Ewch i’r prif gynnwys

Llysgenhadon MEDIC: addysgu ac ysbrydoli disgyblion Cymru

Ddechrau blwyddyn academaidd 2017/18, sefydlodd Ysgol Meddygaeth Caerdydd gynllun Llysgenhadon MEDIC.

Sam Cox Sully Primary visit
Dr Sam Cox, (MBBCh 2006) yn esbonio sut y gallwch ddod yn feddyg yn Ysgol Gynradd Sili.

Y ddau brif bwrpas yw:

  • Ehangu’r ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau Cymru gan roi cymorth a mentora ychwanegol i ddisgyblion ac athrawon, mireinio’r cwrícwlwm a chodi dyheadau o safbwynt ysgol feddygol.
  • Gwella medrau mentora, addysgeg, cyfathrebu a chyflogadwyedd ymhlith staff a myfyrwyr.

Mae ein tîm ymgysylltu yn meithrin cysylltiadau ag ysgolion a cholegau ledled Cymru fel y bydd sawl cyfle i Lysgenhadon MEDIC ymgysylltu â nhw.

Mae llysgenhadon wedi ymweld â rhai ysgolion uwchradd a chynradd yn barod gan gynnal amryw weithgareddau megis gweithdai am y corff, ffeiriau a sgyrsiau am yrfaoedd, gweithdai am ganser y ceilliau a sesiynau ‘adnabod eich corff’ i ferched a bechgyn fel ei gilydd.

Cofnodir gweithgareddau’r llysgenhadon fel y bydd tystiolaeth ar gyfer portffolio pob myfyriwr. Rhoddir cydnabyddiaeth trwy seremoni gwobrwyo myfyrwyr bob blwyddyn, hefyd.

Manteision y cynllun

Fitzalan Dec Testicular Cancer workshop
O’r chwith i’r dde: Llysgenhadon Meddygaeth Jomcy John, Lawrence Pugh a Jack Wellington yn cyflwyno gweithdy ar ganser y ceilliau i ddisgyblion blwyddyn 10 yn Ysgol Uwchradd Fitzalan.

Mae yna nifer o fanteision i staff, cynfyfyrwyr a myfyrwyr y Brifysgol sy'n cymryd rhan yn y cynllun, gan gynnwys:

  • Meithrin medrau cyflogadwyed
  • Mireinio medrau cyfathrebu
  • Hybu’r Cwrícwlwm Gwladol
  • Ysbrydoli gwyddonwyr, meddygon a phroffesiynolion gofal iechyd y dyfodol
  • Hwyluso strategaethau denu myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
  • Meithrin cysylltiadau ag ysgolion, gan gynnig gweithgareddau dysgu diddorol ac ysgogol.

Adborth llysgenhadon

Check your bits Fitzalan
O’r chwith i’r dde: Llysgenhadon Meddygaeth Leah Hawkins ac Akshita Dandawate yn cynnal sesiwn “Archwiliwch eich corff” i ddisgyblion blwyddyn 10 mewn Ffair Lles yn Ysgol Uwchradd Fitzalan.

Dyma adborth rhai o Lysgenhadon MEDIC hyd yma:

“Doedd dim profiad o ddysgu disgyblion gyda fi cyn dechrau. Mae’r profiad hwn wedi gwella fy medrau addysgu a gwneud imi deimlo’n fwy hyderus i siarad o flae cynulleidfa. Ar ôl siarad, fe gynhaliais i gwis i weld faint roedd y disgyblion wedi’i ddysgu. Atebodd 99% o’r disgyblion y cwestiynau yn gywir ac mae hynny’n dangos eu bod wedi gwrando ar y ddarlith a deall ei chynnwys.”

“Rwy’n fwy hyderus wrth ddysgu plant bellach - yn arbennig am bynciau megis cancr y fron, lle mae angen bod yn dringar."

Sut i gymryd rhan

Rydym wedi ymroi i godi dyheadau plant ysgolion Cymru. I ddysgu rhagor am raglen Llysgenhadon MEDIC, anfonwch neges at Karen Edwards, Swyddog Ymgysylltu Ysgol Meddygaeth Caerdydd:

Tîm Ymgysylltu Meddygol

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 29 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy Rhifyn 29

Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.