Ewch i’r prif gynnwys

Y Brifysgol yn cefnogi marchnad gymunedol

29 Tachwedd 2017

Grangetown World Market
Credit: Keith Hursthouse

Mae marchnad gaeaf gymunedol Caerdydd yn gwahodd siopwyr i baratoi at y Nadolig fel rhan o ddiwrnod arbennig i hyrwyddo busnesau bychain.

Cynhelir Marchnad Byd Grangetown - a drefnir gan brosiect Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd a Gweithredu Cymunedol Grangetown - ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr. Mae’r dyddiad hefyd wedi ei ddynodi’n Ddydd Sadwrn y Busnesau Bychain, ymgyrch ar lawr gwlad sydd wedi’u dylunio i annog defnyddwyr ledled y DU i ‘siopa’n lleol’ yn eu cymunedau.

Bydd y farchnad ym maes parcio Ysgol Gynradd Gatholig Padrig Sant, rhwng Stryd Havelock a Stryd Lucknow, rhwng 11:00 i 15:00.  Bydd siopwyr Nadolig yn gallu pori a phrynu crefftwaith a dillad annibynnol, a bydd stondinau bwyd a diod ac adloniant yn ogystal.

Edrychwch am gyfrif Marchnad Byd Grangetown @GtownWM i gael y newyddion diweddaraf am yr hyn sy’n digwydd.

Mae’r busnesau sydd wedi eu cadarnhau hyd yma yn cynnwys:

Grangetown World Market stall
Credit: Keith Hursthouse
  • Ameow Designs
  • Anna Palamar Designs
  • Shop Grangetown
  • KA ArtiFacts
  • Real Fudge
  • Martin Avery Silversmith
  • Your Indulgence
  • Divine Beauty
  • Veg Food Studio
  • Ty Paned
  • Pettigrew Bakery
  • Whoops A Daisy Daze
  • Precious As A Pearl
  • Eistedfodd 2018
  • Coffee2Go
  • Ffwrnes Pizza
  • Cavalier Cwtch
  • Killins Kitchen

Dywedodd y gwneuthurwr gemwaith hunan-addysgedig Dr Amy Yau, o Ameow Designs, sydd hefyd yn ddarlithydd mewn marchnata yn Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd: "Mae’r farchnad yn cefnogi entrepreneuriaid lleol a busnesau a fyddai’n hoffi treialu eu cynhyrchion a lledu ymwybyddiaeth ynghylch eu cynhyrchion a’u gwasanaethau. Mae’n berffaith felly ar gyfer busnesau bychain.

"Mae’n bwysig iawn ym myd ffasiwn cyflym, cludo cynt a nwyddau rhad, masgynyrchedig i arafu, bod yn fwy ymwybodol a phrynu anrhegion gyda mwy o ystyr ac sydd yn fwy cynaliadwy o ran dylunio, ac nid yn unig ddilyn ‘chwiwiau’..."

"Ar wahân i gefnogi busnesau lleol, mae gwybod bod y gwneuthurwr wedi rhoi ei greadigrwydd, sgiliau, a gwaith caled i wneud y darn unigryw hwnnw â llaw yn rhywbeth arbennig iawn."

Dr Amy Yau Lecturer in Marketing and Strategy

Dywedodd Rosie Cripps o’r Porth Cymunedol: "Mae busnesau lleol ac annibynnol yn cyflogi mwy o bobl fesul pob metr sgwâr na’r siopau cadwyn mawr, ac maent yn aros yn eu lle pan fydd hi’n gwasgu - trwy gefnogi cynhyrchwyr lleol rydym yn cefnogi’r gymuned ehangach.

"Rydym yn falch iawn o fod wedi lansio ein hentrepreneuriaid newydd yn ein marchnad gyntaf, ac rydym wrth ein boddau bod 75% o ymwelwyr wedi dweud y byddent yn siopa’n lleol o ganlyniad i Farchnad Byd Grangetown..."

"Mae Gweithredu Cymunedol Grangetown a Phrifysgol Caerdydd wedi dangos gorau po fwyaf y gallwn ei wneud i gefnogi’r economi leol gyda’n gilydd."

Rosie Cripps Project Manager, Community Gateway

Dywedodd Steve Duffy o Weithredu Cymunedol Grangetown: "Cawsom ymateb gwych i’n marchnad ddiwethaf - y nod yw ceisio cynnig rhywbeth ‘boutique’ ac unigryw i Grangetown.

"Yn yr hir dymor, gobeithiwn y bydd hyn yn rhoi hwb i’r ardal fusnes leol. Mae hyn oll am annog pobl i siopa’n lleol, a gweld bod siopau annibynnol creadigol iawn ar stepen eu drws."

Dilyna lwyddiant ein Marchnad Byd Grangetown gyntaf ym mis Gorffennaf, a drefnwyd hefyd gan Weithredu Cymunedol Grangetown. Cynhwysodd y farchnad gyntaf dros 20 o wirfoddolwyr lleol, 11 o fyfyrwyr a thri aelod o staff Prifysgol Caerdydd yn wirfoddolwyr.

Cefnogir y fenter gan y Porth Cymunedol, sy’n gweithio law yn llaw â thrigolion Grangetown i wneud yr ardal yn lle gwell fyth i fyw. Mae’r Porth Cymunedol yn un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd, sydd hefyd yn cael ei alw'r Rhaglen Trawsnewid Cymunedau, sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.