Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogaeth i deuluoedd ‘coma’ yn ennill gwobr arloesedd

18 Mehefin 2015

policy award
Yr Athro Jenny Kitzinger, yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol; Andrew Evans, Cwmni Cyfreithiol Geldards; Luis Carrasqueiro, DIPEx.

Cefnogaeth i deuluoedd 'coma' yn ennill gwobr arloesedd 

Mae gwaith ymchwil i'r ffordd orau o gefnogi teuluoedd anwyliaid ag anafiadau difrifol i'r ymennydd, wedi ennill cydnabyddiaeth gyda gwobr arloesedd Prifysgol Caerdydd.

Mae gwaith gan yr Athro Jenny Kitzinger (Prifysgol Caerdydd) a'i chwaer a'i chydweithiwr, yr Athro Celia Kitzinger (Prifysgol Efrog), wedi troi achosion o anafiadau trychinebus i'r ymennydd yn adnodd cefnogi/hyfforddi ar-lein amlgyfrwng.

Mae'r astudiaeth arloesol wedi ennill Gwobr Polisi Arloesedd yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith blynyddol y Brifysgol, a noddir gan y cwmni cyfreithiol blaenllaw Geldards ac IP Group.  Ysbrydolwyd yr ymchwil gan yr anawsterau a wynebodd yr ymchwilwyr arweiniol ar ôl i'w chwaer, Polly, ddioddef anafiadau difrifol i'r ymennydd mewn damwain car ger Aberhonddu yn 2009.

Aeth yr academyddion ati i gynnal cyfweliadau gyda 65 o aelodau teulu a chyhoeddi'r canfyddiadau mewn cyfnodolion allweddol ar gyfer academyddion ac ymarferwyr. Lluniodd y gwaith ganllawiau clinigol cenedlaethol newydd a gyhoeddwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygon (RCP) ac mae wedi cael ei ddyfynnu mewn adroddiad gan Dŷ'r Arglwyddi ar y Ddeddf Galluedd Meddyliol, ac mewn dogfen friffio ar gyfer y Swyddfa Seneddol Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Drwy weithio gyda'r elusen iechyd DIPEx a'r Grŵp Ymchwil Profiadau Iechyd (yn Adran Gofal Sylfaenol Nuffield, Prifysgol Rhydychen), mae'r tîm wedi creu adnodd ar-lein ar gyfer healthtalk.org o'r enw "Family Experiences of Vegetative and Minimally Conscious States". Mae'r wefan yn defnyddio clipiau ffilm o gyfweliadau â theuluoedd ac ymarferwyr a ariannwyd gan ESRC, ochr yn ochr â gwybodaeth hygyrch am faterion allweddol a'u cyd-destun cyfreithiol/clinigol. Lansiwyd y modiwl fis Medi diwethaf, ac mae dros 4,000 o bobl eisoes wedi ei ddefnyddio.

Mae'r gwaith ymchwil wedi arwain at gydweithio ag artistiaid, a bydd y gwaith celf yn cael ei arddangos yn adeilad Hayden Ellis ar 22 Mehefin.  Cafodd ei ddefnyddio hefyd i greu rhaglen ar gyfer BBC Radio 3 ('Coma Songs') a oedd yn defnyddio barddoniaeth, geiriau a cherddoriaeth i archwilio'r cyfyng gyngor cymdeithasol, moesegol, clinigol a chyfreithiol sy'n deillio o allu meddygaeth fodern i achub y corff ond nid yr ymennydd.

Dywedodd yr Athro Jenny Kitzinger: "Mae cydnabyddiaeth y wobr hon wedi rhoi Celia a minnau o dan deimlad. Ar ôl damwain car Polly, roeddem yn wynebu'r realiti o gael anafiadau trychinebus i'r ymennydd yn y teulu. Nod ein hymchwil oedd herio stereoteipiau o ran 'coma', ac ehangu dealltwriaeth o gyflyrau diymateb a lled-ymwybodol."

Ychwanegodd yr Athro Celia Kitzinger: "Gwnaethom ddefnyddio hanesion cleifion a gofalwyr i gynyddu'r ddeialog rhwng ymarferwyr a safbwyntiau pobl 'lleyg'. Roedd yr adnodd aml-gyfrwng ar-lein – sy'n cynnwys ffilmiau, dyddiaduron a ffotograffau – yn helpu i wneud ein canfyddiadau'n hygyrch ac yn ddiddorol. "

Yn ôl Luís Carrasqueiro, Prif Weithredwr yr elusen DIPEx sy'n cyhoeddi healthtalk.org, "Mae brwdfrydedd personol Jenny a Celia fel hyrwyddwyr sy'n cysylltu gwaith ymchwil academaidd â byd go iawn aelodau teulu, y cyhoedd, gwleidyddion a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, wedi gwneud hwn yn brosiect unigryw. Mae wedi ein galluogi i archwilio model newydd o ariannu a chydweithio, gan ddefnyddio rhoddion cyfatebol o ran amser, ymdrech ac arian y partneriaid."

 Fe wnaeth yr Athro Lynne Turner-Stokes, cadeirydd Gweithgor RCP, ganmol y gwaith ymchwil a'r modiwl healthtalk.org fel adnodd pwysig iawn, a hynny ar gyfer teuluoedd a chlinigwyr: "roedd yn hynod ddefnyddiol wrth lywio'r canllawiau oherwydd roedd yn cynnwys safbwynt y teulu sydd, wrth gwrs, mor bwysig."

Daeth y prosiect yn ail ar gyfer effaith ymchwil yng Ngwobrau Prifysgol The Guardian 2015 ac mae hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Effaith ESRC (y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol).

Cyflwynwyd y wobr i'r Athro Jenny Kitzinger (Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol) a Luis Carrasqueiro (DIPEx) gan Andrew Evans, Partner, Cwmni Cyfreithiol Geldards.