Ewch i’r prif gynnwys

Enillydd gwobr arweinyddiaeth

21 Medi 2017

Dr Mhairi McVicar with Leadership Award

Mae Cyfarwyddwr Ymgysylltu ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n arwain prosiect yn gweithio mewn partneriaeth gyda chymuned Grangetown, wedi ennill gwobr arweinyddiaeth bwysig.

Roedd Dr Mhairi McVicar yn fuddugol yng nghategori Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus yng Ngwobrau Arwain Cymru eleni ar ôl dangos “arweinyddiaeth ragorol”.

Fe'i henwebwyd am ei rôl arweiniol fel arweinydd prosiect Porth Caerdydd a Chyfarwyddwr Ymgysylltu yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

Dywedodd Dr McVicar: “Pleser a braint o’r mwyaf yw ennill gwobr Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus yng Ngwobrau Arwain Cymru, o ystyried safon arbennig y bobl oedd ar y rhestr fer.

“Rydw i’n arbennig o falch fod beirniaid y gwobrau wedi amlygu pwysigrwydd arweinyddiaeth ar y cyd a’r ffaith fod angen ymdopi ag ansicrwydd a methiant. Dyma elfennau craidd o unrhyw fenter sy’n cymryd siawns er mwyn ceisio cyflawni rhywbeth o safon...”

“Mae fy rhan i yn y wobr hon yn dibynnu’n llwyr ar nifer enfawr o myfyrwyr a staff Prifysgol Caerdydd yn ogystal â phartneriaid cymunedol Grangetown sydd wedi cefnogi a rhoi eu ffyrdd yn y prosiect Porth Cymunedol o’r cychwyn cyntaf. Dim ond o ganlyniad i’w hangerdd a’u hymrwymiad nhw yr ydym wedi gallu gwireddu’r syniadau a gafodd eu harwain gan y gymuned.”

Yr Athro Mhairi McVicar Project Lead, Community Gateway

“Rydw i'n edrych ymlaen at y camau nesaf wrth i ni weithio gyda'n gilydd.”

Gwobrau Arwain Cymru 2017 yw'r unig wobrau yng Nghymru ar gyfer arweinyddiaeth a chânt eu cynnal ar y cyd â'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheoli.

Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo amser cinio yng Ngwesty'r Hilton Caerdydd ddydd Iau 21 Medi.

Mae prosiect y Porth Cymunedol, sy'n rhan o raglen Trawsnewid Cymunedau’r Brifysgol, yn gweithio gyda phreswylwyr yr ardal i wneud Grangetown yn lle gwell fyth i fyw ynddo.

Rhannu’r stori hon

Could your research, teaching or skills support this idea? We want your help to develop projects in Grangetown.