Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect y Brifysgol yn ennill gwobr ryngwladol newydd

26 Hydref 2017

Grangetown Community Gateway

Prosiect gan Brifysgol Caerdydd sy'n teilwra ymchwil prifysgol i anghenion cymuned Grangetown yng Nghaerdydd yw enillydd cyntaf gwobr ryngwladol newydd.

Mae'r wobr, a lansiwyd eleni er cof am gyn Is-Ganghellor Prifysgol Brighton, yr Athro Syr David Watson, yn cydnabod ymdrechion cyfunol partneriaid cymunedol a phrifysgol i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn y gymuned maent yn ei rhannu.

Mae'r prosiect buddugol, Porth Cymunedol Caerdydd, yn gweithio gyda thrigolion a chyrff lleol i helpu i wneud ardal Grangetown yn y ddinas yn lle gwell fyth i fyw a gweithio drwy ddatblygu ymchwil, addysg a chyfleoedd gwirfoddoli o safon fyd-eang sy'n ymateb i syniadau eu trigolion.

Caiff gwobr gyntaf yr Athro Syr David Watson i Bartneriaethau Cymunedol-Prifysgol ei chyflwyno i'r Porth Cymunedol yng nghynhadledd Engage yn y Ganolfan Gydlynu Genedlaethol er Ymgysylltu’n Gyhoeddus ym Mryste ar 7 Rhagfyr.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Brighton yr Athro Debra Humphris: "Roedd ansawdd y ceisiadau am y wobr hon yn eithriadol a hoffwn longyfarch pawb a gymerodd ran. Mae'n galonogol gweld twf partneriaethau prifysgol-cymunedol..."

"Mae'r Porth Cymunedol yn brosiect ardderchog ac yn llawn deilyngu'r wobr. Mae ei nodau'n cyd-fynd yn berffaith gydag ethos Syr David o brifysgolion yn gweithio gyda chymunedau i wella bywydau pobl."

Yr Athro Debra Humphris Is-Ganghellor, Prifysgol Brighton

Creodd Syr David, a fu farw yn 2015, Raglen Partneriaeth Cymunedol-Prifysgol arobryn Prifysgol Brighton (CUPP) sydd wedi cefnogi ugeiniau o brosiectau partneriaeth dros y 12 mlynedd diwethaf.

Bob blwyddyn mae cannoedd o academyddion, myfyrwyr a phartneriaid cymunedol yn gweithio gyda'i gilydd i gynhyrchu buddion i'r gymuned a chyfoethogi addysgu ac ymchwil.

Prifysgol Brighton sy'n trefnu'r wobr newydd er cof am Syr David.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Braint mawr yw clywed mai'r Porth Cymunedol yw enillydd cyntaf gwobr ryngwladol a grëwyd er cof yr Athro Syr David Watson, a oedd mor ymroddgar wrth weithio law yn llaw â chymunedau er budd pawb."

"Mae prosiect y Porth Cymunedol wedi'i arwain gan frwdfrydedd staff Prifysgol Caerdydd, sy'n credu bod pethau da yn digwydd pan fyddwn yn gwrando ar beth mae pobl yn ein cymunedau am ei gael gennym..."

"Rydyn ni ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i'n 'cenhadaeth ddinesig' o hyrwyddo cydlyniad cymdeithasol a helpu i wella lefelau iechyd, cyfoeth a lles yn y cymunedau, ac rydym yn cydweithio â nhw i gyflawni eu nodau."

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Ymunodd Porth Caerdydd â phartneriaid cymunedol Gweithredu Cymunedol Grangetown a phrosiect Pafiliwn y Grange i lunio partneriaeth tymor hir gyda thrigolion Grangetown.

Dros y tair blynedd ddiwethaf mae'r llwyfan wedi lansio 44 o brosiectau cymunedol-prifysgol, gan ffurfio cysylltiadau rhwng staff Prifysgol Caerdydd, myfyrwyr a thrigolion Grangetown i helpu i wireddu syniadau dan arweiniad y gymuned.

Ymhlith y prosiectau mae Fforwm Ieuenctid arobryn Grangetown, Fforwm Busnes rheolaidd Grangetown a arweiniodd at lansio Marchnad Stryd y Byd gyntaf Grangetown, grŵp rhedeg Grangetown, diwrnod iechyd meddwl blynyddol, rhaglenni therapi celf, rhaglen Gwyddonwyr-Ddinasyddion, Wythnos Diogelwch Grangetown, ac adnewyddu Pafiliwn Bowls gwag gan gynnwys lansio'r Caiff Hideout a redir yn lleol gyda sesiynau caffi athroniaeth rheolaidd.

Denodd cynllun gwobrwyo Syr David Watson, y cyntaf o'i fath, geisiadau o bob rhan o'r DU a gwledydd tramor, gan gynnwys Pacistan a Chanada.

Rhannu’r stori hon

Darllenwch mwy am ein prosiectau trawsffurfio cymunedau sy'n dangos ein hymrwymiad i wella lles cymunedau yng Nghymru a thu hwnt..