Ewch i’r prif gynnwys

Model mentora ar gyfer dysgu ieithoedd a’r tu hwnt

Mae ymchwil o dan adain Prifysgol Caerdydd wedi dylanwadu ar bolisïau ac arferion ac annog disgyblion Cymru i ddysgu ieithoedd.

Two young students in red glasses

Troi'r llanw mewn cyd-destun ymestynnol

Mae nifer y disgyblion sy'n astudio iaith fodern ar gyfer TGAU yng Nghymru wedi gostwng o 64% ers 2002 ac, yn Lloegr, o 48% dros gyfnod tebyg.

Mae ymchwil gydweithredol o dan adain yr Athro Claire Gorrara yn helpu i ddysgu pam mae disgyblion yn gyndyn o ddysgu ieithoedd a sut mae’u hysgogi trwy ddarganfyddiadau ieithyddol.

Prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern

Yr Athro Gorrara sy’n arwain y prosiect hwn ar ran pedair prifysgol yng Nghymru sy’n anfon israddedigion ac ôl-raddedigion i ysgolion uwchradd ar gyfer mentora disgyblion cyn dewis y pynciau y byddan nhw’n eu hastudio ar gyfer TGAU. Ymgysylltodd dros 10,000 o ddisgyblion â'r prosiect dros y pum mlynedd cyntaf.

Cynhaliodd yr Athro Gorrara ymchwil ynghyd â’r prosiect hefyd, gan ddangos y gall amryw fathau o fentora ddylanwadu ar agweddau at ddysgu ieithoedd yn yr ysgolion ac ysgogi disgyblion i astudio iaith fodern ar gyfer TGAU.

Mae myfyrwyr wedi bod yn fentoriaid iaith, gan ymgysylltu’n well â’r menteion am eu bod bron yn gyfoedion a dysgu a darganfod pethau ar y cyd. Ystyriwyd bod hynny’n allweddol i lwyddiant y prosiect.

Ffeithiau allweddol

  • Yn ôl gwerthuso annibynnol, dewisodd 57% o’r rhai gafodd eu mentora mewn 27 o ysgolion yn 2015-16 a 50% o’r rhai gafodd eu mentora mewn 43 o ysgolion yn 2016-17 astudio iaith fodern ar gyfer TGAU.
  • Mae hynny dros ddwbl cyfartaledd y wlad yn y blynyddoedd o dan sylw, lle ychydig dros 20% o ddisgyblion ddewisodd astudio iaith fodern ar gyfer TGAU yng Nghymru.
  • Ehangodd y prosiect yn sylweddol i gynnwys 87 o ysgolion yn 2018-19 ac, ar gyfartaledd, dewisodd 45% o’r menteion astudio iaith fodern ar gyfer TGAU. Yn 2019-20, bu'r prosiect yn ymwneud â 95 o ysgolion, tua hanner ysgolion uwchradd Cymru.

Pam mae’r gwaith hwn yn bwysig?

Mae’r mentora a’r ymchwil wedi ateb anawsterau ieithoedd modern megis diffyg diddordeb ymhlith disgyblion, tyb ei bod yn anodd dysgu iaith a’r farn nad yw pwnc o’r fath o fantais yn y cwrícwlwm.

Dangosodd yr ymchwil fod modd priodoli’r cynnydd yn nifer y rhai sy’n dewis astudio ieithoedd modern i agwedd greadigol y prosiect sy’n ennyn chwilfrydedd a diddordeb disgyblion. Roedd menteion iau yn llai tebygol o ystyried eu bod yn dysgu iaith i ddiben penodol, ac yn fwy tebygol o weld ieithoedd yn rhan o fedrau diwylliannol gwerthfawr gydol oes.

Dywedodd yr ysgolion a gymerodd ran fod nifer y disgyblion a ddewisodd astudio iaith fodern ar gyfer TGAU wedi dyblu ar gyfartaledd o ganlyniad i’r mentora.

Beth sydd wedi’i gyflawni ac ar bwy mae wedi effeithio?

Mae effeithiau'r prosiect yn ehangach o lawer na niferoedd. Mae dull y prosiect wedi’i ddefnyddio mewn prosiectau, pynciau a gwledydd eraill gan ddangos sut y gall helpu i newid agweddau disgyblion.

Defnyddiodd yr Athro Gorrara ddata o’r prosiectau canlynol yn ei hymchwil ddilynol a’i chyfraniad at ddatblygu trefn dysgu ieithoedd ar gyfer Cwrícwlwm Cymru.

Mentora ar y we

Mae Digi-Ieithoedd wedi’i sefydlu i gyrraedd myfyrwyr ardaloedd anghysbell Cymru trwy fentora electronig. Ymhlith y 18 ysgol a gymerodd ran yn y cam arbrofol, gwelodd 16 gynnydd yn nifer y rhai a ddewisodd ieithoedd modern ar gyfer TGAU.

Dewisodd 43% o ddisgyblion iaith fodern ar gyfer TGAU a dywedodd 58% fod yr arbrawf wedi newid eu hagweddau at ieithoedd ynglŷn â’r dyfodol.

Cymorth i ddisgyblion yn ystod argyfwng COVID-19

Lluniodd tîm y mentora raglen sesiynau dysgu rhyngweithiol o hirbell yn ystod y pandemig. Manteisiodd 400 o ddisgyblion dros 16 oed ar y cyfle i ymarfer ieithoedd, cadw eu hyder a meithrin medrau diwylliannol.

Roedd 98% o ddisgyblion o'r farn bod y sesiynau'n ddefnyddiol ac, ym mis Mawrth 2020, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai’n ariannu mentora ar ffurf ddigidol yn 2020-21.

Polisïau ac arferion y tu allan i Gymru

Rhoes Adran Addysg San Steffan arian i dîm Prifysgol Caerdydd i’w alluogi i gynnal rhaglen fentora gyfun (personol a digidol fel ei gilydd) o’r enw Language Horizons yn Swydd Efrog i gynyddu nifer y rhai a hoffai astudio ieithoedd modern ar gyfer TGAU. Ar ôl y rhaglen, dywedodd 59% o ddisgyblion y bydden nhw’n dewis astudio iaith fodern ar gyfer TGAU.

Yn sgîl hynny, fe roes Adran Addysg San Steffan arian i gynnwys 40 ysgol ychwanegol (1,000 o ddisgyblion) ledled de Swydd Efrog a gorllewin canolbarth Lloegr yn 2019-21.

Digi-Ieithoedd/Language Horizons yn Sbaen

Hyfforddodd yr Athro Gorrara a'i chydweithiwr, Lucy Jenkins, bedwar mentor israddedig yng Nghaerdydd i daenu efengyl amlieithog y mentora yn Sbaen (Castilla y Leon).

Gweithion nhw gyda 48 o ddisgyblion ysgol gynradd i gynyddu nifer y rhai fyddai’n dewis addysg ddwyieithog (Sbaeneg/Saesneg) wrth bontio i’r ysgol uwchradd. Dywedodd yr ysgol fod nifer y disgyblion a ddewisodd lwybr addysg ddwyieithog wedi cynyddu o 9%.

Edrych y tu hwnt i ieithoedd

Mae’r mentora wedi’i addasu i gynyddu nifer y merched sy’n astudio ffiseg ar gyfer TGAU a’r Safon Uwch yng Nghymru. Mae tair cyfres o fentora wedi digwydd bellach trwy brosiect Mentora Ffiseg.

Yn ôl gwerthuswyr allanol, cynyddodd nifer y merched a fynegodd ddiddordeb ynghylch astudio ffiseg ar gyfer y Safon Uwch o 38% ar ôl y mentora.

Student receiving advice from a mentor

Dyma’r tîm

Cysylltiadau pwysig