Ewch i’r prif gynnwys

Rhedeg gyda Byddin Alfie (Alfie's Army)

23 Mehefin 2017

Gareth Thomas speaking to crowd

Mae arwr rygbi Cymru, Gareth 'Alfie' Thomas wedi rhoi her i ddau grŵp o redwyr ifanc amhrofiadol - Prifysgol Caerdydd sydd wedi dod â'r timau hyn ynghyd - i gwblhau Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd.

Bydd y ddau grŵp yn rhedeg fel rhan o fyddin Alfie, sy'n cynnwys o 100 o bobl. Byddant yn cael eu hyfforddi, eu cefnogi ac yn cael cyngor gan Alfie ei hun cyn y ras ddydd Sul, 1 Hydref – mewn 100 diwrnod.

Bydd rhedwyr Alfie, grŵp o bobl ifanc rhwng 17 ac 21, yn dilyn 'Alfie's Angels' y llynedd, sef grŵp o fenywod a oedd yn rhedwyr amhrofiadol.

Bydd dau o grwpiau Byddin Alfie yn cael eu ffilmio wrth hyfforddi ar gyfer cyfres 'Alfie's Army' ar BBC1 Cymru.

Gareth Thomas in crowd with hands in the air

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus eraill - gan gynnwys y ddau dîm o Brifysgol Caerdydd - yn cael cofrestru'n rhad ac am ddim i wneud y ras. Byddant hefyd yn cael rhaglen hyfforddi fanwl, a'r cyfle i gwrdd â'r dyn ei hun mewn sawl digwyddiad.

Mae'r ddau dîm o'r Brifysgol yn cynnwys myfyrwyr sy'n hyrwyddo lles ymysg eu cyfoedion, a grŵp o wirfoddolwyr o fforwm ieuenctid yn Grangetown a gefnogir gan brosiect ymgysylltu Porth Cymunedol y Brifysgol.

“Gwella iechyd”

Gareth Thomas with two young runners

Dywedodd Annabelle Hook, myfyriwr meddygol a chapten tîm hyrwyddwyr lles y myfyrwyr ei bod hi'n edrych ymlaen at fod yn rhan o Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd, sef ail hanner marathon mwyaf y DU.

“Rwy'n teimlo fy mod yn gorfod gwneud hyn fel myfyriwr yng Nghaerdydd. Mae pawb yn sôn cymaint amdano, ac mae cynifer o bobl yn cymryd rhan, mae awydd arnaf redeg unwaith i gael y profiad. Hefyd, mae'n wych anelu at rywbeth ar gyfer gwella iechyd,” dywedodd.

Dywedodd Ali Abdi, Rheolwr Partneriaethau'r Porth Cymunedol, a helpodd i ddod â'r tîm o wirfoddolwyr ar gyfer Fforwm Ieuenctid Grangetown at ei gilydd: “Mae Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd yn ddigwyddiad arbennig sy'n annog pobl i fyw bywydau iach a chorfforol...”

“Mae'n wych bod y Brifysgol yn cefnogi'r ras, ac rwy'n edrych ymlaen at weld ein gwirfoddolwyr o'r fforwm ieuenctid yn wynebu'r her ac yn cwblhau'r hanner marathon.”

Ali Abdi Partnerships and Facilities Manager

Dywedodd Gareth Thomas y byddai'r her o baratoi 100 o bobl ifanc rhwng 17 a 21 oed ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd yn “anoddach nag unrhyw broses yr ydym wedi ei gwneud o'r blaen, ond bydd yn fwy buddiol ar y diwedd.”

Ychwanegodd: “Bydd ganddynt allu a lefelau naturiol o ffitrwydd, ond mae ffyrdd llai iach o fyw yn fwy deniadol iddyn nhw yn ôl pob tebyg...”

“Eu hannog i fynd allan i redeg yn hytrach na threulio amser ar y cyfryngau cymdeithasol neu fynd i bartïon yw’r her.”

Gareth ‘Alfie’ Thomas Arwr rygbi Cymru

Ddydd Sadwrn diwethaf, rhoddodd cyn-seren Cymru a'r Llewod ddiwrnod i'w gofio i'r rhedwyr newydd wrth fynd â nhw ar eu sesiwn hyfforddi gyntaf o gwmpas Pentref Chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn Nhal-y-bont, ac ar hyd Taith Taf.

Prifysgol Caerdydd yw prif noddwr Hanner Marathon Caerdydd, ac mae'n ategu'r bartneriaeth a oedd gennym â Hanner Marathon y Byd IAAF a gynhaliwyd yng Nghaerdydd fis Mawrth y llynedd. Ymysg y rhedwyr yr oedd y pencampwr Olympaidd dwbl, Mo Farah.

Mae'r Brifysgol yn cynnig rhywfaint o leoedd yn rhad ac am ddim fel rhan o #TîmCaerdydd i redwyr sy'n ymrwymo i godi o leiaf £150 (neu £100 i fyfyrwyr) i'n gwaith ymchwil ar ganser, niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl. Bydd pob ceiniog o'r arian a godir gan #TîmCaerdydd yn mynd i'r achos o'u dewis ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae rhagor o wybodaeth am #TîmCaerdydd ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

Cymerwch ran mewn chwaraeon elît a hamdden ochr yn ochr â’ch astudiaethau, gyda thros 60 o glybiau a phedair canolfan chwaraeon ymroddedig ar y campws.