Ewch i’r prif gynnwys

9fed yn y DU am effaith ymchwil

12 Mai 2022

Mae Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd wedi'i gosod yn y 9fed safle yn y DU am effaith ymchwil yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf.

Mae REF yn broses o adolygu arbenigol a gynhelir bob chwe blynedd i asesu a dangos gwerth ac effaith yr ymchwil a wneir mewn sefydliadau addysg uwch ledled y DU. Eleni, bu i 157 o brifysgolion gymryd rhan yn yr asesiad; roedd hyn yn cynnwys 76,132 o staff academaidd a chyflwyniad o 6,781 o astudiaethau achos effaith.

Yn y fframwaith diweddaraf, barnwyd bod dros 80% o'r ymchwil a gyflwynwyd i'r Uned Asesu Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth, yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Mae hyn yn dwyn y gwaith a wneir gan gydweithwyr yr Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol y Gymraeg, sy'n rhannu diddordeb arbennig mewn dulliau rhyngddisgyblaethol a thrawswladol o ymdrin â diwylliannau llenyddol a gweledol, cyfieithu, treftadaeth a sosioieithyddiaeth, ynghyd.

Mae astudiaethau achos effaith o bob rhan o'r ysgolion yn ymdrin â phynciau mor amrywiol ag Exodus Paris yn yr Ail Ryfel Byd, cynllun mentora i annog pobl ifanc i ddysgu ieithoedd, dadansoddiad o Gomisiynwyr Iaith yng Nghymru ac Iwerddon, ac ymchwil a ddylanwadodd ar bolisi'r iaith Gymraeg ac a arweiniodd at ddatblygu adnoddau dysgu ac astudio newydd yng Nghymru.

Mae’r ddwy ysgol yn meithrin cymuned ymchwil gynhwysol, amrywiol a chydweithredol. Mae’r ffaith i 100% o’r staff cymwys gael eu cyflwyno i'r Uned Asesu hon yn adlewyrchu hyn, ac yn gosod y ddwy ysgol yn 11eg yn y DU o ran amgylchedd ymchwil.

Sicrhaodd ein cyfuniad dylanwadol o ysgolheictod yn y dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol, gyda ffocws cryf ar ymchwil ac iddi effaith, sy’n berthnasol i bolisi, gyfartaledd pwynt gradd (GPA) cyffredinol o 3.30.

Dywedodd yr Athro David Clarke, Pennaeth yr Ysgol Ieithoedd Modern, “Rwyf wrth fy modd gyda'r canlyniad cryf hwn ar gyfer yr Ysgol Ieithoedd Modern. Gall ein hymchwilwyr fod yn falch o'r cyflawniad hwn. Mae'n dangos nid yn unig ansawdd rhyngwladol ein hymchwil, ond hefyd yr effaith bwysig y mae'n ei chael y tu hwnt i'r brifysgol. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr i adeiladu ar y cryfderau hyn yn y blynyddoedd i ddod.”

Dewch i wybod rhagor am ganlyniadau cyffredinol Prifysgol Caerdydd a chanlyniadau'r ysgol yn ei huned asesu - Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth

Rhannu’r stori hon

Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yw’r system a ddefnyddir i asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU.