyswllt KTP; yr Athro Marianne van den Bree, Sefydliad Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol; Sam Austin, Llamau.

Gwobr am waith ymchwil i newid bywydau pobl ifanc ddigartref

Mae ymchwilwyr a gynorthwyodd i newid bywydau pobl ifanc ddigartref yng Nghymru wedi ennill y wobr anrhydeddus ar gyfer 'Arloesedd Cymdeithasol' yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd 2015, a noddir gan gwmni cyfreithiol blaenllaw Geldards ac IP Group.

Llwyddodd y tîm o Brifysgol Caerdydd i amlygu lefelau uchel o anawsterau iechyd meddwl oedd heb gael diagnosis neu ddod i'r amlwg o'r blaen ymysg pobl ifanc ddigartref ac agored i niwed yng Nghymru. Roedd yr anawsterau hyn yn difetha eu bywydau a'u gallu i fyw'n annibynnol.  Dangosodd yr astudiaeth fod 73% o'r rhai a gafodd eu cyfweld yn bodloni'r meini prawf ar gyfer dau neu ragor o anhwylderau seiciatrig presennol o gymharu â 12.4% o'r un oedran yn y boblogaeth gyffredinol. 

Llamau yw prif elusen ddigartrefedd Cymru, sy'n rhoi llety â chymorth, addysg a hyfforddiant i bobl ifanc ddigartref a menywod agored i niwed yng Nghymru. Ymunodd yr elusen hon â'r Brifysgol ar ôl clywed am waith ymchwil gan Dr Katherine Shelton o'r Ysgol Seicoleg, a'r Athro Marianne Van den Bree o'r Sefydliad Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol.

Cyflwynwyd grant Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) gan Innovate UK, Llywodraeth Cymru, a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol i gynorthwyo'r prosiect tair blynedd. Roedd hyn yn gyfle unigryw i roi gwaith ymchwil ar waith a galluogi Llamau i wella eu darpariaeth ar gyfer y bobl ifanc fwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Drwy weithio mewn partneriaeth, datblygodd yr ymchwilwyr dechnegau sgrinio newydd i helpu staff Llamau i sylwi ar rybuddion fod pobl ifanc mewn perygl a chyflwyno gwasanaethau cymorth effeithiol ar eu cyfer.

Meddai Gweithiwr Cyswllt y Bartneriaeth, Dr Kate Hodgson, a reolodd y prosiect arloesol ac oedd â rôl ganolog yn Llamau: "Cynigiodd y Bartneriaeth brofiad unigryw i mi: gallu cynnal fy ymchwil PhD ochr yn ochr â chydweithio'n agos â staff Llamau i ymgorffori canfyddiadau o'r prosiect ar draws y sefydliad.

Dywedodd yr Athro van den Bree, "Rydym wedi datblygu dull i bennu anghenion iechyd meddwl y bobl ifanc hyn sy'n agored i niwed. Roedd ein hastudiaeth yn unigryw gan ein bod wedi dilyn y rhai a gymerodd ran dros dair blynedd. Roedd hyn yn ein galluogi i weld sut roedd problemau iechyd meddwl a'r perygl o hunan-niweidio yn newid dros amser.

Ychwanegodd Dr Hodgson, "Rydym wedi cydweithio'n agos â staff Llamau i ofalu bod ein canfyddiadau'n cael eu rhoi ar waith ar draws y sefydliad."

Dywedodd Dr Katherine Shelton, "Rydym yn falch iawn bod y wobr hon wedi cydnabod ein gwaith. Mae gweithio gyda Llamau wedi'n galluogi i roi ein canfyddiadau ymchwil ar waith ar draws y sefydliad ac mae wedi newid gwaith yr elusen er gwell.

Dywedodd Sam Austin, Cyfarwyddwr Gweithredol a Dirprwy Brif Weithredwr Llamau: "Mae'r holl ymchwilwyr o dan sylw yn llawn haeddu'r Wobr Arloesedd Cymdeithasol.  Mae cydweithio ag ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi ein helpu i feithrin ffyrdd newydd o weithio sy'n newid bywydau'r bobl ifanc hynod agored i niwed yr ydym yn eu cynorthwyo.  Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu meithrin perthynas waith mor gref a chadarnhaol gyda'r Ysgol Seicoleg a'r Sefydliad Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol, a'n bwriad yw canfod ffyrdd o barhau i gydweithio yn y dyfodol."

Mae  Prifysgol Caerdydd wedi helpu Llamau i wella eu gweithdrefnau asesu a monitro a datblygu gwell hyfforddiant i staff. Mae hefyd wedi amlygu pa mor bwysig yw canolbwyntio ar yr heriau iechyd meddwl sy'n wynebu pobl ifanc er mwyn eu helpu i gael sgiliau i fyw'n annibynnol a gwneud y gorau o'u gallu. 

Mae Innovate UK eisies wedi cydnabod cydweithrediad y Bartneriaeth drwy ddisgrifio'r prosiect fel un 'rhagorol'.

Cyflwynwyd y wobr i Dr Katherine Shelton (Ysgol Seicoleg), yr Athro Marianne van den Bree (Sefydliad Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol), Sam Austin (Llamau) a Kate Hodgson (Gweithiwr Cyswllt y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth) gan Andrew Evans, Partner, Cwmni Cyfreithiol Geldards.