Ewch i’r prif gynnwys

‘Tŷ Clyfar’ ynni isel yn ennill gwobr arloesedd

18 Mehefin 2015

sustainability award
o'r chwith i'r dde: Andrew Davies, SIPs Wales; Andrew Evans, Cwmni Cyfreithiol Geldards; Dr Joanne Patterson, Ester Coma-Bassas a'r Athro Phil Jones, Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

'Tŷ Clyfar' ynni isel yn ennill gwobr arloesedd

Mae arbenigwyr a gynlluniodd dŷ clyfar sy'n cynhyrchu mwy o ynni na'r hyn mae'n ei ddefnyddio, wedi'u hanrhydeddu yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Caerdydd eleni.

Mewn ymgais i gyrraedd targedau heriol ar gyfer tai di-garbon, mae'r Athro Phil Jones a'i dîm yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi datblygu'r tŷ cyntaf cost isel i gynhyrchu mwy o ynni na'r hyn mae'n ei ddefnyddio.

Cafodd y tŷ ei ddylunio a'i adeiladu'n rhan o brosiect SOLCER Sefydliad Ymchwil Carbon Isel Cymru (LCRI). Mae'r cyntaf i gyfuno sawl elfen am y tro cyntaf, sef llai o alw am ynni, cyflenwad ynni adnewyddadwy yn rhan o'r adeiledd, a lle i storio ynni.

Meddai'r Athro Jones: "Rydyn ni'n falch o'n tŷ ni, ac ar ben ein digon o fod wedi ennill y wobr hon. Mae llywodraethau ledled y byd, gan gynnwys Llywodraeth y DU, wedi gosod targed o gyflawni tai di-garbon erbyn 2019. Rhaid i ni ymateb i'r her honno a chanfod ffyrdd arloesol newydd o adeiladu cartrefi'r dyfodol." 

Mae'r wobr 'Arloesedd mewn Cynaliadwyedd', a noddir gan gwmni cyfreithiol Geldards ac IP Group, yn cydnabod cyfraniad rhagorol y tîm i'r amgylchedd.

Mae Tŷ SOLCER yn defnyddio nifer o dechnolegau a dulliau a ddatblygwyd gan Raglen Ymchwil Adeiladau Carbon Isel LCRI.

Adeiladwyd y tŷ gyda lefelau uchel o inswleiddio thermol fel bod llai o aer yn dianc. Mae'n defnyddio dyluniad ynni effeithlon arloesol sy'n cynnwys sment carbon isel, paneli sydd wedi'u hinswleiddio'n strwythurol (SIPS), rendrad sydd wedi'i inswleiddio'n allanol, casglwyr ynni solar trydarthol yn ogystal â ffenestri a drysau gwydr dwbl allyrredd isel gyda fframiau pren ac alwminiwm o'u cwmpas.

Mae'r to, sy'n wynebu'r de, yn cynnwys paneli gwydr solar ffotofoltäig. Mae'r rhain wedi'u hintegreiddio'n llawn yn nyluniad yr adeilad gan olygu bod gofod y to oddi tan yn cael ei oleuo'n naturiol, gan osgoi'r gost o osod paneli solar ychwanegol.

Yr ynni solar a gynhyrchir a'r batris a gedwir sy'n pweru'r systemau gwresogi, awyru, dŵr poeth a thrydanol cyfunol, sy'n cynnwys offer, goleuadau LED a phwmp gwres.

Ychwanegodd yr Athro Jones: "Nawr bod y tŷ wedi'i adeiladu, ein prif dasg yw gwneud yn siŵr bod popeth yr ydym wedi'i osod yn cael ei fonitro er mwyn defnyddio ynni yn y ffordd fwyaf effeithlon. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i lywio prosiectau yn y dyfodol a gwneud yn siŵr bod Cymru'n parhau'n ganolog wrth ddatblygu tai di-garbon yn y dyfodol."

Mae'r gwaith ymchwil wedi amlygu prosesau dylunio, cynllunio a gosod yn y 'byd go iawn'. Gweithiodd y tîm gyda chwmnïau technoleg carbon isel, gan gynnwys SIPs Wales, a gynlluniodd a chyflenwi'r ecobaneli SIPs i ymgorffori'r technolegau newydd arloesol hyn, ac sydd bellach yn defnyddio dulliau Tŷ SOLCER yn eu dyluniadau ar gyfer y dyfodol.

Meddai Andrew Davies, Cyfarwyddwr, SIPs Wales: "Bydd yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni yma, gyda'r dechnoleg hon, yn dod yn rhan flaenllaw o'r sector adeiladu ymhen ychydig flynyddoedd – ac rwyf yn falch iawn o fod yn rhan ohono."

Mae gwaith ar y tŷ clyfar ynni isel wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau diweddar Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru. Enillydd gwobr Seren Ifanc y Flwyddyn oedd Ester Coma-Bassas o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, a helpodd i ddatblygu prosiect SOLCER.

Bydd hanes Tŷ SOLCER yn cael sylw mewn cyfnodolion academaidd a chynadleddau, cefnogwyd y prosiect gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF).

Adeiladwyd y tŷ mewn 16 wythnos ac fe'i cwblhawyd ym mis Chwefror, 2015. Mae'r tŷ ar safle Cenin Renewables Ltd yn y Pîl, ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Cyflwynwyd y wobr i'r Athro Phil Jones; Dr Joanne Patterson; Ester Coma (Ysgol Pensaernïaeth Cymru) ac Andrew Davies (SIPs Wales) gan Andrew Evans, Partner, Cwmni Cyfreithiol Geldards.