Ewch i’r prif gynnwys

Mathemateg yn Arbed Bywydau! Modelwyr gofal iechyd yn ennill gwobr arloesedd.

18 Mehefin 2015

healthcare award
Dr Danny Antebi, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; David Baynes, Prif Swyddog Gweithredol, IP Group Plc; Judith Paget, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; yr Athro Paul Harper, yr Ysgol Mathemateg.

Mathemateg yn Arbed Bywydau! Modelwyr gofal iechyd yn ennill gwobr arloesedd

Mae tîm o fodelwyr mathemategol sy'n defnyddio data i helpu i achub bywydau wedi ennill un o Wobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd.

Mae arbenigwyr yn datrys cymhlethdodau prosesau gofal iechyd, gan arwain at ddylunio'r gwasanaeth gorau posibl, lleihau amseroedd aros, gwella mynediad at ofal, ac arbed bywydau yn y pen draw.

Dan arweiniad yr Athro Paul Harper, mae 'Mathemateg yn Arbed Bywydau' yn rhoi modelu data wrth wraidd gofal iechyd, gan helpu'r GIG i ymateb i'r galw drwy astudio ciwiau a llifoedd cleifion.

Mae'r wobr 'Arloesedd mewn Gofal Iechyd', a noddir gan gwmni cyfreithiol Geldards ac IP Group, yn cydnabod cyfraniad rhagorol y tîm i wasanaethau'r GIG.

Mae'r uned modelu fathemategol wedi'i hariannu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac wedi'i hymgorffori yn nhîm Gwelliant Parhaus y Bwrdd. Mae'r uned yn cyflogi pum cydymaith ymchwil.

Yn ôl pob golwg, dyma'r achos cyntaf o ymgorffori modelu mathemategol mewn gofal iechyd yn y DU (neu'n fyd-eang), gan greu deialog barhaus rhwng modelwyr, clinigwyr a rheolwyr, a'u hannog i ymgysylltu, arloesi, profi dewisiadau amgen, ac arwain.

Meddai'r Athro Harper, Cyfarwyddwr Canolfan Modelu Iechyd Cymru: "Rydym ar ben ein digon ein bod wedi cael cydnabyddiaeth am ein gwaith arloesol i helpu GIG Cymru i ddylunio a chyflwyno gwasanaethau gofal iechyd darbodus i wneud y defnydd gorau posibl o adnoddau; mae'n dasg heriol ond hanfodol."

O ganlyniad i'r cydweithio hwn, mae dros 200 o staff GIG Cymru wedi cael hyfforddiant am dechnegau ystadegol a modelu, ac mae cwrs hyfforddiant cenedlaethol yn cael ei ddatblygu gyda PenCHORD ym Mhrifysgol Caerwysg. 

Nododd Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: "Mae llwyddiant y prosiect wedi helpu'r sefydliad i gynllunio'n well a rhoi dadansoddiad mwy effeithiol: mae penderfyniadau llawer gwell yn cael eu gwneud o ganlyniad i fewnbwn y modelwyr mathemategol."

Mae'r manteision ychwanegol sy'n gysylltiedig â chydweithio yn cynnwys cynnal prosiectau ymchwil myfyrwyr MSc, cynnig arian cyfatebol ar gyfer ysgoloriaethau PhD, cyflwyno ceisiadau llwyddiannus am grantiau ymchwil, a chynnal swydd darlithydd ar y cyd mewn Gwaith Ymchwil Gweithredol. Mae'r uned wedi cael sylw'r GIG ehangach a Llywodraeth y DU, gan gynnwys cael cyfarfodydd gyda Chadeirydd y Pwyllgor Dethol Iechyd.

Dywedodd Dr Danny Antebi, Cyfarwyddwr ABCi, "Mae'r gwaith hwn yn rhoi sylfaen gadarn a gwyddonol ar gyfer gwasanaethau'r Bwrdd Iechyd ac mae'n cyfrannu at gynlluniau i agor canolfan gofal critigol arbenigol newydd yn 2018. Bydd gwaith y mathemategwyr yn helpu i ofalu bod cyllideb flynyddol y Bwrdd yn rhoi'r gwerth gorau i gleifion yn y dyfodol."

Cyflwynwyd y wobr i'r Athro Paul Harper (Ysgol Mathemateg), Dr Danny Antebi a Judith Paget (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan) gan David Baynes, Prif Swyddog Gweithredu, IP Group Ccc.